Meini prawf gwahardd llywodraethwyr ysgol

Bod yn Anghymwys

Mae Atodlen 5 i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (gwefan allanol) yn trin a thrafod sut mae llywodraethwyr yn anghymwys.

Rhaid i lywodraethwr fod yn 18 oed neu drosodd ar ddyddiad ei ethol neu ei benodi (ac eithrio disgybl-lywodraethwr cyswllt).

Ni chaiff rhywun ddal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr:

  • os yw’n colli cyfarfodydd y corff llywodraethu – heb ganiatâd y corf llywodraethu – am gyfnod di-dor o chwe mis, gan gychwyn ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf a fethwyd (nid yw’n berthnasol I lywodraethwyr ex officio). Os anfonwyd ymddiheuriad i’r cyfarfod gan y llywodraethwr, yna rhaid i gofnodion y cyfarfod hwnnw nodi a ganiatawyd yr absenoldeb ai peidio – a rhaid anfon copi o’r cofnodion at y llywodraethwr.
  • os yw’n destun gorchymyn methdalu neu orchymyn dros dro;
  • os yw ei stad wedi ei hatafaelu ac os nad yw'r gorchymyn atafaelu wedi ei atal, ei ddirymu neu ei ddad-wneud;
  • os yw’n destun:
  • gorchymyn anghymwyso neu ymgymeriad anghymwyso o dan Ddeddf Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986
  • gorchymyn anghymwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989
  • ymgymeriad anghymwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iweddon) 2002
  • gorchymyn a wnaed o dan adran 492(2)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986 (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu Llys Sirol);
  • wedi ei ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusennol neu fel ymddiriedolwr ar gyfer elusen gan y Comisiynwyr Elusennau neu’r Uchel Lys oherwydd camymddygiad neu gamreolaeth elusennau, neu o dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (Yr Alban) 1990 rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff;
  • wedi ei gynnwys ar restr y bobl y gwaherddir neu y cyfyngir ar eu cyflogi o dan Adran 1 Ddeddf Amddiffyn Plant 1999.
  • wedi ei anghymwyso rhag gweithio gyda phlant neu sy’n destun cyfarwyddyd Llywodraeth y Cynulliad o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002;
  • wedi ei anghymwyso rhag bod yn berchennog ysgol annibynnol;
  • wedi ei ddedfrydu i dri mis neu ragor o garchar (boed wedi’i ohirio neu beidio) (heb y dewis o dalu dirwy) yn ystod y pum mlynedd cyn dod yn llywodraethwr neu ers dod yn llywodraethwr;
  • wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner neu ragor o garchar yn ystod yr 20 mlynedd cyn dod yn llywodraethwr;
  • wedi ei ddedfrydu i bum mlynedd neu ragor o garchar ar unrhyw adeg;
  • wedi cael dirwy am achosi niwsans neu aflonyddwch ar dir yr ysgol yn ystod y pum mlynedd cyn neu ers cael ei ethol yn llywodraethwr;
  • yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i ofyn i’r Swyddfa Cofnodion Troseddol am dystysgrif cofnodion troseddol.

Os yw rhywun wedi’i anghymwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd o dan y darpariaethau hyn, rhaid iddynt roi gwybod i glerc y corf llywodraethu.

Ni all disgyblion ar gofrestr yr ysgol, rhywun sy’n gymwys i fod yn staff-lywodraethwr neu’n athro-lywodraethwr o unrhyw ysgol, nac aelodau etholedig yr ALl, fod yn llywodraethwyr cymunedol. Mae hyn oherwydd mai nod llywodraethwyr cymunedol yw cynrychioli’r gymuned ehangach.

Nid yw aelodau etholedig yr ALl, gweithwyr cyflogedig yr ALl na gweithwyr cyflogedig corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan yr ALl yn gymwys i gael eu penodi fel rhiant-lywodraethwyr oni bai eu bod yn rhieni disgyblion yr ysgol. (Fel arfer, rhieni eraill sy’n ethol rhiant-lywodraethwyr).

Ni all unrhyw un, ar unrhyw adeg:

  • ddal swydd mwy nag un llywodraethwr yn yr un ysgol, neu fod yn
  • aelod o fwy na dau gorff llywodraethu ysgolion a gynhelir oni bai ei fod ef/hi:
    • wedi’i benodi fel llywodraethwr ar gyfer ysgol sy’n destun pryder dan adrannau 16, 16A, 18 neu 18A o Ddeddf SSF
    • yn llywodraethwr dros dro; neu
    • yn llywodraethwr ex officio. Gall llywodraethwr ex officio fod yn aelod o ddau gorff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ogystal â dau gorff llywodraethu arall fel llywodraethwr cyffredin (ac nid llywodraethwr ex officio, hynny yw).