Cefnogaeth i newydd-ddyfodiaid

Bydd cefnogaeth ar gael i ddysgwyr (newydd-ddyfodiaid) nad ydynt wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o’r blaen ac sydd wedi cofrestru mewn ysgol gynradd i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 3, 4, 5 a 6.

Sut i dderbyn cymorth?

Bydd newydd-ddyfodiaid yn derbyn cymorth ar ddechrau eu tymor cyntaf yn eu hysgol gofrestredig, gyda chaniatâd y rhiant/gwarcheidwad, ynghyd â chytundeb y Pennaeth a’r Awdurdod Lleol.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae dau aelod o staff (athrawes ac uwch-gymhorthydd) yn darparu cymorth i ddysgwyr sydd wedi'i strwythuro'n ofalus i hyrwyddo rhuglder yn yr iaith lafar (Cymraeg), sy’n galluogi dysgwyr gael eu hintegreiddio'n llawn i fywyd ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd pob newydd-ddyfodiad o Flwyddyn 3-6 yn derbyn cludiant ysgol am ddim (gweler polisi cludiant Sir Ddinbych) i fynychu Canolfan Iaith, dri diwrnod yr wythnos am dymor ysgol llawn. Os nad oes digon o newydd-ddyfodiaid yn cofrestru mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn unrhyw dymor penodol, bydd disgyblion yn cael cefnogaeth allgymorth rheolaidd yn yr ysgol.

Pan fydd niferoedd yn isel (yn amodol ar argaeledd) gallwn gynnig cymorth i grwpiau eraill o newydd-ddyfodiaid, er enghraifft:

  • newydd-ddyfodiaid ym mlwyddyn 2
  • newydd-ddyfodiaid ym mlwyddyn 1
  • disgyblion blwyddyn 3,4,5,6 oedd yn newydd-ddyfodiaid y tymor blaenorol