Plant mewn perfformiadau

Mae Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 bellach yn weithredol a'u bwriad yw diogelu plant o dan oed gadael ysgol sy'n gweithio ac/neu'n perfformio yn y diwydiant adloniant, modelu neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau eraill. Mae'r angen am drwydded yn dibynnu ar yr hyn sy'n cael ei drefnu. Y prif ffactorau sy'n nodi bod angen trwydded yw:

  • Os codir tâl mynediad neu dâl am reswm arall
  • Os yw'r perfformiad ar safle â thrwydded i werthu alcohol (hyd yn oed os bydd y bar ar gau yn ystod y perfformiad)
  • Os bydd y perfformiad yn cael ei ddarlledu'n fyw (teledu, radio neu ffrydio ar y rhyngrwyd)
  • Os bydd y perfformiad yn cael ei recordio i'w ddefnyddio mewn darllediad neu ffilm a fydd yn cael ei weld gan y cyhoedd
  • Unrhyw weithgaredd lle mae plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu fodelu lle mae taliad, (ac eithrio treuliau) yn cael ei wneud.
  • Rhaid cael caniatâd y Pennaeth am unrhyw absenoldeb o ysgol

Ffurflenni

Mae rhai eithriadau, ond mae'r rhain ond yn berthnasol lle nad oes taliad yn cael ei wneud i blant sy'n perfformio, neu mewn perthynas â hynny, pwy bynnag sy'n cymryd y taliad;

  • Perfformiad a drefnir gan ysgol (ysgol addysgol, nid ysgol ddawns neu sefydliad tebyg)
  • Mae'r plentyn wedi perfformio am lai na 4 diwrnod yn y 6 mis diwethaf - os oes angen absenoldeb o'r ysgol, yna mae angen cymeradwyaeth ysgrifenedig Pennaeth.

Mae'r rheolau sy'n llywodraethu plant mewn adloniant yn cynnwys plant sy'n cymryd rhan mewn 'perfformiadau' gan gynnwys pob perfformiad darlledu a theatr, ffotograffiaeth plant a modelu.

Mewn rhai achosion gall trefnydd ymgeisio am Gymeradwyaeth Dorfol sy'n ymwneud â'r holl blant sy'n perfformio mewn un gymeradwyaeth. Gallai hyn fod yn ddewis da i grwpiau amatur ac ysgolion. Gofyniad allweddol yw nad yw'r plentyn yn cael ei dalu a bod gan y sefydliad system gadarn ac effeithiol ar waith i ddiogelu plant yn ystod ymarferion a pherfformiad.

Ffurflen gais gymeradwyaeth dorfol (PDF, 260KB)

Ni chodir tâl am drwyddedau perfformiad plant na Chymeradwyaethau Torfol.

Rheolau sy'n berthnasol i bob perfformiad

P'un a oes angen trwydded ai peidio, mae'n rhaid i drefnwyr sicrhau nad yw plant yn gweithio (perfformio neu ymarfer) yn hirach neu'n hwyrach na'r hyn sy'n cyd-fynd â'u hoedran. Rhaid i blant gael egwyliau priodol. Nid yw amser a dreulir yn cael colur, yn y cwpwrdd dillad neu baratoad corfforol arall yn cyfrif fel egwyl. Fel arfer, dylai egwyl dros nos fod o leiaf 14 awr.

Ni ddylai unrhyw blentyn sy'n cymryd rhan mewn perfformiad gymryd rhan mewn unrhyw gyflogaeth arall ar ddiwrnod y perfformiad neu'r diwrnod canlynol. Nid yw hyn yn effeithio ar berfformiadau ddau ddiwrnod yn olynol.

Hebryngwyr

Ni all plant gael gofal priodol a chael eu goruchwylio gan rieni neu athrawon drwy'r amser wrth ymarfer neu berfformio, ac felly caiff hebryngwyr eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol. Rhaid i'r hebryngwr weithredu er lles gorau'r plentyn ac felly mae'n rhaid cael hyfforddiant priodol.

Gall cais am drwydded hebryngwr gymryd hyd at chwe wythnos i’w brosesu.

Amserlenni a Chyfathrebu

Dylid cyflwyno ffurflenni cais ar gyfer trwyddedau perfformio a chymeradwyaethau corff o bobl ddim llai na 21 diwrnod cyn cychwyn y gweithgaredd. Gallai rhai ceisiadau trwydded gymryd llai o amser i'w prosesu ond ni ellir gwarantu hyn.