Lleoedd ysgolion uwchradd

Os oes gennych chi blentyn ym mlwyddyn 6 ar hyn o bryd, gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd.

Lleoedd blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd yn 2026

Gallwch wneud cais am le blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd yn 2026 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2014 a 31 Awst 2015 rŵan.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd yw 3 Tachwedd 2025, a byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 2 Mawrth 2026.

Addysg cyfrwng Cymraeg

Nid oes gwell amser erioed wedi bod i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.

Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.

Darganfyddwch mwy am addysg cyfrwng Cymraeg

Cynllun Trochi Uwchradd yn Sir Ddinbych

Os nad yw dysgwyr wedi derbyn addysg gynradd Gymraeg, nid yw hi’n rhy hwyr i dderbyn addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Cynllun Trochi Uwchradd yn helpu dysgwyr nad ydynt wedi derbyn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, i dderbyn addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gallwch wybod mwy am Gynllun Trochi Uwchradd yn Sir Ddinbych.

Sut i wneud cais am le mewn ysgol

Bydd arnoch chi angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg i wneud cais am le mewn ysgol. Gallwch greu eich cyfrif Hunanwasanaeth Addysg cyn i gyfnod ymgeisio ddechrau.

Creu neu fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Addysg

Mwy am Hunan-wasanaeth Addysg

Newid cais ar ôl ei gyflwyno

Ar ôl cyflwyno cais am le mewn ysgol, os hoffech chi newid unrhyw beth, bydd cyfnod byr lle bydd modd i chi ddad-gyflwyno eich cais drwy eich cyfrif Hunan-wasanaeth Aelodau a chyflwyno un newydd. Os nad ydych yn gweld opsiwn i ddad-gyflwyno cais, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i roi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol.

Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau’n cael eu hystyried fel ceisiadau prydlon. Gallwch wneud unrhyw newidiadau o fewn y cyfnod hwn ac ni fydd hyn yn cael effaith ar statws prydlon eich cais.

Fodd bynnag, os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais a gyflwynwyd yn brydlon ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.

Rhoi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol (ffurflen gais)

Ysgolion uwchradd yn Sir Ddinbych

Dewiswch un o’r opsiynau canlynol i weld pa ysgolion sy’n addysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Pob ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych

Pob ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg

Llanelwy

Ysgol Glan Clwyd

Pob ysgol uwchradd ddwyieithog yn Sir Ddinbych

Pob ysgol uwchradd ddwyieithog yn Sir Ddinbych

Llangollen

Ysgol Dinas Brân

Rhuthun

Ysgol Brynhyfryd

Canllawiau gwybodaeth ysgolion