Cymorth â dyledion morgais neu ddyledion rhent

Os ydych chi’n poeni am dalu eich morgais neu eich taliadau rhent mae nifer o ffyrdd i chi gael cymorth a chefnogaeth. Y peth pwysicaf ydi gofyn am help gynted â’ch bod chi’n mynd i drafferthion.

Pa gymorth sydd ar gael?

Cynlluniau achub morgais

Mae’r cynllun hwn yn golygu bod cymdeithas dai yn prynu eich cartref chi gennych chi, ac rydych chi’n parhau i fyw yno fel tenant, ac yn talu rhent i’r gymdeithas dai. Mae gan Tai Wales & West (gwefan allanol) a Grŵp Cynefin (gwefan allanol) gynlluniau achub morgeisi.

Dyledion rhent

Mae’r rhain yn “ddyledion blaenoriaeth” ac os nad ydych chi’n mynd i’r afael â nhw fe allech chi golli eich cartref. 

Cyngor ar Bopeth Cymru

Mae Cyngor ar Bopeth (gwefan allanol) yn cynnig cyngor didduedd, am ddim, ynghylch sut i ddelio â dyledion morgais.