Gwneud cais am garej cyngor

Mae gennym nifer o garejis ar gael i’w rhentu ar draws Sir Ddinbych. Mae’r rhain ar gyfer defnydd preifat, er mwyn storio cerbyd.

Ni ddylid defnyddio garej cyngor er dibenion busnes.

Gall unrhyw un rentu garej gennym ni; nid oes rhaid i chi fod yn denant i'r cyngor.

Sut y mae gwneud cais am garej y cyngor?

Gallwch wneud cais i rentu garej gennym drwy gwblhau'r ffurflen gais hon a'i dychwelyd i'r cyfeiriad sydd ar y ffurflen. Gallwch nodi hyd at 5 ardal ble yr hoffech gael garej.

Ffurflen gais rhestr aros am garej (PDF, 762KB)

Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn rhoi eich enw ar y rhestr aros, ac yn rhoi gwybod i chi pan fydd garej ar gael. Rydym yn dyrannu garejis yn ôl y rhestr aros, ac yn rhoi blaenoriaeth i'r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf.

Faint fydd y gost?

Codir rhent yn wythnosol. Gall unrhyw un rentu garej gennym ni, ond bydd y rhent ychydig yn is ar gyfer tenantiaid y cyngor.

Garej (ar gyfer tenantiaid y cyngor) - £7.33 yr wythnos

Garej (ar gyfer unigolion nad ydynt yn denantiaid y cyngor) - £8.80 yr wythnos

Sut i ddod â thenantiaeth y garej i ben?

Mae angen rhoi pythefnos o rybudd ar bapur os ydych yn dymuno dod â thenantiaeth y garej i ben.

Anfonwch lythyr at:

Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun
LL15 9AZ

Pan fyddwch yn dychwelyd yr allweddi mae'n rhaid i'r garej fod yn wag ac wedi'i hysgubo. Sylwer y bydd cost os oes rhaid i ni ei chlirio ar eich rhan.