Cwynion, canmoliaethau ac adborth

Eich Llais yw ein polisi adborth, sy’n nodi sut yr ydym yn delio â chwynion, canmoliaeth, awgrymiadau a sylwadau am y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu. Gallwch ei ddefnyddio i roi gwybod i ni sut rydyn ni’n perfformio a sut y gallwn wella. 

Gwneud cwyn

Mae gwahanol ffyrdd o wneud cwyn, yn dibynnu ar destun eich cwyn.  Ar gyfer mathau eraill o gwynion, dilynwch y dolenni isod:

Cwynion ynglŷn â chynghorwyr

Cwynion ynglŷn â chynghorwyr

Gallwch wneud cwyn yn erbyn cynghorydd sir neu gynghorydd dinas, tref a chymuned os ydych o'r farn eu bod wedi mynd yn groes i’r cod ymddygiad. Gallwch ddod o hyd i God Ymddygiad yr Aelodau yn adran 18 Cyfansoddiad y Cyngor.

Byddai esiamplau o sut y gallai cynghorydd fod yn mynd yn groes i’w cod ymddygiad gynnwys: 

  • ymddwyn mewn ffordd sy’n cael effaith negyddol ar enw da’r cyngor
  • defnyddio eu safle yn annheg i ennill mantais i’w hunain neu i rywun arall. 
  • gwneud defnydd amhriodol o adnoddau’r cyngor 
  • methu â datgan cysylltiad 
  • ymddwyn fel bwli 
  • peidio â thrin pawb yn gyfartal 
  • datgelu gwybodaeth gyfrinachol ynglŷn â rhywun heb reswm teilwng
Sut ydw i’n gwneud cwyn?

Os hoffech wneud cwyn ynglŷn â chynghorydd, mae’n rhaid i chi gwyno’n uniongyrchol wrth Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (gwefan allanol).

Bydd yn rhaid i chi ddweud yn benodol wrth yr Ombwdsman beth yn eich barn chi y mae’r cynghorydd wedi ei wneud i fynd yn groes i’r cod ymddygiad, a bydd yn rhaid i chi gyflwyno rhywfaint o dystiolaeth uniongyrchol o hyn. Efallai y bydd rhaid eich cyfweld fel rhan o’r ymchwiliad.

Dylech fod yn barod i’ch enw a’r hyn yr ydych yn ei ddweud yn eich cwyn gael ei drosglwyddo i’r cynghorydd dan sylw, ac i’r cyngor. Mae’n bosibl y bydd yn dod yn wybodaeth gyhoeddus.

Mae modd i chi ddod o hyd i wybodaeth fanylach ynglŷn â’r broses gwynion ar wefan yr Ombwdsman (gwefan allanol).

Cwynion am ysgolion

Cwynion am ysgolion

Gall disgyblion, rhieni, gwarcheidwaid ac aelodau'r cyhoedd wneud cŵyn am ysgol.

Os oes gennych chi bryder neu gŵyn am unrhyw agwedd o’ch addysg chi, neu addysg eich plentyn, yn aml iawn fe allwch chi ddatrys y mater yn gyflym drwy siarad ag aelod o staff yr ysgol, fel athro neu athrawes.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae’n bosib na fydd modd datrys y mater drwy wneud hyn ac efallai yr hoffech chi ystyried gwneud cwyn ffurfiol. Mae’n rhaid i chi gyflwyno cwyn ffurfiol yn uniongyrchol i’r ysgol gan mai’r ysgol sy'n gyfrifol am fynd i’r afael â’ch cwyn yn unol â’i gweithdrefn gwynion.

Mae gan bob ysgol yn Sir Ddinbych weithdrefn gwynion. Cysylltwch â'ch ysgol i gael copi o'r weithdrefn.  Bydd y ddogfen hon yn egluro’r camau y bydd yn rhaid i chi eu dilyn.

Pryderon cyffredin

Nid yw bob amser yn glir pwy sydd â hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau am addysg plentyn, a materion eraill yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r canllawiau hyn (gwefan allanol) ar gyfer ysgolion, ond maent hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer rhieni a gofalwyr.

Os ydych chi’n pryderu am fwlio, dylech siarad ag athro neu athrawes yn yr ysgol. Gallwch hefyd ofyn i gael gweld polisi gwrthfwlio yr ysgol – mae gan bob ysgol bolisi o’r fath. Dysgwch fwy am ddelio â bwlio.

Swyddogaeth y Cyngor

Mae hawl Cyngor Sir Ddinbych i ymyrryd yn gyfyngedig ac nid oes modd iddyn nhw wneud penderfyniadau ynglŷn â'ch cwyn. Serch hynny, os nad ydych chi’n teimlo bod yr ysgol wedi dilyn y camau'n briodol fe allwch chi gysylltu â ni i dderbyn cyngor pellach.

Cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg

Cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau Iaith Gymraeg, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (gwefan allanol).

Bydd unrhyw gwynion sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg, neu fethiant ar ran y Cyngor i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, yn dilyn gweithdrefn gwynion y Cyngor.

Mae hyn hefyd yn cynnwys cwynion sy'n ymwneud â:

  • Safonau cyflenwi gwasanaethau a'r iaith Gymraeg
  • Safonau llunio polisi a'r iaith Gymraeg
  • Safonau gweithredol a'r iaith Gymraeg

Gwneud cwyn ar-lein

Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg:

Gwefan Comisiynydd y Gymraeg (gwefan allanol)

Ymateb i'ch cwyn

Gweler 'Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cwyn am wasanaeth y cyngor?' sy'n esbonio sut y byddwn yn delio â'ch cwyn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw oedi wrth ymateb i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg.

Cadw cofnodion ac adrodd

Byddwn yn cadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion a dderbyniwn yn ymwneud â’n cydymffurfiad â’r safonau.

Mae copïau o’r holl gwynion ysgrifenedig a gawn sy’n ymwneud â’n cydymffurfiad â’r safonau yr ydym o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn cael eu cadw a byddwn hefyd yn cadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydym yn ei derbyn sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg (p’un a yw’r gŵyn honno yn ymwneud â’r safonau yr ydym o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio).

Byddwn yn darparu Adroddiad Blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg a fydd yn cynnwys nifer y cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’n cydymffurfiad â’r safonau Darparu Gwasanaethau, Llunio Polisïau a Safonau Gweithredu yr ydym o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

Hyfforddiant

Bydd yr holl staff yn ymwybodol o’r polisi hwn naill ai trwy sesiynau briffio neu’r broses sefydlu ar gyfer staff newydd.

Lle y bo’n berthnasol, bydd staff allweddol hefyd yn derbyn sesiynau briffio manwl mewn perthynas â’r polisi hwn ac wrth ddelio â chwynion am yr iaith Gymraeg.


Cwynion am wasanaeth y Cyngor

Bwriedir Eich Llais ar gyfer cwynion am faterion penodol yn unig. Nid yw ar gyfer ceisiadau unigryw am wasanaethau. Gyda cheisiadau am wasanaethau’n gyffredinol rhowch gynnig ar;

Sut i wneud cwyn am wasanaeth y Cyngor

Gwnewch gŵyn am wasanaeth y Cyngor ar-lein

  • Ffoniwch ni ar 01824 706000 neu 0800 032 1099 (am gwynion am wasanaethau cymdeithasol)
  • Ysgrifennu atom ni yn
    • Eich Llais, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ
    • Ysgrifennu atom ni yn: Eich Llais, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ (am gwynion am wasanaethau cymdeithasol)
  • Dweud wrth aelod o’r staff mewn Siop Un Alwad neu  yn y Gwasanaethau Cymdeithasol (am gwynion am wasanaethau cymdeithasol)
  • Ebost: sylwadauAGC@sirddinbych.gov.uk (am gwynion am wasanaethau cymdeithasol)
Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cwyn am wasanaeth o’r Cyngor?

Os ydych wedi cwyno am wasanaeth o’r Cyngor, dyma’r gweithdrefnau y byddwn yn eu dilyn:

Cwynion am y gwasanaethau cymdeithasol
Cwynion am y gwasanaethau cymdeithasol

Os ydych wedi gwneud cwyn am y gwasanaethau cymdeithasol, dyma’r camau y byddwn yn eu dilyn: 

Cam 1: Datrysiad Lleol
  • Byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn ceisio datrys eich cwyn ar unwaith. Gwneir hyn o fewn 10 ddiwrnod gwaith. 
  • Os ydych yn teimlo ein bod wedi datrys eich cwyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau ein trafodaethau o fewn 5 diwrnod gwaith pellach.
  • Os ydych yn teimlo nad ydym wedi datrys eich cwyn gallwch symud ymlaen i gam 2.
Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol
  • Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad Cam 1 ac yn dymuno symud ymlaen i Gam 2 byddwn yn trafod eich cwyn gyda chi. 
  • Byddwn yn ysgrifennu atoch chi yn rhoi crynodeb o’ch cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.
  • Byddwn yn cychwyn yr ymchwiliad ffurfiol ar ol i chi ddychwelyd y crynodeb wedi ei arwyddo.
  • Bydd y Swyddog Ymchwilio Annibynnol yn cyfweld y rhai dan sylw i gael gwybod y ffeithiau; a
  • Byddwn yn rhoi ymateb ysgrifenedig i chi o fewn 25 diwrnod gwaith o’r dyddiad dechrau.
Cwynion am wasanaethau eraill
Cwynion am wasanaethau eraill

Os ydych wedi gwneud cwyn am wasanaeth arall, dyma’r camau y byddwn yn eu dilyn: 

Cam 1: Anffurfiol

Os oes modd, credwn mai’r peth gorau yw delio â’r mater ar unwaith, yn hytrach na cheisio eu datrys yn hwyrach ymlaen. Os oes gennych bryderon, rhowch wybod i’r person rydych yn delio â nhw a byddant yn ceisio eu datrys ar unwaith.

Os ydych chi'n teimlo bod angen cwyno wrth aelod gwahanol o staff, neu swyddog uwch, mae llai o siawns y bydd y gŵyn yn cael ei datrys ar unwaith, gan y bydd angen amser arnynt i ymchwilio.

Os ydych yn cwyno wrth aelod o staff ac nad oes modd ateb eich cwyn yn syth neu mewn cyfnod byr o amser, bydd yn cael ei atgyfeirio at swyddog o’r gwasanaeth er mwyn iddynt gael ymchwilio. Cewch wybod wrth wneud y gŵyn os mai dyma fydd yn digwydd a beth fydd yn digwydd nesaf.

Byddwn yn ceisio ymateb i’ch cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith, ond os na allwn byddwn yn cysylltu â chi i’ch hysbysu pam a faint o amser fydd ei angen arnom i ymateb.

Cam 2 Ffurfiol

Os ydych chi'n anfodlon ar yr ymateb cam 1, gallwch gyfeirio'ch cwyn ymlaen i gam 2. Cysylltwch â ni o fewn 28 diwrnod o dderbyn eich ymateb cam 1. Byddwn yn gofyn i aelod gwahanol o staff ymchwilio i'r broblem.

Gall y cam hwn gymryd mwy o amser gan fod angen ymchwiliad manylach, gall gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith. Os byddwn angen mwy o amser byddwn yn cysylltu â chi i ddweud pam a phryd yr ydym yn bwriadu ymateb.

Pan fyddwn wedi gorffen ein hymchwiliad byddwn yn cysylltu â chi i rannu ein canfyddiadau a dweud wrthych pa gamau y bwriadwn eu cymryd.

Dyma gam olaf ein proses gwynion. Os nad ydym yn gallu datrys eich cwyn, efallai byddwch am gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Gall cwynion o natur gymhleth neu ddifrifol gael eu hystyried yng ngham 2 o'r cychwyn cyntaf.

Os na fyddwn ni’n datrys eich cwyn yn llwyddiannus, fe allwch wneud cwyn i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (gwefan allanol). Mae’r Ombwdsman yn annibynnol o gyrff y llywodraeth, ac mae’n gallu ymchwilio eich cwyn os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg. Cewch fanylion ar sut i gysylltu â’r Ombwsman ar eu gwefan (gwefan allanol).

Help i wneud cwyn

Gall ein staff eich helpu i rannu eich pryderon gyda ni. Os ydych angen rhagor o gymorth, byddwn yn ceisio eich cysylltu gyda rhywun a all helpu. Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael i’ch cefnogi chi:

  1. Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol ar amrywiaeth eang o bynciau drwy wefan Cyngor ar Bopeth neu drwy ffonio 03444 77 20 20.
  2. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn rhoi cymorth a chefnogaeth i amddiffyn hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Ewch i wefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu ffoniwch 03442 640670.
  3. Comisiynydd y Gymraeg yn darparu cyngor a chefnogaeth am faterion yn ymwneud â'r defnydd o'r Gymraeg. Wefan Comisiynydd y Gymraeg. Rhif ffôn 0345 6033 221.
  4. Mae Shelter Cymru yn darparu cymorth a chyngor i bobl ag anghenion tai yng Nghymru drwy wefan Shelter Cymru neu ffoniwch 0345 075 5005.
  5. Llinell gymorth Meic Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ewch i wefan MEIC Cymru neu ffoniwch 080880 23456.
  6. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cynghori plant, pobl ifanc a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw os ydyn nhw'n meddwl eu bod nhw wedi cael eu trin yn annheg. Gallwch gysylltu â nhw drwy wefan Comisiynydd Plant Cymru neu drwy ffonio 0808 801 1000.

Canmoliaethau ac adborth 

Rydyn ni am i chi ddweud wrthon ni am y pethau bach sy’n dân ar eich croen ynglŷn â’r ffordd rydyn ni’n gweithio, y pethau sy’n gwneud i chi feddwl ‘oni fyddai hi’n well gwneud hynny fel hyn?’

Os oes gennych syniad ynglŷn â sut y gallem wneud rhywbeth yn wahanol, mae arnom eisiau gwybod amdano.

Cofiwch, os na ddwedwch chi wrthon ni amdano fo, allwn ni ddim gwneud unrhyw beth ynglŷn ag o.

Gallwch hefyd roi gwybod i ni am rywbeth rydym wedi ei wneud yn dda, drwy ein canmol.

Rhowch adborth i ni ar-lein

  • Ffoniwch ni ar 01824 706101 
  • Ysgrifennch atom: Eich Llais, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun LL15 1YN 
  • Dywedwch wrth aelod o staff mewn Siop Un Alwad

Beth sy’n digwydd nesaf?

Os byddwch chi’n gwneud awgrymiad neu sylw, fe edrychwn ni arno a gweld a allem ddefnyddio eich syniadau i wella, er mwyn gallu cyflenwi gwasanaethau gwell.

Os byddwch yn ein canmol, byddwn yn trosglwyddo’ch sylwadau I’r staff perthnasol.

Dogfennau cysylltiedig