Cymdeithas Llywodraethwyr

Mae'r Gymdeithas Llywodraethwyr yn fforwm proffesiynol ar gyfer cyrff llywodraethu i rannu gwybodaeth ac arfer gorau, ac i drafod materion o ddiddordeb cyffredinol.  Mae hefyd yn eich modd ffurfiol o gyfathrebu a'r awdurdod lleol.

Mae'r gymdeithas yn cyfarfod unwaith bob tymor.  Mae croeso i bob llywodraethwr i fynychu, fodd bynnag, oherwydd maint yr ystafell cyfarfod, rydym yn awgrymu fod un llywodraethwr yn cael ei enwebu i gynrychioli pob corff llywodraethu yn y cyfarfod.  Mae'n bwysig cael cymaint o gyrff llywodraethu a phosibl wedi'u cynrychioli ym mhob cyfarfod.

Gallwch awgrymu pwnc i'w drafod mewn cyfarfod sydd i ddod drwy anfon e-bost at governor.support@denbighshire.gov.uk.

Agenda a chofnodion

Ym mhob cyfarfod, caiff cofnodion y cyfarfod blaenorol ei adolygu a'i gytuno.  Ar ol hyn, caiff y cofnodion eu cyhoeddi ar ein Denbighshire Sharepoint, fel y gall pob llywodraethwr weld yr hyn a gafodd ei drafod.