Caniatâd i ddefnyddio tir ar gyfer masnachu ar y stryd

Mae’n rhaid i fasnachwyr ar y stryd gael caniatâd ysgrifenedig gan berchennog tir cyn y gallwn roi caniatâd masnachu ar y stryd. 

Pwy i gysylltu â nhw

Bydd pwy i gysylltu â nhw i gael caniatâd yn dibynnu ar y math o dir, p’un a yw’n eiddo i’r cyngor, yn rhan o briffordd sydd wedi’i mabwysiadu neu’n dir preifat. 

Tir sy’n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych

Gallwch anfon neges e-bost at ein tîm Prisio ac Ystadau i ofyn am ganiatâd i fasnachu ar dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych. 

Priffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu

I fasnachu ar briffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu, megis y prif strydoedd yn Y Rhyl neu Ruthun, anfonwch neges e-bost at ein tîm Priffyrdd

Tir preifat

Ar gyfer tir preifat, bydd angen i chi gysylltu â pherchennog y tir yn uniongyrchol am ganiatâd. Ni allwn ddarparu manylion perchennog y tir preifat

Asesiadau safle

Unwaith y byddwn yn derbyn cais, byddwn yn asesu p’un a yw’r safle yn addas.

Ni roddir caniatâd i fasnachu ar y stryd os yw’r gweithgaredd:

  • yn effeithio ar ddiogelwch ffyrdd
  • yn achosi sŵn, sbwriel, mygdarth, perygl o fermin, neu golli amwynder
  • yn debyg i fasnach sydd eisoes yn bodoli gerllaw
  • yn gwrthdaro â thraffig / cyfyngiadau aros
  • yn rhwystro mynediad i gerddwyr neu gerbydau
  • yn amharu ar linellau gwelededd neu lif traffig
  • heb fannau parcio / llwybrau diogel i fasnachwyr a chwsmeriaid
  • yn digwydd wedi iddi nosi ac yn anniogel heb oleuadau

Dirwyon a chosbau

Gellir cymryd camau gorfodi os bydd rhywun yn:

  • masnachu heb ganiatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol
  • masnachu ar stryd ble mae masnachu wedi’i wahardd
  • peidio â chadw at amodau eu caniatâd masnachu ar y stryd

Gall camau gorfodi gynnwys:

  • atal neu dynnu’r caniatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol yn ôl
  • dirwyon hyd at £1,000