Gwrth-fwlio

Dylai ysgolion gymryd bwlio fel peth difrifol iawn a delio ag o yn gyflym er mwyn dangos nad yw bwlio’n cael ei ganiatáu. Mae'n rhaid i bob ysgol yng Nghymru, yn ôl y gyfraith, fod â pholisi ymddygiad yr ysgol mewn grym. Dylai'r polisi hwn egluro sut y bydd yr ysgol yn delio â bwlio.

Ble y gallaf gael rhagor o gyngor ar fwlio?

Mae gwefannau ac elusennau ymroddedig sydd â'r unig ddiben i gefnogi pobl ifanc sydd yn dioddef bwlio neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Dyma ychydig o safleoedd poblogaidd:

Pobl ifanc

Gall bwlio effeithio arnoch chi drwy niweidio eich hyder a’ch achosi i beidio â mwynhau mynd i'r ysgol/coleg. Gall taclo bwlio ar eich pen eich hun fod yn anodd iawn, fodd bynnag, cael help gan eraill yw'r ffordd orau o daclo bwlio.

Beth i’w wneud os ydw i’n cael fy mwlio?

Os ydych yn cael eich bwlio, dylech geisio:

  • Ddweud wrth rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt yr ysgol (gall hyn fod yn athro neu oedolyn arall)
  • Dweud wrth rywun yn eich teulu
  • Peidiwch â beio eich hun am yr hyn sydd wedi digwydd

Os ydych yn rhy ofnus i ddweud wrth oedolyn ar eich pen eich hun, yna gofynnwch i ffrind ddod gyda chi.

Beth i’w wneud os ydw i’n gwybod bod rhywun yn cael ei fwlio?

Os ydych yn gweld rhywun yn cael ei fwlio, yna dylech roi gwybod i athro neu aelod arall o staff. Os ydych yn rhy ofnus i fynd at yr athro, dywedwch wrth eich rhieni ddweud wrth yr athrawon. Pan fyddwch yn dweud wrth rywun am fwlio, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch. Dywedwch wrthyn nhw:

  • beth sydd wedi digwydd?
  • pa mor aml y mae hyn yn digwydd?
  • pwy oedd yn rhan?
  • lle y digwyddodd?
  • wnaeth unrhyw un arall ei weld yn digwydd?

Os byddwch yn ei chael hi'n anodd siarad â rhywun yn yr ysgol neu adref, gallwch gysylltu â MEIC, llinell gymorth 24 awr am ddim ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallwch ofyn i MEIC am gyngor a chefnogaeth am lawer o bethau, gan gynnwys bwlio. Gall MEIC gysylltu â'r ysgol er mwyn i chi siarad â'ch ysgol am fwlio.

Ewch i wefan MEIC (gwefan allanol) neu ffoniwch nhw am ddim ar 08088 023456.

Rhieni a gofalwyr

Mae ymchwil yn dangos bod tua hanner y plant sydd wedi cael eu bwlio byth yn dweud wrth eu rhieni am y peth. Mae plant yn aml â gormod o gywilydd i ddweud wrth unrhyw un; weithiau maent yn teimlo na all unrhyw un helpu, ddim hyd yn oed eu rhieni. 

Beth i'w wneud os yw fy mhlentyn yn cael ei fwlio?

Os ydych yn amau bod eich plentyn yn cael ei fwlio, dylech:

  • Siarad yn dawel â'ch plentyn
  • Egluro ei bod yn well i siarad â rhywun am y peth
  • Rhoi sicrwydd iddynt mai dweud wrth rywun yw'r peth iawn i'w wneud
  • Gwneud apwyntiad i weld athro / athro dosbarth eich plentyn

Mae cyfathrebu gyda'r ysgol yn hanfodol ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r ysgol ynghylch a fydd y sefyllfa'n gwella ai peidio.

Sut gall rhieni a gofalwyr helpu i atal bwlio rhag digwydd?

Gall bwlio ddigwydd mewn unrhyw amgylchedd, boed hynny mewn ysgol neu yn y gymuned yn gyffredinol. Gall rhieni a gofalwyr helpu i atal y bwlio hyn drwy:

  • Fod yn esiampl dda i'r plant
  • Dysgu eich plant am fwlio a’i effaith
  • Rhoi gwybod i'r ysgol am unrhyw fwlio yr ydych wedi’i weld
  • Datblygu arferion gwrth-fwlio yn eich cartref yn gynnar
  • Treulio amser yn yr ysgolion a chlybiau

Ffordd arall i rieni a gofalwyr helpu i atal bwlio yw bod yn rhagweithiol gyda'r ysgol a chyfathrebu'n gyson er mwyn sicrhau bod y plant yn cael eu haddysgu mewn amgylchedd diogel.

Athrawon a gweithwyr proffesiynol

Mae’n rhaid i brif athrawon a chyrff Llywodraethu, yn ôl y gyfraith, gael polisi i atal pob math o fwlio ymysg disgyblion. Profwyd gall ysgolion gyda ffocws cymunedol fod yn llwyddiannus wrth newid diwylliant cymuned a chael effaith gadarnhaol ar fwlio y tu mewn a thu allan i giatiau'r ysgol.

Bydd herio bwlio’n effeithiol yn gwella diogelwch a hapusrwydd y dysgwyr, yn dangos bod ots gan yr ysgol a’i gwneud yn glir i fwlis bod ymddygiad o'r fath yn annerbyniol.

Beth yw'r mathau o fwlio?

Gall bwlio fod ar sawl ffurf, ond y tri phrif fath yw:

  • Corfforol: Niweidio’r dioddefwr, dyrnu, cicio
  • Llafar: Galw enwau, lledaenu sïon
  • Anuniongyrchol: Yn fwy adnabyddus fel seibr-fwlio, negeseuon, tecst, pyst ar Facebook

Gellir cael mwy o wybodaeth ar trosolwg Gwrth-fwlio a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru:

LLYW.Cymru: bwlio yn yr ysgol (gwefan allanol)

Sut i weithio gyda rhieni i stopio bwlio?

Mae cefnogaeth y rhieni yn aml yn allweddol i lwyddiant neu fethiant mewn mentrau gwrth-fwlio. Mae dulliau defnyddiol yn cynnwys:

  • ymgynghori a chyfathrebu rheolaidd rhwng athrawon a rhieni
  • darparu gwybodaeth am natur ac effeithiau bwlio
  • dramateiddiad o sefyllfa fwlio y gwahoddir rhieni iddi.

Dogfennau cysylltiedig

Strategaeth Gwrth-Fwlio: "Parchu Eraill" (PDF, 743KB)