Gwybodaeth i landlordiaid

Mae'n rhaid i bob landlord ag eiddo rhent yng Nghymru fod wedi cofrestru, ac mae’n rhaid i asiantau a landlordiaid hunan-reoli gael trwydded i osod a rheoli gwaith mewn eiddo ar rent yng Nghymru

Ers 23 Tachwedd, 2016, mae pwerau gorfodi wedi bod yn weithredol a gall landlordiaid ac asiantwyr sydd ddim yn cydymffurfio â'r gyfraith newydd wynebu gwahanol gosbau gan gynnwys cael eu herlyn, hysbysiadau cosb benodedig, gorchmynion atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent. Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i adnabod y rheiny sydd yn parhau i beidio â chydymffurfio â’r gyfraith. Mae’r Cynghorau yn erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio.

Os ydych yn landlord neu’n asiant a dal heb gydymffurfio, peidiwch ag oedi. Mae’n bwysig eich bod yn cymryd y camau angenrheidiol yn awr i gydymffurfio i osgoi camau gweithredu. Gallwch gofrestru, wneud cais ar-lein a chael gwybod mwy ar wefan Rhentu Doeth Cymru (gwefan allanol).

Gallai gosod y cyfan neu ran o’ch eiddo ddarparu incwm rheolaidd i chi, tra’n rhoi cartref i rywun arall.

Lleithder a llwydni

Mae lleithder a thyfiant llwydni yn cael ei achosi gan ormod o wlybaniaeth, a all fod yn waeth mewn tywydd oer oherwydd diffyg gwres a’r modd i awyru. Er mwyn lleihau lleithder a thyfiant llwydni yn eich cartref, gallwch wneud y canlynol:

  • cadw’r gwres ymlaen yn isel ac osgoi gwresogi un ystafell yn unig
  • sicrhau bod ffaniau echdynnu yn cael eu defnyddio a bod ffenestri ar agor wrth ymolchi/cael cawod a choginio.
  • gwella’r modd o awyru drwy agor ffenestri am gyfnod byr bob bore i gael gwared ar y gwlybaniaeth sydd wedi cronni dros nos
  • cael gwared ar anwedd a gwlybaniaeth o ffenestri ac arwynebau cyn gynted ag y mae'n ymddangos
  • ceisio osgoi sychu dillad ar reiddiaduron neu wresogyddion
  • cadw bwlch bach rhwng dodrefn mawr a’r wal er mwyn caniatáu i aer gylchredeg

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am leithder a llwydni o lyfrgell adnoddau Rhentu Doeth Cymru (gwefan allanol)

Bondiau a blaen-daliadau

Mae rheolau caeth ynghylch sut y dylech ymdrin â’r blaen-dal rydych chi’n ei dderbyn gan eich tenantiaid. Cynigir tri chynllun diogelu blaen-dal: dau gynllun wedi eu seilio ar yswiriant, lle rydych chi, y landlord, yn talu premiwm fel eich bod chi’n medru cadw’r blaen-dal; ac un cynllun gwarchod, lle bo’r blaen-dal yn cael ei gadw ar eich rhan chi, am ddim, tan ddiwedd y denantiaeth.

Cysylltu â ni

Cysylltu â ni: Tai