Dofednod a ffliw adar

Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan - ar waith o 12pm (hanner dydd) 16 Tachwedd 2026

Darllen datganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar Llyw.Cymru (gwefan allanol)

Mynd yn syth i:

Dofednod

Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth yng Nghymru gadw eu hadar o dan do o 13 Tachwedd 2025 (gwefan allanol)

O 13 Tachwedd 2025, bydd yn ofyn cyfreithiol i bob ceidwad sy'n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw ei adar dan do.

Bydd heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth yn gorfod cael eu cadw dan do hefyd os yw eu hwyau neu eu cynhyrchion yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd, oherwydd y risg uwch o drosglwyddo'r clefyd sy'n gysylltiedig â masnachu neu roi cynhyrchion dofednod i ffwrdd.

Gwaharddiad ar grynhoi dofednod yng Nghymru

O 10 Chwefror 2025, ni chaniateir cynulliadau o ddofednod yng Nghymru mwyach, fodd bynnag, gall cynulliadau o rai adar caeth barhau, ar yr amod eich bod:

  • bodloni gofynion y drwydded gyffredinol casglu adar caeth
  • hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am y cyfarfod o leiaf 7 diwrnod cyn y digwyddiad

Ydych chi'n cadw dofednod neu adar hela? Ydych chi wedi cofrestru?

Mae pob ceidwaid adar angen cynllunio sut y byddant yn gwarchod eu haid rhag afiechydon fel Avian influenza (‘ffliw adar’), afiechyd Newcastle a Salmonela. Os nad ydych yn sicr beth i’w wneud, yna ceisiwch gyngor gan eich milfeddyg.

Y ffordd orau o gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw achosion o glefyd (fel ffliw adar) yn eich ardal yw cofrestru eich praidd o adar gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Cysylltir â chi ar unwaith, drwy e-bost neu neges destun gyda diweddariadau, gan eich galluogi i ddiogelu eich dyfednod cyn gynted â phosibl.

Sut i Gofrestru?

Rhaid i chi gofrestru heidiau dofednod o 1 neu fwy o adar yr ydych yn berchen arnynt neu'n gyfrifol amdanynt. Nid oes rhaid iddynt i gyd fod or un rhywogaeth. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os mai dim ond am ran o'r flwyddyn y mae eich eiddo wedi'i stocio.

GOV.UK: Cofrestru fel ceidwad 50 neu fwy o ddofednod neu adar caeth eraill (gwefan allanol)

GOV.UK: Cofrestru fel ceidwad llai na 50 o ddofednod neu adar caeth eraill (gwefan allanol)

Trwy e-bost

Cwblhewch y ffurflen gofrestru ar gael yn GOV.UK: Dofednod (gan gynnwys adar hela) - rheolau a ffurflenni cofrestru (gwefan allanol), a'i e-bostio i customer.registration@apha.gov.uk.

Mae nodiadau canllaw i'ch helpu i gwblhau'r ffurflen. Mae fersiynau Cymraeg o'r ffurflen gofrestru a nodiadau canllaw ar gael hefyd.

Dros y ffôn

Gofynnwch am ffurflen gofrestru drwy gysylltu â Llinell Gymorth Cofrestr Dofednod Prydain Fawr ar 0800 634 1112.

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5:00pm o ddydd Llun i dydd Gwener.

Darganfod mwy am gadw dofednod (gwefan allanol)

Yn ôl i frig y dudalen.

Ffliw adar

Datganiad parthau gwarchod a gwyliadwriaeth ffliw adar: 24 Mehefin 2025

Mae achos o ffliw adar yn Glyn Ceiriog, Wrecsam. Mae Parth Gwarchod 3km a Pharth Gwyliadwriaeth 10km wedi’u sefydlu o amgylch y safle heintiedig. Mae rhan o Sir Ddinbych yn y Pharth Gwyliadwriaeth 10k.

Gweld manylion o’r mesurau sydd yn gweithredu yn y parthau yma yn y datganiad gan Lywodraeth Cymru (gwefan allanol)

Mae’r risg o’r feirws HPAI (ffliw adar) yn cynyddu yn ystod y gaeaf. Mae aderyn dŵr mudol (sy’n cynnwys hwyaid, gwyddau ac elyrch) a gwylanod wedi eu nodi fel achos mwyaf posibl ymosodiad HPAI. Mae hyn yn seiliedig ar brofiad dros y ddau aeaf diwethaf, ynghyd â barn wyddonol a milfeddygol.  Cafwyd nifer o ganfyddiadau diweddar o HPAI H5N1 mewn adar gwyllt o safleoedd ledled Prydain Fawr.

Darganfod sut i gofrestru i dderbyn y rhybuddion gwybodaeth gorau i gadw’ch adar yn ddiogel.

Rhoi gwybod am adar marw a’u gwaredu

Ffoniwch linell gymorth Defra (03459 33 55 77) os gwelwch:

  • un neu fwy o adar ysglyfaethus neu dylluanod wedi marw
  • 3 neu fwy o wylanod neu adar dŵr gwyllt (elyrch, gwyddau neu hwyaid) marw
  • 5 neu fwy o unrhyw adar gwyllt eraill wedi marw

Rhowch wybod hefyd i linell gymorth Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000

Peidiwch â chodi na chyffwrdd ag unrhyw adar marw neu sâl.

Peidiwch â rhoi gwybod i linell gymorth Defra am adar gwyllt sâl neu wedi’u clwyfo y gwelwch chi.  Ffoniwch yr RSPCA (yng Nghymru neu Loegr) ar 0300 1234 999 am help.

Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn casglu rhai o’r adar gwyllt marw hyn a’u profi i’n helpu ni i ddeall dosbarthiad daearyddol y clefyd a’r mathau gwahanol o adar mae’r clefyd yn effeithio arnynt. Ni fydd pob aderyn yn cael ei gasglu.

Pan nad oes angen adar marw at ddibenion monitro, y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am gael gwared ar y carcasau mewn modd diogel.

Cael gwared ar adar marw a welir ar safleoedd domestig

Ar ôl cysylltu â Llinell Gymorth DEFRA (03459 33 55 77) i adrodd am adar marw, os nad oes angen yr adar at ddibenion monitro, dilynwch y cyngor isod ynghylch cael gwared arnynt.

Gwaredu mewn gwastraff domestig neu wastraff trefol

  • os oes modd, dylid gwisgo menig diogelu untro wrth godi ac ymdrin ag adar marw gwyllt. Os nad oes menig untro ar gael, gellir defnyddio bag plastig yn lle maneg
  • rhowch yr aderyn mewn bag plastig addas, yn ddelfrydol bag na fydd yn gollwng. Dylid cymryd gofal i beidio â halogi tu allan y bag
  • ar ôl codi’r aderyn, gellir plygu’r bag yn ddwbl a’i glymu. Dylid wedyn roi’r bag hwn mewn bag plastig arall, clymu’r bag hwnnw a gwaredu arno yn y gwastraff domestig arferol (bin â chaead y tu allan i’r tŷ)
  • clymwch y bag a’i roi mewn bag plastig arall
  • tynnwch y menig drwy eu troi tu chwith allan a’u rhoi yn yr ail fag plastig
  • clymwch y bag a chael gwared arno yn y bin gwastraff domestig arferol

Claddu

  • gellir claddu’r aderyn marw, ond nid mewn bag plastig
  • rhaid claddu’r aderyn mewn twll sy’n ddigon dwfn i atal anifeiliaid rhag ysglyfaethu a chael o hyd iddo – argymhellir o leiaf 60cm
  • ni ddylid claddu’r aderyn ar bwys unrhyw gyrsiau dŵr, neu mewn mannau sy’n debygol o halogi cyflenwadau dŵr lleol

Yn ôl i frig y dudalen.