Bydd arnoch chi angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg i wneud cais am le mewn ysgol yn Sir Ddinbych.
Sut i greu neu fewngofnodi i gyfrif
Gallwch greu cyfrif Hunanwasanaeth Addysg cyn i’r cyfnod ymgeisio ddechrau.
Creu neu fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Addysg
Dilysu’r cyfrif
Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif Hunanwasanaeth Addysg, caiff e-bost ei anfon atoch er mwyn dilysu eich cyfrif. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost hwn. Ni fyddwch wedi cwblhau’r broses gofrestru nes i chi ddilysu'ch cyfrif.
Efallai y bydd angen i chi chwilio am yr e-bost dilysu yn ffolder sbam neu sothach eich system e-bost
Cyfrineiriau
Wrth greu cyfrinair ar gyfer eich cyfrif, dim ond y nodau canlynol y gallwch eu defnyddio:
- rhifau
- priflythrennau / llythrennau bach
- y nodau arbennig canlynol @ ; : # ~ * & ^ % $ ! ) (
Os ydych chi'n defnyddio generadur cyfrinair, gwiriwch eich fod yn defnyddio'r cymeriadau a ganiateir yn unig.
Wedi colli neu anghofio cyfrinair
Os byddwch yn colli neu’n anghofio eich cyfrinair, cliciwch y ddolen ‘rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair’ ar y dudalen fewngofnodi.
Gallwch roi gwybod am broblem am yr Hunanwasanaeth Addysg ar-lein.
Rhoi gwybod am broblem gyda’r Hunanwasanaeth Addysg
Pryd i greu cyfrif ac ymgeisio
Gallwch greu cyfrif ar unrhyw bryd, ond bydd ceisiadau ond ar gael ar adegau penodol o’r flwyddyn.
Lleoedd ysgol uwchradd
Gallwch wneud cais am le blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd yn 2025 rŵan.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd yw 4 Tachwedd 2024, a byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 3 Mawrth 2025.
Lleoedd derbyn
O 23 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn yn 2025 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021.
Lleoedd Iau (blwyddyn 3)
O 23 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le mewn ysgol iau (blwyddyn 3) yn 202 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018.
Lleoedd Meithrin
O 23 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin yn 2025 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022.
Newid cais ar ôl ei gyflwyno
Ar ôl cyflwyno cais am le mewn ysgol, os hoffech chi newid unrhyw beth, bydd cyfnod byr lle bydd modd i chi ddad-gyflwyno eich cais drwy eich cyfrif Hunan-wasanaeth Aelodau a chyflwyno un newydd. Os nad ydych yn gweld opsiwn i ddad-gyflwyno cais, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i roi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol.
Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau’n cael eu hystyried fel ceisiadau prydlon. Gallwch wneud unrhyw newidiadau o fewn y cyfnod hwn ac ni fydd hyn yn cael effaith ar statws prydlon eich cais.
Fodd bynnag, os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais a gyflwynwyd yn brydlon ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.
Rhoi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol (ffurflen gais)