Cefnogaeth i blant sy’n dechrau yn y meithrin: Lleferydd, iaith, a chyfathrebu

Mae sgiliau cyfathrebu ac iaith eich plentyn yn sylfaen i’w gallu i ddysgu, gwneud ffrindiau a deall y byd o’u cwmpas. O oedran cynnar, mae plant yn dysgu orau trwy siarad, chwarae, gwrando a rhannu profiadau gyda’r bobl sy’n gofalu amdanynt.

Gall gweithgareddau bob dydd wneud gwahaniaeth mawr i ddatblygiad eich plentyn. Gall pethau syml fel sgwrsio gyda’ch gilydd, darllen storïau, canu caneuon, chwarae gemau ac archwilio lleoedd newydd helpu plant i feithrin eu geirfa, eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu.

Sut mae cyfathrebu da yn helpu eich plentyn

Wrth i blant ddysgu i gyfathrebu, maent yn dod yn well am:

  • fynegi eu hanghenion a’u teimladau
  • rhannu syniadau a phrofiadau
  • meithrin perthnasoedd cadarnhaol gydag eraill
  • deall ac ymateb i bobl o’u cwmpas
  • meithrin hyder ynddynt eu hunain a’u galluoedd

Grwpiau rhieni a theuluoedd lleol

Gall grwpiau rhieni a theuluoedd lleol fod yn ffordd wych o gefnogi datblygiad eich plentyn.   Maent yn rhoi cyfleoedd i blant chwarae, cyfathrebu a meithrin sgiliau cymdeithasol mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

I rieni a gofalwyr, mae’r grwpiau hyn yn cynnig cyfle i:

  • gwrdd â theuluoedd eraill
  • rhannu profiadau a syniadau
  • dysgu ffyrdd ymarferol o gefnogi dysgu a datblygiad eich plentyn
  • cael mynediad at gyngor a chefnogaeth yn ôl yr angen

Gweithgareddau yn eich cymuned

Mae cysylltu gyda gwasanaethau lleol yn ffordd wych o ymarfer sgiliau cyfathrebu.

Gallwch ddarganfod beth sydd ar gael trwy ymweld â:

Cymorth â’r Gymraeg

Mae cefnogaeth ar gael i’ch helpu chi a’ch plentyn i fwynhau defnyddio’r Gymraeg.

Mae’r rhaglen Cymraeg i Blant (gwefan allanol) yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth a gweithgareddau am ddim i deuluoedd. Yn ogystal â darparu cyngor am ofal plant ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r rhaglen yn cynnal sesiynau hwyliog trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys:

  • tylino babanod
  • ioga babi
  • sesiynau stori a rhigwm
  • grwpiau canu a chwarae

Nid oes angen i chi allu siarad Cymraeg i fynychu. Mae croeso i bawb, a gall y sesiynau helpu i feithrin eich hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg gyda’ch plentyn wrth i chi gael hwyl gyda’ch gilydd.

Addysg Cyfrwng Cymraeg

Gallwch ddarganfod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych trwy fynd i’n tudalen we am addysg cyfrwng Cymraeg.