Ffliw adar

Canllawiau Llywodraeth Cymru: Ffliw adar - y diweddaraf

Adnabod y risg ddiweddaraf i'ch dofednod a'ch adar anwes a'r camau y mae'n ofynnol i chi eu cymryd, yn cynnwys y mesurau cadw dan do a bioddiogelwch gorfodol newydd ar gyfer dofednod ac adar caeth yng Nghymru. Daeth y mesurau newydd i rym ledled Cymru ddydd Gwener, 2 Rhagfyr 2022.

Llywodraeth Cymru: Ffliw adar - y diweddaraf (gwefan allanol)

Mae’r risg o’r feirws HPAI (ffliw adar) yn cynyddu yn ystod y gaeaf. Mae aderyn dŵr mudol (sy’n cynnwys hwyaid, gwyddau ac elyrch) a gwylanod wedi eu nodi fel achos mwyaf posibl ymosodiad HPAI. Mae hyn yn seiliedig ar brofiad dros y ddau aeaf diwethaf, ynghyd â barn wyddonol a milfeddygol.  Cafwyd nifer o ganfyddiadau diweddar o HPAI H5N1 mewn adar gwyllt o safleoedd ledled Prydain Fawr.

Darganfod sut i gofrestru i dderbyn y rhybuddion gwybodaeth gorau i gadw’ch adar yn ddiogel.

Rhoi gwybod am adar marw a’u gwaredu

Ffoniwch linell gymorth Defra (03459 33 55 77) os gwelwch:

  • un neu fwy o adar ysglyfaethus neu dylluanod wedi marw
  • 3 neu fwy o wylanod neu adar dŵr gwyllt (elyrch, gwyddau neu hwyaid) marw
  • 5 neu fwy o unrhyw adar gwyllt eraill wedi marw

Rhowch wybod hefyd i linell gymorth Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000

Peidiwch â chodi na chyffwrdd ag unrhyw adar marw neu sâl.

Peidiwch â rhoi gwybod i linell gymorth Defra am adar gwyllt sâl neu wedi’u clwyfo y gwelwch chi.  Ffoniwch yr RSPCA (yng Nghymru neu Loegr) ar 0300 1234 999 am help.

Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn casglu rhai o’r adar gwyllt marw hyn a’u profi i’n helpu ni i ddeall dosbarthiad daearyddol y clefyd a’r mathau gwahanol o adar mae’r clefyd yn effeithio arnynt. Ni fydd pob aderyn yn cael ei gasglu.

Pan nad oes angen adar marw at ddibenion monitro, y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am gael gwared ar y carcasau mewn modd diogel.

Cael gwared ar adar marw a welir ar safleoedd domestig

Ar ôl cysylltu â Llinell Gymorth DEFRA (03459 33 55 77) i adrodd am adar marw, os nad oes angen yr adar at ddibenion monitro, dilynwch y cyngor isod ynghylch cael gwared arnynt.

Gwaredu mewn gwastraff domestig neu wastraff trefol

  • os oes modd, dylid gwisgo menig diogelu untro wrth godi ac ymdrin ag adar marw gwyllt. Os nad oes menig untro ar gael, gellir defnyddio bag plastig yn lle maneg
  • rhowch yr aderyn mewn bag plastig addas, yn ddelfrydol bag na fydd yn gollwng. Dylid cymryd gofal i beidio â halogi tu allan y bag
  • ar ôl codi’r aderyn, gellir plygu’r bag yn ddwbl a’i glymu. Dylid wedyn roi’r bag hwn mewn bag plastig arall, clymu’r bag hwnnw a gwaredu arno yn y gwastraff domestig arferol (bin â chaead y tu allan i’r tŷ)
  • clymwch y bag a’i roi mewn bag plastig arall
  • tynnwch y menig drwy eu troi tu chwith allan a’u rhoi yn yr ail fag plastig
  • clymwch y bag a chael gwared arno yn y bin gwastraff domestig arferol

Claddu

  • gellir claddu’r aderyn marw, ond nid mewn bag plastig
  • rhaid claddu’r aderyn mewn twll sy’n ddigon dwfn i atal anifeiliaid rhag ysglyfaethu a chael o hyd iddo – argymhellir o leiaf 60cm
  • ni ddylid claddu’r aderyn ar bwys unrhyw gyrsiau dŵr, neu mewn mannau sy’n debygol o halogi cyflenwadau dŵr lleol