Adolygiadau o dan y Ddeddf Trwyddedu

Pan fydd gweithrediad Trwydded Eiddo neu Dystysgrif Eiddo Clwb yn achosi niwed i unrhyw un o’r amcanion trwyddedu (rhwystro trosedd ac anhrefn; diogelwch y cyhoedd; atal niwsans cyhoeddus; diogelu plant rhag niwed) gall awdurdod cyfrifol neu barti sydd â chysylltiad wneud cais i’r cyngor am adolygu'r drwydded neu’r dystysgrif.

Rhai esiamplau o faterion a allai achosi adolygiad yw problemau gydag yfed dan oed yn yr eiddo, neu achosi niwsans i breswylwyr lleol gyda cherddoriaeth rhy uchel.

Cyn i chi wneud cais am adolygiad

Cyn i chi wneud cais am adolygiad, dylech geisio datrys y mater yn anffurfiol gyda deilydd y drwydded. Dywedwch wrthynt am y problemau yr ydych yn eu cael a rhowch gyfle iddynt geisio datrys y broblem.

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, rydym hefyd yn argymell eich bod yn cadw dyddiadur o achlysuron pan fo sŵn uchel neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd. Mae hefyd yn helpu i adrodd am y broblem wrth y Cyngor, neu wrth yr Heddlu, hyd yn oed os na ellir cymryd camau ar y pryd hwnnw.

Sut ydw i’n gwneud cais am adolygiad?

I wneud cais am adolygiad trwydded eiddo, mae angen i chi gwblhau ffurflen gais am adolygiad a'i anfon at: Adran Trwyddedu, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ. Os oes gennych unrhyw ddogfennau cefnogol (e.e. dyddiadur digwyddiadau) dylech amgáu'r rhain gyda’ch ffurflen.

Cais i adolygu trwydded eiddo neu dystysgrif eiddo clwb (PDF, 201KB)

Mae’n rhaid i chi hefyd anfon copi o’r ffurflen ac o unrhyw ddogfennau amgaeedig at ddeiliaid y drwydded ac at bob un o’r awdurdodau cyfrifol. Mae’n rhaid i chi wneud hynny ar yr un diwrnod yr ydych yn anfon eich cais atom ni.

Awdurdodau cyfrifol i Gyngor Sir Ddinbych (PDF, 153KB)

Beth sy’n digwydd nesaf?

Gall deiliad trwydded yr eiddo, yr awdurdodau cyfrifol a phartïon sydd â chysylltiad, gyflwyno sylwadau i ni ynglŷn â’ch cais, a byddwn ni yn cynnal gwrandawiad i’w hystyried. Byddwn ni’n dweud wrthych pryd y bydd y gwrandawiad yn digwydd a’r hyn y bydd angen i chi ei wneud er mwyn paratoi ar ei gyfer.

Yn y gwrandawiad, bydd y Is-bwyllgor trwyddedu yn penderfynu ar un o’r camau gweithredu canlynol: 

  • Penderfynu nad oes angen gweithredu 
  • Cyhoeddi rhybuddion ffurfiol ac/neu argymell gwelliannau o fewn amser penodol 
  • Addasu amodau’r drwydded e.e. cwtogi oriau agor yr adeilad neu nodi’r angen am oruchwyliaeth drws a/neu TCC 
  • Eithrio gweithred drwyddedadwy o fewn ffiniau’r drwydded 
  • Cael gwared ar y goruchwyliwr safle penodedig 
  • Diddymu’r drwydded am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis 
  • Tynnu’r drwydded yn ei hôl.

Mae gan y sawl a wnaeth gais am adolygiad, deilydd trwydded yr eiddo ac unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau hawl i apelio yn erbyn ein penderfyniad.