Addysgu'ch plentyn gartref

Addysg Ddewisol yn y Cartref yw term sy’n cael ei defnyddio i ddisgrifio pan fo rhieni a gofalwyr yn addysgu eu plant yn y cartref yn lle eu hanfon i’r ysgol.

Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae addysg yn orfodol, ond nid yw’n orfodol anfon plant i’r ysgol. Fel rhiant, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg llawn amser addas, effeithlon ac effeithiol o 5 oed ymlaen.

Wrth bwy ddylwn i roi gwybod os ydw i’n dymuno addysgu fy mhlentyn yn y cartref?

Os ydych chi’n cymryd eich plentyn allan o’r ysgol i’w haddysgu gartref, mae’n rhaid i chi roi gwybod i Bennaeth yr ysgol yn ysgrifenedig, a gofyn iddynt dynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr gyda’r bwriad o’u haddysgu nhw gartref. Bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i ni, a bydd enw eich plentyn yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr. Os byddwch chi’n newid eich meddwl, bydd rhaid i chi ymgeisio eto am le mewn ysgol, ac efallai na fydd llefydd ar gael yn yr un ysgol bob amser.

Plant gyda Chynllun Datblygu Unigol

Os oes gan eich plentyn Gynllun Datblygu Unigol (CDU) a’ch bod yn dymuno eu cymryd allan o ysgol brif ffrwd i’w haddysgu yn y cartref, bydd angen i chi roi gwybod i bennaeth yr ysgol yn ysgrifenedig, a gofyn iddynt dynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr. Bydd angen i’r CDU gael ei adolygu cyn i enw eich plentyn gael ei dynnu oddi ar y gofrestr.

Serch hynny, os ydi’ch plentyn yn mynychu ysgol arbennig, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd gan yr Awdurdod Lleol cyn eu tynnu oddi ar y gofrestr.

Plant nad ydynt wedi’u cofrestru mewn ysgol

Os ydi eich plentyn bron â chyrraedd oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt wedi cael eu cofrestru mewn ysgol, yn gyfreithiol, nid oes yn rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod lleol eich bod yn bwriadu addysgu eich plentyn yn y cartref, serch hynny, fe argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud hynny, fel bod modd i ni gysylltu i gynnig cefnogaeth.  

Os ydi eich plentyn bron â chyrraedd oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt wedi cael eu cofrestru mewn ysgol, gallwch anfon e-bost atom ni i roi gwybod eich bod chi’n dymuno addysgu eich plentyn yn y cartref.

Help a Chefnogaeth

Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref yn derbyn addysg addas. Fe fyddwn ni’n cysylltu i gynnig cefnogaeth ac arweiniad a darparu cyfleoedd i gyfarfod gyda chi i drafod yr addysg mae eich plentyn yn ei derbyn.

Adnoddau ar gyfer addysgu yn y cartref

Mae adnoddau ar gael i’ch helpu chi i addysgu eich plentyn yn y cartref.

Llawlyfr i addysgwyr yn y cartref

Mae’r llawlyfr i addysgwyr yn y cartref yn darparu gwybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n addysgu eu plentyn yn y cartref a’r rhai sy’n ystyried gwneud hynny.

Gweler y llawlyfr ar gyfer addysgwyr yn y cartref (gwefan allanol)

Cymorth â’r Gymraeg

Mae’r gwefannau canlynol yn cynnig cymorth gyda dysgu’r Gymraeg:

Gyrfa Cymru

Gall Gyrfa Cymru roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi ar gyfer helpu eich plentyn i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.

Dysgwch fwy am Gyrfa Cymru (gwefan allanol)

Hwb

Mae Hwb yn blatfform dysgu digidol sy’n cynnig adnoddau dysgu rhad ac am ddim i gefnogi darpariaeth y cwricwlwm i Gymru.

Ewch i hwb.llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth (gwefan allanol)

Teithiau addysgol

Mae’r gwefannau canlynol yn darparu gwybodaeth am deithiau addysgol:

Cyfleoedd i wirfoddoli

Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli ar wefan Gwirfoddoli Cymru.

Ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru (gwefan allanol)

Celfyddydau creadigol a pherfformio

Gall y sefydliadau canlynol helpu pobl ifanc i archwilio a datblygu eu talentau perfformio a chreadigol:

Chwaraeon

Nod SportsAid yw annog, galluogi a grymuso’r genhedlaeth nesaf o athletwyr i gyflawni eu huchelgeisiau mewn chwaraeon a bywyd.   

Ewch i wefan SportsAid i gael rhagor o wybodaeth (gwefan allanol)

Llyfrgelloedd

Mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth eang o adnoddau y gallwch eu defnyddio yn rhad ac am ddim.

Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn agored i bawb rhwng 11 a 25 oed, ac mae’n cynnig gweithgareddau cymdeithasol a chyfleoedd i ddatblygu diddordebau yn ogystal â chymorth a chefnogaeth i unrhyw un sydd eu hangen.

Dysgwch fwy am Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych