Fforymau cyllideb ysgolion

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru fforwm cyllideb ysgolion lleol (fforwm ysgolion). Mae’r fforwm yn cynnwys aelodau ysgolion (fel penaethiaid a llywodraethwyr) ac aelodau nad ydyn nhw’n cynrychioli ysgol (fel swyddogion awdurdod lleol, aelodau undebau llafur ac aelodau o awdurdodau esgobaethol).

Beth mae fforymau cyllideb ysgolion yn ei wneud?

Mae fforwm ysgolion yn allweddol i ddatblygu dealltwriaeth a chyfathrebu effeithiol rhwng y cyngor a’i ysgolion ar faterion cyllidebol fel: 

  • lefelau ariannu ysgolion ar gyfer y blynyddoedd nesaf 
  • y pwysau sydd ar gyllidebau’r dyfodol 
  • newidiadau i’r fformiwla ariannu leol 
  • adolygu contractau neu gytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau i ysgolion

Rydym ni’n ymgynghori gyda’n fforwm ysgolion yn flynyddol ar faterion yn ymwneud â chyllidebau ysgolion a newidiadau i’r cynllun ariannu ysgolion. Gallwn hefyd ymgynghori â’r fforwm ar faterion yn ymwneud ag ariannu ysgolion, fel goblygiadau ariannol trefniadau prydau ysgol am ddim, trefniadau yswiriant, trefniadau defnyddio unedau cyfeirio disgyblion ac addysg plant y tu allan i’r ysgol.

Cyfarfodydd

Gallwch ddod o hyd i agendâu, chofnodion a dogfennau cyfarfodydd diweddar fforymau cyllideb ysgolion, a chyfarfodydd i ddod, yma: