Trwyddedau parcio i ymwelwyr

Mae trwyddedau parcio i ymwelwyr ar gyfer pobl sy’n ymweld â thrigolion Sir Ddinbych.

Sut ydw i’n defnyddio’r drwydded barcio hon?

Mae trwyddedau parcio i ymwelwyr yn caniatáu i ymwelwyr barcio mewn rhai ardaloedd yn Sir Ddinbych. Mae’r drwydded barcio yn ddilys am un diwrnod cyfan, felly os ydych chi’n ymweld am fwy nag un diwrnod, bydd angen i chi gael trwydded ar gyfer pob diwrnod o’ch ymweliad. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu’r dyddiad a rhif cofrestru eich car ar bob trwydded barcio rydych chi’n ei defnyddio. 

Gellir defnyddio trwyddedau parcio i ymwelwyr yn yr ardaloedd hyn:

Dinbych

  • Highgate
  • Love Lane
  • Stryd y Dyffryn

Llangollen

  • Stryd y Bont
  • Stryd y Capel
  • Stryd yr Eglwys
  • Stryd y Neuadd

Rhuthun

  • Ffordd y Parc
  • Stryd y Farchnad
  • Stryd Llanrhydd
  • Stryd Mount
  • Wernfechan

Y Rhyl

  • Ffordd Brighton
  • Ffordd Cilgant
  • Ffordd Morley
  • Oxford Grove
  • Parc Morlan
  • Rhodfa'r Brenin
  • Stryd y Baddon
  • Stryd Bedford
  • Stryd Cinmel
  • Stryd Clwyd
  • Stryd Elwy
  • Stryd Gorllewin Cinmel
  • Stryd Paradwys
  • Stryd Thorpe
  • Stryd y Tywysogion
  • Stryd Vezey
  • Stryd Windsor
  • Y Promenâd

Sut ydw i’n gwneud cais am drwydded barcio?

Dim ond trigolion Sir Ddinbych sy'n gallu gwneud cais am drwyddedu parcio i ymwelwyr. Ni all ymwelwyr ymgeisio eu hunain.

Os ydych chi'n byw yn un o'r ardaloedd a restrir yma, gallwch chi wneud cais am lyfr o drwyddedau parcio i ymwelwyr mewn unrhyw Siop Un Alwad. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cyfeiriad (e.e. bil cyfleustodau, trwydded yrru), a bydd angen i chi dalu am y trwyddedau pan rydych yn ymgeisio. Maent yn costio £5 am lyfr sy’n cynnwys 10 trwydded.

Byddwch yn derbyn y trwyddedau drwy'r post dim mwy na 10 diwrnod gwaith ar ôl i chi wneud cais.