Trwydded gyrrwr tacsi: Nodiadau Canllaw’r Prawf Gwybodaeth

Dylai’r wybodaeth ganlynol eich helpu i sefyll eich prawf gwybodaeth. Cyfeiriwch hefyd at y nodiadau canllaw ar Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (wedi'i amgáu) a’r ddogfen Polisi ac Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

Cerbyd hacni a hurio preifat amodau trwyddedu (PDF, 653KB)

Mae’r canlynol yn esiamplau o’r cwestiynau y gallwch eu cael pan fyddwch yn sefyll y prawf gwybodaeth.

Nodwch: er mwyn pasio’r prawf gwybodaeth, rhaid i chi ateb dau gwestiwn yn gywir allan o’r tri chwestiwn ymhob adran.

Gwybodaeth o ddaearyddiaeth leol, yn cynnwys ffyrdd

Mae’r adran hon yn ymwneud â daearyddiaeth leol a bydd yn cynnwys cwestiynau am sut i gyrraedd lleoliadau poblogaidd.

Enghraifft: Lle mae Tŷ Russell?

Ateb: Ar Ffordd Churton, y Rhyl, neu byddai ardal gyffredinol o’r Promenâd yn dderbyniol.

Gwybodaeth am Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

Mae’r adran hon yn gwirio bod gan y gyrrwr wybodaeth sylfaenol am yr amodau h.y. y Polisi ac Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat a grybwyllir uchod.

Enghraifft: Lle dylid arddangos Bathodyn Gyrrwr?

Ateb: Arnoch chi ei hun bob amser wrth weithio fel Gyrrwr Trwyddedig.

Lleoliad Safleoedd Cerbydau Hacni a Thollau

Mae’r adran hon yn dangos bod y gyrrwr yn ymwybodol o leoliadau safleoedd Cerbydau Hacni ymhob ardal o’r Sir a’r tollau y mae Sir Ddinbych yn glynu atynt.

Enghraifft: Gweler isod am safleoedd Hacni ac mae'r cerdyn tollau ar gael yn y prawf gwybodaeth.

Lleoliadau Safleoedd Cerbydau Hacni:

  • Heol y Farchnad, Llangollen
  • Y Ro/ wrth ymyl y Plough, Llanelwy
  • Stryd y Dŵr, Y Rhyl
  • Stryd Fawr, Y Rhyl
  • Stryd Bodfor, Y Rhyl
  • Rhodfa’r Dwyrain, Y Rhyl
  • Gorsaf Reilffordd Y Rhyl neu Orsaf Fysiau’r Rhyl
  • Gorsaf Rheilffordd Prestatyn neu Orsaf Fysiau Prestatyn

Sgiliau Rhifedd a Gofal Cwsmeriaid

Mae’r adran hon yn helpu’r adran Drwyddedu gadarnhau y bydd yr ymgeisydd yn darparu gwasanaeth ardderchog i aelodau'r cyhoedd.

Enghraifft: Beth fyddech chi’n ei wneud petai rhywun yn cael trafferth gyda’u bagiau?

Ateb: Cynnig eu helpu nhw.

Rheolau’r Ffordd Fawr

Mae’r adran hon yn gwirio bod gan y gyrrwr wybodaeth o Reolau’r Ffordd Fawr ac mae mwyafrif y cwestiynau’n rhai aml ddewis.

Cynnal a Chadw Rheolaidd ar Gerbydau

Mae’r adran hon yn dangos bod y gyrrwr yn deall pa wiriadau dyddiol y dylid eu gwneud i’r cerbyd.

Enghraifft: Gwirio fod y teiars yn gyfreithiol, trwch y gwadn, marciau ac ati.

Nodiadau Canllaw ar Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant

Siarad yn Erbyn Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth o fewn Sir Ddinbych o’r materion sy’n ymwneud â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant a masnachu mewn pobl.  Er bod Sir Ddinbych yn parhau i fod yn un o’r siroedd mwyaf diogel yn y wlad, mae mynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant yn un o flaenoriaethau’r Llywodraeth ac yn Sir Ddinbych rydym yn gobeithio ymgysylltu â’r holl gymunedau er mwyn helpu i atal plant rhag dod yn ddioddefwyr o’r troseddau hyn.

Mae’r ymgyrch ‘Siarad yn Erbyn Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant’ yn ymateb aml-asiantaeth rhagweithiol rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Sir Ddinbych i fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant yn y sir.

Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn cynnwys:

Pobl ifanc o dan 18 oed sy’n cael eu hannog/gorfodi gan oedolyn i gael perthynas neu sefyllfa rywiol.  Mae’n aml yn cynnwys pobl ifanc yn cael cynnig rhywbeth yn gyfnewid am berfformio gweithredoedd rhywiol, er enghraifft: 

  • Alcohol
  • Sigaréts
  • Ffonau Symudol
  • Anrhegion
  • Arian
  • Cyffuriau
  • Cariad

Lle mae’n digwydd?

Gall pobl ifanc gael eu meithrin yn amhriodol a’u camfanteisio’n rhywiol mewn amryw o safleoedd a lleoliadau, megis: 

Parciau

Canolfannau Siopa

Safleoedd Tacsi

Bwytai

Siopau Bwyd i Fynd

Campfeydd

Canolfannau Hamdden

Gwestai

Hosteli

Tafarndai/ Bariau/ Clybiau

Masnachu

Mae plant a phobl ifanc sy’n ddioddefwyr o gamfanteisio’n rhywiol hefyd yn agored i fasnachu ar draws dinasoedd a siroedd o fewn y DU, a hefyd masnachu rhyngwladol i mewn ac allan o’r DU at ddibenion camfanteisio’n rhywiol.  Mae masnachu yn cynnwys masnachu anghyfreithlon mewn pobl at ddibenion camfanteisio’n rhywiol. 

Mae’r gydnabyddiaeth o fasnachu o fewn y DU yn berthnasol waeth beth yw’r pellter a deithiwyd, ac felly gellir ei gymhwyso i symudiadau o fewn yr un ddinas.

Eich Cyfrifoldeb a’r Gyfraith

Os yw gyrrwr tacsi yn cludo plentyn yn gwybod neu’n credu y bydd y plentyn hwnnw yn cael ei gamfanteisio’n rhywiol yn ystod neu ar ôl y siwrnai, bydd y gyrrwr hwnnw yn cyflawni trosedd Masnachu mewn Pobl:

Unigolyn yn fwriadol yn trefnu neu’n hwyluso teithio unigolyn o fewn y DU at ddibenion camfanteisio’n rhywiol.

Y ddedfryd uchaf yw 14 blynedd yn y carchar

Sut all y pecyn gwybodaeth hwn gefnogi eich busnes

Rydym yn credu y gall busnesau lleol chwarae rôl gadarnhaol mewn atal camfanteisio’n rhywiol ar blant a masnachu mewn pobl, sy’n rhoi plant – a’ch busnes – mewn perygl.  Nod y pecyn hwn yw codi ymwybyddiaeth yn benodol gyda gweithredwyr a gyrwyr tacsis o’r arwyddion i chwilio amdanynt a’r camau gweithredu i’w cymryd er mwyn helpu i sicrhau nad yw busnesau yn agored i fod yn gysylltiedig â’r mathau hyn o droseddau.  Gall gyrwyr yn benodol ffurfio rhan hanfodol o’r frwydr yn erbyn y materion hyn a bod yn llygaid a chlustiau’r gymuned, gan ddarparu gwybodaeth a allai fod yn bwysig i awdurdodau.

Mae’r pecyn adnoddau hwn wedi’i seilio ar ymgyrch genedlaethol, sydd â chefnogaeth Cymdeithas y Plant/ Gweithgor Cenedlaethol ar gyfer Atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant.

Mae nifer o droseddau’n gysylltiedig â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a masnachu mewn pobl gan arwain at ganlyniadau niweidiol yn cynnwys y posibilrwydd o erlyniad, cymryd camau gweithredu mewn perthynas â thrwyddedu a difrod i enw da/difrod ariannol. Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn chwarae rôl gadarnhaol mewn amddiffyn plant a busnesau lleol rhag y gweithgarwch hwn.

Rydym yn teimlo ei fod yn hanfodol bod ein diwydiant tacsis lleol yn ymgysylltu â’r ymgyrch hon ac felly rydym yn gofyn am gefnogaeth y rheiny sy’n rhan o’r maes busnes hwn o fewn Sir Ddinbych i gyflwyno’r ymgyrch hon.  Mae gennych y pŵer i helpu i atal camfanteisio’n rhywiol ar blant a masnachu mewn pobl.

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y pecyn hwn?

  • Arwyddion i chwilio amdanynt
  • Camau gweithredu i’w cymryd
  • Arfer Diogelu Da
  • Canllawiau i weithredwyr
  • Cysylltiadau

Arwyddion i chwilio amdanynt a beth i’w wneud

  • Cludo/casglu pobl ifanc (merched a bechgyn) o westai/ lletyau Gwely a Brecwast/ partïon tŷ
  • Gwesteion gydag ychydig/dim bagiau yn mynd i westai neu deithiau mynych i’r un gwesty neu gyfeiriad
  • Codi pobl ifanc o geir eraill
  • Pob ifanc sy’n edrych yn drallodus neu dan fygythiad
  • Arsylwi gweithgarwch amheus mewn ardaloedd problemus
  • Pobl ifanc dan ddylanwad cyffuriau a/neu alcohol
  • Ymdrechion gan ferched ifanc i osgoi talu ffioedd yn gyfnewid am ffafrau rhywiol
  • Dynion yn gofyn am deithiau tacsi i leoliadau ac oddi yno yn rheolaidd - ac yn mynd â phobl ifanc gyda nhw
  • Mynd â phobl ifanc i’r Adran Achosion Brys, nad ydynt ym mhresenoldeb eu rhieni
  • Pobl ifanc gydag anafiadau fel cleisiau neu staeniau gwaed
  • Merched ifanc sy’n gwisgo llawer o golur neu sy’n gwisgo’n amhriodol
  • Sgyrsiau rhwng plant ac oedolion yn y tacsi sy’n peri pryder h.y. sgyrsiau sy’n addas i oedolion yn unig neu sydd o natur rywiol
  • Plentyn sy’n ymddangos yn nerfus, ofnus, dawedog neu’n anghyfforddus i weithredu o dan gyfarwyddyd
  • Plentyn sy’n ymddangos i siarad iaith wahanol i’r oedolyn (oedolion)

Beth i’w wneud:

  • Gwnewch nodiadau am y wybodaeth rydych chi’n ei wybod. 
  • Ffoniwch a rhowch wybod am eich pryderon ynglŷn â chamfanteisio’n rhywiol posibl.

Gwybodaeth i’w rannu:

  • Enwau 
  • Lleoliadau a chyfeiriadau sy’n peri pryder
  • Disgrifiadau o’r bobl 
  • Rhif cofrestru’r cerbyd, gwneuthuriad a model y cerbyd 
  • Disgrifiad o’r gweithgarwch sy’n peri pryder

Arfer Diogelu Da

  • Gwiriwch ar adeg archebu’r tacsi os oes unrhyw faterion sy’n gwneud yr unigolyn yn ddiamddiffyn.  Bydd hyn yn eich galluogi chi i baratoi at y siwrnai yn y ffordd iawn.
  • Rhowch wybod i’ch cyflogwr/gweithredwr (neu gadwch gofnod) o’r amser y gwnaethoch chi godi’r teithiwr diamddiffyn, yr amser a’r lleoliad lle gwnaethoch chi eu gollwng ac os gododd unrhyw ddigwyddiadau neu unrhyw beth sylweddol yn ystod y siwrnai.
  • Os byddwch chi’n gwrthod mynd â theithiwr, rhowch wybod i rywun na allwch chi fynd â nhw fel y gallant ddeilio â’r unigolyn mewn ffordd arall (e.e. staff ysbyty; teulu; staff diogelwch os yw’n glwb/tafarn).  Gwnewch gofnod o unrhyw ddigwyddiadau a gwrthodiadau.
  • Byddwch yn broffesiynol – peidiwch â bod yn rhy gyfeillgar neu siarad am faterion personol, peidiwch â chyfnewid gwybodaeth gyswllt bersonol fel rhifau ffôn neu gyfeiriad Facebook y teithiwr.
  • Peidiwch â gwneud sylwadau ymosodol neu amhriodol (fel rhegi neu ddefnyddio iaith rywiol) neu weithredu mewn ffordd ymosodol neu mewn unrhyw ffordd a allai wneud i deithiwr diamddiffyn deimlo’n ofnus neu dan fygythiad.
  • Peidiwch â chyffwrdd teithwyr yn ddiangen neu’n amhriodol.
  • Peidiwch byth â derbyn cynnig am ffafr rywiol yn lle taliad.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo ID, unai bathodyn adnabod neu wisg y cwmni.
  • Gofynnwch i deithwyr sy’n teithio ar eu pen eu hunain i eistedd yn y cefn oni bai y cytunwyd fel arall.
  • Peidiwch byth â dilyn teithiwr i’r tŷ oni bai y cytunwyd ar hynny’n flaenorol / bod hynny wedi’i awdurdodi’n iawn.
  • GOFYNNWCH cyn gwneud taith yn fyrrach drwy fynd oddi ar y priffyrdd/ defnyddio ffyrdd gwledig ynysig, eglurwch a rhowch ddewis o lwybrau i’r teithiwr (neu’r unigolyn sy’n archebu’r tacsi).
  • Peidiwch byth â chychwyn gyda theithiwr heb gyfeiriad pen taith penodol.
  • Peidiwch byth ag uno archeb – hyd yn oed os yw teithwyr yn teithio mewn cyfeiriad tebyg, gallant fod yn fygythiad neu’n risg i’r teithiwr arall.
  • Os ydych chi’n meddwl bod y teithiwr yn ofn, cynigwch i ffonio’r brif swyddfa i ddweud wrthynt fod gennych deithiwr o’r enw XXXX gyda chi a rhowch y cyfeiriad ac amser cyrraedd bras; mae hyn yn tawelu meddwl yr unigolyn eu bod yn ddiogel a bod rhywun yn monitro’r daith.
  • Fel gyda phob proffesiwn, os ydych chi’n poeni am ymddygiad gyrrwr arall rhowch wybod am eich pryderon i’ch rheolwr neu’r asiantaeth berthnasol.  Dylai fod gan sefydliadau aelod arweiniol o staff ar gyfer diogelu, dylai’r unigolyn hwn allu cynghori cydweithwyr am sut i reoli teithwyr diamddiffyn ac unrhyw ddigwyddiadau sy’n codi.
  • Cadwch gofnod bob amser, un ai yn eich cerbyd neu gyda’ch cyflogwr/gweithredwr, o unrhyw ddigwyddiadau neu sefyllfaoedd nad oeddech chi’n hapus gyda nhw – dylai’r cofnod gynnwys disgrifiad o’r hyn a ddigwyddodd a beth y gwnaethoch chi i gadw eich hun a’ch teithwyr yn ddiogel.
  • Byddwch yn ymwybodol o’r dangosyddion risg
  • Byddwch yn ymwybodol o bobl ifanc y credwch a allai fod mewn perygl
  • Byddwch yn ymwybodol o’r cyfeiriadau yr ydych chi’n mynd â phobl ifanc iddynt
  • Pasiwch unrhyw wybodaeth/pryderon sydd gennych ymlaen

Nod y canllaw hwn yw hyrwyddo arfer diogelu da ymysg busnesau tacsi neu gerbydau hurio preifat lleol sy’n ymwneud â darparu gwasanaeth i deithwyr diamddiffyn. Gall bod yn ddiamddiffyn gael ei achosi gan nifer o ffactorau yn cynnwys salwch meddyliol, camddefnyddio cyffuriau neu gamddefnyddio alcohol.  Gall plant ac oedolion fod yn ddiamddiffyn o ganlyniad i’r ffactorau hyn.

Argymhellir bod goruchwyliwr / rheolwr priodol yn gweithredu’r egwyddorion canlynol mewn hyfforddiant ac ymarfer gweithredol:

  • Ar adeg archebu’r tacsi, dylid ymgymryd ag asesiad risg ar gyfer teithiwr diamddiffyn a’i gofnodi yn ysgrifenedig.  Dylai hwn lywio eich polisi gweithredu a briffio staff mewn perthynas â diogelu’r teithiwr diamddiffyn a’r gyrrwr
  • Dylai’r holl staff/gyrwyr gael eu hyfforddi a dylid cadw cofnodion o hyfforddiant staff
  • Dylid cadw cofnodion cyflogaeth ar gyfer gyrwyr, yn cynnwys eu henw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol/dogfennau sy’n rhoi caniatâd iddynt weithio yn y DU, rhif cyswllt a rhifau cofrestru cerbydau; prawf adnabod
  • Dylai fod yn ofynnol i yrwyr gofrestru i mewn ac allan yn ystod bob sifft a dylid cadw’r cofrestrau hyn fel rhan o’ch cofnodion diwydrwydd dyladwy
  • Dylai fod yn ofynnol i yrwyr gadw at God Ymddygiad Diogelu Da i hyrwyddo arfer diogel mewn perthynas â theithwyr diamddiffyn

Dylai fod yn ofynnol i yrwyr greu dull adnabod â llun i’r gofalwr neu os yw’n briodol, i’r teithiwr diamddiffyn, ar adeg y casglu

Dylai gyrwyr ymddwyn yn broffesiynol bob amser ac ni ddylent:

  • Gyffwrdd plentyn/unigolyn ifanc yn ddiangen neu’n amhriodol;
  • Gwneud sylwadau ymosodol neu amhriodol (fel rhegi neu ddefnyddio iaith rywiol); 
  • Ceisio camddefnyddio manylion personol a gedwir gan y busnes am blentyn (er enghraifft cyfathrebu â phlentyn yn ei gyfeiriad post, neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, y rhyngrwyd neu ffôn symudol neu drwy ddefnyddio unrhyw wybodaeth arall a ddatgelwyd fel rhan o archebu tacsi, neu a gafwyd drwy unrhyw agwedd arall o’r busnes).

Dylid cadw cofnodion o gwynion ac unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd yn erbyn gyrwyr sy’n torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer diogelu plant ac oedolion diamddiffyn.

Dylid gweithredu polisi chwythu’r chwiban i annog pobl i roi gwybod am unigolion sy’n torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer diogelu plant ac oedolion diamddiffyn.  Dylai gyrrwyr gadw cofnod o adegau pan fydd siwrnai yn cynnwys teithiwr diamddiffyn nad yw o dan oruchwyliaeth gofalwr cyfrifol, yn cynnwys manylion o unrhyw ddigwyddiadau sy’n codi/camau gweithredu a gymerwyd.

Os yw’r gyrrwr yn pryderu am ddiogelwch, lles neu ymddygiad unigolyn diamddiffyn, dylai gael ei annog i roi gwybod am hyn i’r heddlu (os yw’n achos brys ffoniwch 999) neu wasanaeth priodol arall ac i’w rheolwr.  Dylai natur y pryder a’r camau gweithredu a gymerwyd gael eu cofnodi yn y cofnod o ddigwyddiadau.

Rhoi gwybod am Bryderon

Ffoniwch 999 os yw’r risg yn un brys / os yw’r ymosodiad wedi neu’n debygol o ddigwydd.

Cofnodwch a rhowch wybod am bryderon i’r heddlu drwy ffonio 101 a / neu wasanaethau diogelu os yw’n cynnwys plentyn neu oedolyn diamddiffyn.

Cod Ymddygiad a Awgrymwyd wrth weithio â Theithwyr Diamddiffyn

Nod y canllaw hwn yw hyrwyddo arfer diogelu da i yrwyr a staff sy’n gweithio gyda theithwyr diamddiffyn yn y fasnach tacsis neu gerbydau hurio preifat.  Gall bod yn ddiamddiffyn gael ei achosi gan nifer o ffactorau yn cynnwys salwch meddyliol, camddefnyddio cyffuriau neu gamddefnyddio alcohol.  Gall plant ac oedolion fod yn ddiamddiffyn o ganlyniad i’r ffactorau hyn.  Argymhellir y dylid mewnosod yr egwyddorion diogelu canlynol i hyfforddiant ac ymarfer staff/gyrwyr:

  • Dylai’r holl yrwyr gofrestru i mewn ac allan yn ystod eu sifft.  Dylid cadw cofrestr sifftiau ac ar yr adeg cofrestru dylai’r gyrrwr gadarnhau ei hunaniaeth a rhif cofrestru’r cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio
  • Dylai gyrwyr gario bathodyn adnabod â llun arno gyda nhw bob amser
  • Dylai’r proses archebu tacsi gynnwys gwiriad am faterion sy’n gwneud yr unigolyn yn ddiamddiffyn fel y gellir trefnu’r ddarpariaeth
  • Pan fyddwch yn gwneud siwrnai gyda theithwyr diamddiffyn, dylid creu dull adnabod â llun i’r gofalwr sy’n gyfrifol am yr unigolyn diamddiffyn.  Os bydd angen, dylai gyrwyr/staff gadw cofnod o fanylion cyswllt y gofalwr os nad oes hebryngwr
  • Peidiwch byth ag uno teithwyr oni bai eich bod wedi cael cydsyniad ffurfiol ac awdurdodiad i wneud hynny
  • Os byddwch yn gwrthod gwasanaeth i deithiwr diamddiffyn, dylid rhoi gwybod i unigolyn cyfrifol fel y gellir gwneud trefniadau amgen
  • Gofynnwch a yw teithiwr diamddiffyn angen cymorth bob amser, peidiwch â chymryd hynny yn ganiataol
  • Dylai gyrwyr/staff ymddwyn yn broffesiynol bob amser ac ni ddylent: 
    • Gyffwrdd unigolyn diamddiffyn yn amhriodol
    • Gwneud sylwadau ymosodol neu amhriodol (fel rhegi neu ddefnyddio iaith rywiol neu wahaniaethol)
    • Ymddwyn mewn ffordd a allai wneud i deithiwr diamddiffyn deimlo’n ofnus neu dan fygythiad
    • Ceisio camddefnyddio manylion personol a gedwir gan y busnes am blentyn (er enghraifft cyfathrebu â phlentyn yn ei gyfeiriad post, neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, y rhyngrwyd neu ffôn symudol neu drwy ddefnyddio unrhyw wybodaeth arall a ddatgelwyd fel rhan o archebu tacsi, neu a gafwyd drwy unrhyw agwedd arall o’r busnes)
  • Dylai gyrwyr gadw cofnod o adegau pan mae gwasanaeth wedi’i ddarparu i deithiwr diamddiffyn yn cynnwys manylion o unrhyw ddigwyddiadau sy’n codi/camau gweithredu a gymerwyd neu wrthodiadau gwasanaeth
  • Os yw’r gyrrwr neu aelod o staff yn pryderu am ddiogelwch, lles neu ymddygiad unigolyn diamddiffyn, fe ddylai rhoi gwybod am hyn i’r heddlu neu wasanaeth perthnasol arall ac i reolwr y busnes.
  • Fel gyda phob proffesiwn, os ydych chi’n poeni am ymddygiad rhywun rhowch wybod am eich pryderon i’ch rheolwr neu’r asiantaeth berthnasol.
  • Dylai gyrwyr/staff ymgyfarwyddo eu hunain ag unrhyw bolisïau chwythu’r chwiban a allai fod ar waith ar gyfer eu busnes.
  • Byddwch yn ymwybodol o’r dangosyddion risg
  • Byddwch yn ymwybodol o bobl ifanc y credwch a allai fod mewn perygl
  • Byddwch yn ymwybodol o’r cyfeiriadau yr ydych chi’n mynd â phobl ifanc iddynt
  • Pasiwch unrhyw wybodaeth/pryderon sydd gennych ymlaen