Urddas Mislif: Dillad Isaf ar gyfer Ymarfer Corff (Pants for PE)

Services and information

Mae Dillad Isaf ar gyfer Ymarfer Corff (Pants for PE) yn fenter wedi’i hariannu gan Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, sydd ar gael i bob grŵp a chlwb chwaraeon a chanolfan hamdden yn Sir Ddinbych. Mae hefyd ar gael i bob oedran.

Os ydych chi’n gwneud neu’n ymwneud â chwaraeon yn Sir Ddinbych, yna fe allwch chi fod yn gymwys i gael pâr o 'Period Pants' am ddim (sydd fel rheol yn costio £20.85 yn cynnwys P&P) i’w gwisgo tra’r ydych chi’n gwneud eich gweithgareddau.

Y cwbl sydd arnoch chi angen ei wneud ydi llenwi’r ffurflen gofrestru yma:

Ffurflen Gofrestru Talebau Dillad Isaf ar gyfer Chwaraeon

Pan fydd eich cais wedi’i gymeradwyo byddwch yn cael cod taleb ar e-bost i’w ddefnyddio wrth ddesg dalu gwefan Hey Girls (gwefan allanol)

Os hoffech chi ddarparu adborth ar ôl gwisgo’r dillad isaf, yna cysylltwch â ni ar perioddignity@denbighshire.gov.uk