Safonau tai cyngor

Pan rydych chi’n symud i dŷ cyngor, gallwch ddisgwyl ei fod yn cyrraedd safonau glendid ac iechyd a diogelwch penodol.

Rydym ni’n gwirio ein holl eiddo i sicrhau eu bod yn lân ac mewn cyflwr da. Rydym ni’n galw hyn yn Safon Osodadwy.

Cyn i chi symud i mewn i dŷ cyngor, byddwn yn gwneud yr holl waith atgyweirio sydd ei angen i wneud y tŷ yn addas i fyw ynddo.

Efallai bydd yn rhaid i ni wneud mân waith atgyweirio nad ydi o’n amharu ar eich iechyd a’ch diogelwch. Yn yr achosion hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn i chi symud i mewn beth ydi’r gwaith sydd angen ei wneud a byddwn yn ymgymryd â’r gwaith ar ôl i chi symud i mewn.