Rheolau newydd ar gyfer meysydd gwersylla dros dro yn dod i rym ar 1 Medi 2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno hawliau newydd ar gyfer datblygu a ganiateir i feysydd gwersylla dros dro sy’n newid sut y maent yn cael eu gweithredu a’u rheoleiddio ledled Cymru. Bwriad y newidiadau yw cefnogi twristiaeth gan sicrhau fod meysydd gwersylla yn cael eu rheoli’n ddiogel ac yn gyfrifol.

O dan y rheoliadau newydd, bydd meysydd gwersylla dros dro ar gyfer pebyll yn gyffredinol yn gallu gweithredu am hyd at 60 diwrnod bob blwyddyn calendr, o’i gymharu â’r lwfans o 28 diwrnod sydd mewn grym ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd meysydd gwersylla mewn Parciau Cenedlaethol, Tirweddau Cenedlaethol a Safleoedd Treftadaeth y Byd yn dal i gael eu cyfyngu i 28 diwrnod y flwyddyn.

O 1 Medi 2026 ymlaen, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gweithredu maes gwersylla dros dro o dan yr hawliau datblygu a ganiateir newydd hysbysu’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gyntaf i bennu a oes angen Cymeradwyaeth y Flaen Llaw.

Proses hysbysu newydd

Wrth ystyried a oes angen Cymeradwyaeth o Flaen Llaw, bydd awdurdodau cynllunio’n asesu materion megis rheoli dŵr gwastraff, gwaredu sbwriel / gwastraff a mynediad i gerbydau er mwyn sicrhau fod meysydd gwersylla yn gweithredu’n ddiogel heb unrhyw sgil effeithiau annerbyniol ar gymunedau, yr amgylchedd neu’r rhwydwaith priffyrdd.

Cyn agor maes gwersylla dros dro, bydd angen i weithredwyr gyflwyno gwybodaeth i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, gan gynnwys:

  • Cynllun o ddyluniad y safle.
  • Manylion lleiniau gwersylla ac amwynderau.
  • Gwybodaeth am doiledau a chyfleusterau dŵr gwastraff.
  • Trefniadau storio a gwaredu gwastraff.
  • Trefniadau mynediad priffyrdd.
  • Dyddiadau gweithredu arfaethedig.

Os oes gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol unrhyw bryderon am ddŵr gwastraff, gwaredu sbwriel / gwastraff a manylion mynediad i gerbydau, mae’n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth o flaen llaw.  Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth bellach fel y gallwn benderfynu a oes angen i chi wneud cais cynllunio llawn. Efallai y byddwn yn rhoi cymeradwyaeth ddi-amod o flaen llaw neu osod amodau sy’n rhesymol gysylltiedig â mater penodol.

Sut i wneud cais

Mae’r ffurflen Hysbysiad Ymlaen Llaw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).

Gellir cyflwyno cais trwy anfon y ffurflen wedi’i chwblhau a gwybodaeth at Dîm Rheoli Datblygu Sir Ddinbych ar cynllunio@sirddinbych.gov.uk.

Ni chodir ffi am y broses hysbysu hon ar hyn o bryd.

Rhagor o wybodaeth

Am wybodaeth fwy manwl am y newidiadau hyn, dylech gyfeirio at Nodyn Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).