Canllawiau rhwydweithio cymdeithasol i ofalwyr a rhieni 

Mae rhwydweithio cymdeithasol yn llwyfan i feithrin rhwydweithiau cymdeithasol neu gysylltiadau cymdeithasol ymhlith pobl sy'n rhannu diddordebau, gweithgareddau, cefndiroedd neu gysylltiadau bywyd go iawn. Mae'r dulliau cyfathrebu ar-lein a chyfryngau cymdeithasol hyn yn cynnwys meddalwedd, ceisiadau, e-bost a gwefannau, sy'n galluogi i ddefnyddwyr ryngweithio, creu a chyfnewid gwybodaeth ar-lein.

Gall y cynnwys hwn gynnwys testun, lluniau neu fideo a chyfuniad o’r tri weithiau. Yn gynyddol, ceir mynediad at y safleoedd a’r gwasanaethau hyn drwy ddyfeisiau symudol yn hytrach na chyfrifiaduron pen desg neu liniadur.

Nod y canllawiau hyn yw:

  • Annog safleoedd rhwydweithio cymdeithasol i gael eu defnyddio mewn ffordd fuddiol a chadarnhaol gan rieni;
  • Diogelu disgyblion, staff ac unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r ysgol rhag effeithiau negyddol safleoedd rhwydweithio cymdeithasol;
  • Diogelu enw da'r ysgol rhag camdriniaeth anwarantedig ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol;
  • Egluro beth mae'r ysgol yn ystyried i fod yn ddefnydd priodol ac amhriodol o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol gan rieni/gofalwyr;
  • Nodi'r gweithdrefnau y bydd yr ysgol yn eu dilyn pan fydd yn ystyried bod rhieni wedi defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn amhriodol neu’n anghyfreithlon ar draul yr ysgol, ei staff neu ei disgyblion, ac unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r ysgol;
  • Nodi'r camau gweithredu y bydd yr ysgol yn ystyried eu cymryd os bydd rhieni’n gwneud defnydd amhriodol o safleoedd rhwydweithio

Canllawiau rhwydweithio cymdeithasol i ofalwyr a rhieni (PDF, 68KB)