Tybaco Anghyfreithlon

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a’r CThEM ac yn ymweld yn rheolaidd ag eiddo sydd dan amheuaeth o gyflenwi tybaco anghyfreithlon.

O fewn y DU mae rhai mathau o dybaco sy’n cael eu gwerthu’n anghyfreithlon, gall rhain bod yn cigarettes neu tybaco rolio â llaw. Mae'r masnach tybaco wedi cael ei cysylltu i troseddu cyfundrefnol ac amrywiaeth o masnachoedd anghyfreithiol eraill.

Gall tybaco anghyfreithlon fod ar wahanol ffurf, yn bennaf yn y ffurfiau canlynol:

Ffug

Mae Tybaco Ffug fel arfer yn dybaco rhad sydd wedi cael eu gwneud i edrych fel brandiau dilys. Fel arfer maent wedi cael ei weithgynhyrchu yn anghyfreithlon ac yna ei werthu heb ganiatâd o’r deiliad masnach. Mi all arwyddion o dybaco ffug ymddangos fel:

  • camgymeriadau sillafu ar bacedi
  • ansawdd gwael
  • rhybuddion iechyd tramor
  • all fod gyda blas rhyfedd

Arwydd arall posibl o dybaco ffug yw’r pris o’r cynnyrch. Er enghraifft mae £3/£4 ar gyfer paced o 20 sigaréts yn llawer rhatach na be fydd y gost am gynnyrch y brandiau dilys.

Sigarennau o dramor a werthir yn anghyfreithlon (Illicit Whites)

Mae cyflenwi o ‘Illicit Whites’ yn anghyfreithlon yn y DU. Yr arwyddion i gwlio allan amdan yw enw’r brand. Y brandiau nodweddiadol yw:

  • Jin Ling
  • L & M
  • Raquel
  • Richman and Bon

Nid yw’r brandiau yma yn cael ei chydnabod yn y DU, felly nid yw’n cynhyrchion dilys. Maent yn smyglo’r cynnyrch yma i mewn heb dalu dyletswydd.

Tybaco wedi ei smyglo i’r wlad (Bootlegged)

Mae’r math yma o dybaco anghyfreithlon wedi’i fwriadu ar gyfer eu gwerthu mewn gwledydd gyda threthi isel, mae’n cael ei brynu yn y DU yn anghyfreithlon ac yn cael ei werthu yn anghyfreithlon.

Mi all y math yma o dybaco cynnwys brandiau dilys. Yr arwyddion ar gyfer gweld y cynnyrch yma yw:

  • Rhybuddion iechyd tramor
  • Dim rhybuddion darluniadol
  • Pris y cynnyrch (yr un pris a’r cynnyrch ffug)

Problemau gyda thybaco anghyfreithlon

Mae’r rheolau presennol ar gyfer gwerthu tybaco’n cael eu tanseilio gan werthwyr anghyfreithlon. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar dybaco anghyfreithlon ac felly mae ar gael i blant, ni thelir unrhyw drethi ac ni fydd gwerthiant yn cydymffurfio â’r gwaharddiadau a arddangosir yn y pwynt gwerthu.

Mae problemau pellach yn cynnwys:

  • Mae pris isel tybaco anghyfreithlon yn golygu eu bod yn fwy fforddiadwy, yn annog pobl i ysmygu mwy ac yn llai tebygol o rhoi gorau i ysymgu, hefyd yn effeithio ar ei iechyd.
  • Mae cyflenwyr yn targedu cymunedau tlawd dan anfantais
  • Mae cysylltiadau sicr â throseddu cyfundrefnol
  • Mae gwerthiant anghyfreithlon yn tanseilio manwerthwyr ag iddynt enw da

Arddangos a marcio prisiau nwyddau tybaco

Yn ôl Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo (Arddangos) Tybaco (Cymru) 2012 rhaid i unrhyw nwyddau tybaco sy’n cael eu harddangos gael eu gorchuddio.

Mae'n anghyfreithlon arddangos nwyddau tybaco yn y siopau a’r busnesau perthnasol, ac eithrio i bobl dros 18 oed. Mae diffyg cydymffurfio’n drosedd.

Gweld canllawiau Llywodraeth Cymru (external website)

Gyda phwy ydw i’n cysylltu?

Os ydych chi eisiau rhoi gwybod am achos o werthu tybaco’n anghyfreithlon yn Sir Ddinbych, cysylltwch â Gwasanaeth Cyngor Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506.

Gallwch wneud hyn yn ddienw a bydd yr achos yn cael ei atgyfeirio i swyddogion yr adran berthnasol.