Safonau’r Gwasanaeth Trwyddedu
Mae Safonau ein Gwasanaeth Trwyddedu yn egluro’r hyn allwch ei ddisgwyl gennym wrth ymgeisio am drwyddedau, yn ystod archwiliadau a gorfodi, a sut i gysylltu â ni neu ddarparu adborth.
Cynnwys:
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y Gwasanaeth Trwyddedu
Mae’r dudalen hon yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan yr Adain Drwyddedu yn Sir Ddinbych.
P’un a ydych chi’n rhedeg busnes, yn weithiwr neu’n aelod o’r cyhoedd, rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth effeithlon, cwrtais a defnyddiol ichi ac mae’r dudalen hon yn egluro sut awn ati i wneud hynny ac yn pennu’r safonau y byddwn yn eu cyflawni.
Mae gennym dîm o swyddogion diwyd sy’n meddu ar y cymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol i ddarparu’r gwasanaethau dan sylw..
Yn ôl i restr cynnwys
Beth mae ein Gwasanaeth Trwyddedu’n ei wneud?
Rydym yn rheoleiddio busnesau sy’n cynnig y nwyddau neu wasanaethau canlynol:
- Alcohol, Adloniant wedi’i Reoleiddio a Lluniaeth yn Hwyr y Nos (Tafarndai, Clybiau, Siopau Diodydd, Archfarchnadoedd, Bwytai a Siopau Pryd ar Glud ac yn y blaen)
- Tacsis (gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr)
- Gamblo (siopau betio, canolfannau hapchwarae i oedolion a thrwyddedau hapchwarae ac yn y blaen)
- Triniaethau Arbennig (tatŵio, tyllu rhannau o’r corff, aciwbigo ac yn y blaen)
- Delwyr Metel Sgrap a Gweithredwyr Adennill Cerbydau Modur
- Sefydliadau Rhyw
- Casgliadau elusennol (ar y stryd ac o dŷ i dŷ)
- Masnachu ar y stryd
Yn ôl i restr cynnwys
Sut i gysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni:
- Rhif ffôn: 01824 706342:
- rhwng 8:30am a 12:30pm dydd Llun i ddydd Gwener
- ar ôl 12:30 mae gennym wasanaeth negeseuon ffôn
- defnyddir ffôn ateb a gaiff ei fonitro
- E-bost
- drwy'r post: Blwch Post 62, Rhuthun LL15 9AZ
Fe wnawn ymdrech i weithio â chi yn y ffordd fwyaf addas i’ch anghenion chi, ond cysylltu drwy e-bost sydd orau gennym.
Cyfathrebu
Ein Safonau Gwasanaeth pan fyddwch yn cysylltu â ni yw:
- Pan fyddwch chi’n anfon e-bost atom, ein nod yw, darparu cydnabyddiaeth awtomatig ar unwaith, ac
- ymateb i’ch cais cyn pen 10 o ddiwrnodau gwaith
- rhoi gwybod ichi os na fedrwn ymateb yn llawn o fewn 10 diwrnod gwaith a dweud pa bryd y byddwn yn medru ymateb.
- Pan fyddwch chi’n ein ffonio ni rhwng 8.30am a 12.30pm, ein nod yw ateb eich galwad cyn gynted â phosib a sicrhau y cyfeirir eich ymholiad neu gais at yr unigolyn cywir y tro cyntaf.
- Pan fyddwch chi’n ein ffonio rhwng 12.30pm a 5.00pm (4.30pm ar ddydd Gwener) fe gewch eich trosglwyddo i’n gwasanaeth negeseuon ffôn a chlywed amryw ddewisiadau, ac yn gyntaf oll fe’ch cynghorir i fynd i’n gwe-dudalennau trwyddedu sy’n cynnwys gwybodaeth gyffredinol a ffurflenni cais
- Os na fedrwch ddod o hyd i’r hyn y dymunwch, anfonwch e-bost atom ac fe atebwn eich ymholiad fel yr amlinellwyd.
- Ymatebir i negeseuon ffôn ateb o fewn 1 diwrnod gwaith.
Yn ôl i restr cynnwys
Amcanion
Ein hamcanion yw:
- Gweinyddu’r holl geisiadau trwyddedu’n effeithiol
- Cynnal rhaglen o arolygu eiddo, pobl a cherbydau
- Cymryd camau gorfodi effeithiol yn erbyn y rhai hynny sy’n mynd yn groes i’r gofynion trwyddedu
- Darparu gwasanaeth effeithlon a hwylus i ymdrin ag ymholiadau a chwynion gan gwsmeriaid
- Adolygu polisïau, gweithdrefnau, amodau ac ati
Yn ôl i restr cynnwys
Sut y gallwch ein helpu
Rydym yn ymrwymo i gynnig gwasanaeth gwych i gwsmeriaid a bodloni eu disgwyliadau. Gallwch ein helpu i gyflawni hynny mewn amryw ffyrdd, gan gynnwys:
- defnyddio’r rhan helaeth o’n gwasanaeth ar-lein; fel arfer, ein gwefan yw’r ffordd gyflymaf a rhwyddaf o gael mynediad at ein gwasanaethau a chael ateb sydyn i’ch ymholiad. Defnyddiwch y wefan i ddod o hyd i wybodaeth, gwneud adroddiad neu wneud cais am wasanaeth
- talu ar-lein, lle bo modd
- pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, sicrhewch fod gennych eich cyfeirnod wrth law ac os ydych chi’n dod i’n swyddfeydd, dewch â’r holl ddogfennau a gwybodaeth angenrheidiol fel y gallwn ymdrin â’ch cais yn gyflym a bod llai o alwadau neu ymweliadau diangen
- rhoi gwybod inni am unrhyw newidiadau a fedrai effeithio ar y gwasanaethau a ddarparwn
- rhoi gwybod inni os dymunwch ganslo apwyntiad o leiaf 24 awr o flaen llaw
- peidio â chysylltu â ni i holi ynglŷn â hynt unrhyw gais, oni bai fod y terfyn amser a bennir yn ein safonau cais am drwydded yn dynesu
- dweud wrthym os ydym yn rhagori ar eich disgwyliadau neu’n peidio â darparu gwasanaeth i’ch boddhad trwy ein tudalen we cwynion, canmoliaeth ac adborth
- ymddwyn yn gwrtais ac yn barchus gyda’n staff. Rydym yn gwrthod ymdrin ag unrhyw gwsmeriaid anghwrtais neu drafferthus nac yn goddef unrhyw sarhad geiriol nac ymosodiad corfforol yn erbyn ein staff. Bydd achosion o’r fath yn cael eu trin wrth ystyried Polisi’r Cyngor ar gyfer delio gydag ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid:
Polisi ar gyfer delio gydag ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid
Yn ôl i restr cynnwys
Eich helpu chi i gael pethau’n iawn
Dymunwn weithio â chi i helpu’ch busnes i lwyddo ac mae’n bwysig inni eich bod yn gallu dod atom am gymorth pan mae angen. Ni fydd sôn wrthym am broblem yn golygu y byddwn yn cymryd camau gorfodi.
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â chyflawni rhwymedigaethau statudol ar ein gwefan.
Os oes arnoch angen cyngor i’ch helpu i gyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol, byddwn yn:
- Darparu hyd at awr o gyngor dibynadwy’n rhad ac am ddim i’ch helpu i gydymffurfio
- Darparu hyd at awr o gyngor yn rhad ac am ddim sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau heb fod yn rhy feichus
- Darparu cyngor pendant sy’n hawdd ei ddeall a’i roi ar waith
- Gwahaniaethu rhwng gofynion cyfreithiol ac arferion da a awgrymir
- Sicrhau y caiff unrhyw gyngor a gewch chi ar lafar ei gadarnhau’n ysgrifenedig os gofynnir am hynny
- Cydnabod arferion da a chydymffurfiaeth
- Os oes arnoch angen cyngor wedi’i addasu yn ôl eich anghenion a’ch amgylchiadau penodol chi, byddwn yn cynnig sesiwn ymgynghori am ddim am awr. Os bydd angen ychwaneg o gyngor, byddwn yn codi tâl am hynny neu’n argymell eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol eich hun.
Yn ôl i restr cynnwys
Gweithio gydag eraill
Mae ein Gwasanaeth Trwyddedu’n gweithio’n agos â gwasanaethau eraill y Cyngor fel Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach, Cynllunio a’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a bwriadwn ddarparu gwasanaeth effeithlon ichi.
Mae gennym gysylltiadau gwaith da ag asiantaethau sy’n bartneriaid inni a chyrff rheoleiddio, gan gynnwys Gwasanaethau Trwyddedu Awdurdodau Lleol eraill, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub a Chyllid a Thollau, er mwyn rhannu gwybodaeth a data ynglŷn â chydymffurfiaeth a risgiau, lle bo’r gyfraith yn caniatáu hynny.
Yn ôl i restr cynnwys
Gweithio â busnesau ac eraill rydym yn eu rheoleiddio
Pa bryd bynnag y byddwch yn ymwneud â ni, gallwch ddisgwyl cael gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol. Bydd ein tîm o swyddogion:
- Yn ymddwyn yn gwrtais, parchus a theg â chi ar bob adeg
- Bod amser yn rhoi eu henwau wrth ymwneud â chi ac yn darparu manylion cyswllt
- Ceisio deall sut mae’ch busnes yn gweithio a’r gwasgfeydd sydd arnoch chi
- Darparu manylion ar gyfer trafod unrhyw bryderon sydd gennych
- Cytuno ar raddfeydd amser, disgwyliadau a’ch hoff ddulliau o gyfathrebu
- Sicrhau y cewch wybod am y cynnydd wrth ymdrin ag unrhyw faterion perthnasol.
Yn ôl i restr cynnwys
Ceisiadau am drwyddedau
Gellir anfon pecyn ymgeisio o fewn pump diwrnod gwaith o gael cais am unrhyw drwydded, ond fel arfer fe gewch eich cyfeirio at y wefan lle gallwch lawrlwytho ffurflen gais, ei llenwi a’i chyflwyno ar-lein.
Pan wnewch chi gais am drwydded, a phan geir yr holl ddogfennau ategol boddhaol, gan gynnwys canlyniadau pob gwiriad/prawf/tystysgrif gan gyrff allanol, ein nod yw prosesu a chymeradwyo ceisiadau o fewn yr amserlenni canlynol.
Cerbyd Hacni a Hurio Preifat
Ein nod ni yw:
- rhoi trwydded gyrrwr newydd o fewn 5 diwrnod gwaith
- adnewyddu trwydded gyrrwr o fewn 10 diwrnod gwaith
- rhoi trwydded cerbyd newydd o fewn 5 diwrnod gwaith
- adnewyddu trwydded cerbyd o fewn 10 diwrnod gwaith
- trosglwyddo trwydded cerbyd o fewn 10 diwrnod gwaith
- rhoi Trwydded Gweithredwr Hurio Preifat newydd o fewn 5 diwrnod gwaith
- adnewyddu Trwydded Gweithredwr Hurio Preifat newydd o fewn 10 diwrnod gwaith
- darparu Prawf Gwybodaeth Gyrrwr o fewn 5 diwrnod gwaith ar gais
Deddf Trwyddedu 2003
Ein nod ni yw:
- Cyflwynir yr holl drwyddedau ar gyfer ceisiadau i sefydlu/amrywio/trosglwyddo trwyddedau eiddo cyn pen deg o ddiwrnodau gwaith wedi rhoi’r drwydded
- Prosesu ceisiadau am Rybuddion Digwyddiadau Dros Dro, eu cwblhau a’u dilysu o fewn tri diwrnod gwaith os nad yw’r Heddlu’n gwrthwynebu.
- Prosesu a chyflwyno trwydded bersonol cyn pen pump o ddiwrnodau Gwaith
Deddf Gamblo 2005
Cyflwynir yr holl drwyddedau ar gyfer ceisiadau i sefydlu/amrywio/trosglwyddo trwyddedau o fewn 10 diwrnod gwaith wedi rhoi’r drwydded.
Ceisiadau amrywiol
Ein nod ni yw rhoi:
- trwydded casglwr / safle Metel Sgrap newydd neu ei adnewyddu o fewn 10 diwrnod gwaith
- trwydded newydd / adnewyddu trwydded ar gyfer sefydliad rhyw o fewn 60 diwrnod gwaith
- trwydded ar gyfer casgliadau ar y stryd ac o dŷ i dŷ o fewn 10 diwrnod gwaith
- caniatáu trwydded i fasnachu ar y stryd o fewn 60 diwrnod gwaith
Yn ôl i restr cynnwys
Gorfodi, Arolygu ac ymweliadau eraill er cydymffurfiaeth
Defnyddiwn ddull sy’n seiliedig ar risg i gyfeirio ein hadnoddau i’r mannau iawn. Arferir trefn arolygu ysgafn ar gyfer safleoedd a gaiff eu rheoli a’u cynnal a chadw’n dda ac mae’r drefn arolygu a gorfodi’n dwysáu’n raddol ac yn benodol ar gyfer safleoedd ble mae trafferthion a pheryglon. Cynhelir arolygiadau cymesur, rheolaidd wedi’u llywio gan wybodaeth a lle bo’r angen, cynhelir arolygiadau ar sail cwynion gan eraill.
Pan fydd Swyddogion yn ymweld â chi, byddant yn:
- Egluro rheswm a diben yr ymweliad
- Cario eu cardiau adnabod ar bob adeg a’u ddangos ar gais
- Arfer disgresiwn o flaen eich cwsmeriaid a’ch staff
- Rhoi sylw i’r ffordd rydych yn ymdrin â chydymffurfiaeth yn eich busnes a defnyddio’r wybodaeth honno’n sail ar gyfer ymwneud â chi yn y dyfodol
- Rhoi cyngor i’ch cynorthwyo i gyflawni eich rhwymedigaethau statudol, os oes angen
- Darparu cofnod ysgrifenedig o’r ymweliad ar gais ac adroddiad yn dilyn hynny os oes angen ymdrin â materion cymhleth, er enghraifft
Ymateb i ddiffyg cydymffurfiaeth
Os gwelwn fod rhywun yn methu â chyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol, fe ymatebwn yn gymesur gan ystyried yr amgylchiadau penodol, yn unol â’n Polisi Gorfodi.
Os byddwn yn mynnu eich bod yn cymryd camau i gywiro unrhyw ddiffygion, byddwn yn:
- Egluro natur y diffyg cydymffurfiaeth
- Trafod yr hyn sydd ei angen i sicrhau cydymffurfiaeth, gan ystyried eich amgylchiadau
- Egluro’n bendant unrhyw gyfarwyddyd a roddir, camau sydd eu hangen neu benderfyniadau rydym wedi’u gwneud
- Cytuno ar raddfeydd amser sy’n dderbyniol i chi ac i ninnau ar gyfer cyflawni unrhyw gamau gweithredu
- Darparu manylion ysgrifenedig ynglŷn â sut i apelio yn erbyn unrhyw gyfarwyddyd a roddir, camau sydd eu hangen neu benderfyniadau a wnaed, gan gynnwys unrhyw hawliau statudol i apelio
- Egluro’r hyn a fydd yn digwydd nesaf, gan gynnwys unrhyw raddfeydd amser
- Cadw mewn cysylltiad â chi, os oes angen, nes bod y mater wedi’i ddatrys
Rydym yn ymdrin yn gymesur â thor-cyfraith, fel y nodir yn ein Polisi Gorfodi, ac yn cymryd camau gorfodi llym pan mae gofyn gwneud hynny.
Yn ôl i restr cynnwys
Lleisio’ch barn
Mae’r adran hon yn egluro sut i wneud cwyn, gofyn am wasanaeth, apelio, neu ddarparu adborth.
Cwynion/Ceisiadau am Wasanaeth ac apeliadau
Fe wnawn ymchwilio i gwynion a cheisiadau am wasanaeth ynghylch safleoedd neu wasanaethau sydd dan drwydded gennym a’u datrys o fewn 20 diwrnod gwaith.
Rydym yn ymdrin â chwynion am ein gwasanaeth trwy Bolisi Cwynion Corfforaethol Sir Ddinbych.
Cyfrannu Sylwadau
Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gennych i’n helpu i sicrhau bod ein gwasanaeth yn bodloni eich anghenion. Hoffem glywed gennych p’un a fu’ch profiad o weithio â ni’n un da neu fod lle i’w wella.
Mae hynny’n ein helpu i sicrhau ein bod yn gwneud y pethau iawn ac yn newid pethau pan mae angen. Byddwn yn rhannu arolygon boddhad cwsmeriaid o bryd i’w gilydd, ond byddem yn falch o gael eich sylwadau ar unrhyw adeg.
Yn ôl i restr cynnwys