Trwyddedau anifeiliaid peryglus a gwyllt

Os ydych chi'n unigolyn preifat, rhaid i chi gael trwydded i gadw anifeiliaid peryglus a gwyllt. Nid yw hyn yn cynnwys anifeiliaid sy’n cael eu cadw mewn sŵau a siopau anifeiliaid anwes gan fod angen trwydded wahanol ar gyfer y sefydliadau hyn.

Mae’n rhaid i chi gael trwydded os ydych yn cadw unrhyw un o’r anifeiliaid sydd ar y rhestr o anifeiliaid peryglus a gwyllt.

Rhestr o anifeiliaid peryglus a gwyllt (gwefan allanol)

Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded?

Er mwyn gwneud cais am drwydded anifeiliaid peryglus a gwyllt, argraffwch a chwblhewch y ffurflen gais, a’i dychwelyd at y cyfeiriad sydd ar y ffurflen.

Bydd yn rhaid i chi gael adroddiad gan filfeddyg cyn gwneud cais am y drwydded.

Mae’r drwydded yn ddilys am ddwy flynedd. Bydd yn rhaid i chi adnewyddu eich trwydded ar 1 Ionawr bob yn ail blwyddyn, drwy gwblhau a chyflwyno ffurflen gaisnewydd. Bydd angen adroddiad newydd gan y milfeddyg bob tro y byddwch yn adnewyddu eich trwydded.

Ffurflen gais am trwydded anifeiliaid peryglus a gwyllt (PDF, 226KB)

Faint mae’n ei gostio?

Pris trwydded anifeiliaid peryglus a gwyllt yw £270. Mae’n costio £270 i adnewyddu’r drwydded bob dwy flynedd hefyd. Bydd yn rhaid i chi dalu cost am adroddiad gan filfeddyg bob tro y byddwch yn gwneud cais neu’n adnewyddu’r drwydded hefyd.

Safle trwyddedig anifeiliaid peryglus a gwyllt presennol 

Rhug

Rhug Estate 
Corwen
LL21 0EH

Corwen

Trwydded: 1 Spider Monkey