Trwydded Cyflogi Plentyn

Rhaid i chi gael trwydded cyflogi plentyn os ydych am gyflogi plentyn. Mae’n anghyfreithlon cyflogi plentyn o dan 13 oed, ac mae cyfyngiadau’n weithredol nes eu bod yn cyrraedd oedran gadael yr ysgol.

Yn ôl y gyfraith, mae plentyn yn gyflogedig os yw ef neu hi yn cynorthwyo mewn masnach neu alwedigaeth sy’n cael ei gynnal ar gyfer gwneud elw – os yw’r plentyn yn derbyn unrhyw daliad neu wobr am y gwaith hwnnw ai peidio.  Gall rhiant gael ei ystyried i fod yn gyflogwr.

  • Mae’n anghyfreithlon cyflogi plentyn o dan 13 oed. Ni allwch wneud cais am drwydded cyn i’r plentyn gael ei ben-blwydd / ei phen-blwydd yn 13 oed. 
  • Mewn mathau penodol o waith yn unig y gellir cyflogi plant. 
  • Ni chaiff unrhyw blentyn weithio unrhyw bryd rhwng 7pm a 7am. 
  • Ni chaiff unrhyw blentyn weithio mwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol. 
  • Rhaid i blentyn sy’n gweithio am 4 awr gael seibiant am o leiaf 1 awr. 
  • Mae niferoedd gwahanol o oriau gwaith yn cael eu caniatáu ar gyfer plant 13/14 oed a phlant 15/16 oed. 
  • Ni chaiff unrhyw blentyn weithio mwy na 2 awr ar ddydd Sul.

Darganfod mwy am y mathau penodol o waith y caiff plant eu gwneud a’r oriau y cânt weithio. Mae sawl math o waith wedi eu gwahardd i blant sydd o dan oedran gadael yr ysgol.

Mathau o waith ac oriau gwaith a ganiateir ar gyfer plant (PDF, 341KB)

Sut ydw i’n gwneud cais?

Mae trwyddedau cyflogi yn benodol i’r plentyn, y cyflogwr, y man gwaith a’r math a’r oriau o waith. Os oes gan blentyn fwy nag un swydd, bydd arnynt angen trwydded ar gyfer pob swydd.

Mae trwyddedau cyflogi yn dibynnu ar y lleoliad lle mae’r plentyn yn gweithio, nid prif swyddfa’r cyflogwr. Er enghraifft, os yw plentyn yn gweithio yn Sir Ddinbych i gwmni sydd wedi ei leoli yn Wrecsam, dylai’r cyflogwr wneud cais am drwydded i Gyngor Sir Ddinbych. Os yw plentyn yn gweithio yn Wrecsam i gwmni sydd wedi ei leoli yn Sir Ddinbych, dylai’r cyflogwr wneud cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

I wneud cais am drwydded cyflogi plant, llenwch y ffurflen gais a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen ynghyd ag; 

  • Asesiad risg sy’n berthnasol i'r gweithgareddau sydd ar y gweill i’r person ifanc
  • Copïau o yswiriant atebolrwydd personol a chyhoeddus
  • 2 lun pasbort o’r plentyn

Ffurflen gais am drwydded cyflogaeth plant (PDF, 268KB)

Amserlen

Rhaid i gyflogwyr gyflwyno’r ffurflenni wedi eu cwblhau ddim hwyrach nag o fewn 1 wythnos i gychwyn y gwaith.

Faint mae'n gostio?

Nid chodir tâl am drwydded cyflogi plentyn.