Protocol Addysg Ddewisol yn y Cartref
Mae ein protocol Addysg Ddewisol yn y Cartref yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i rieni a gofalwyr sy’n dewis addysgu eu plant gartref.
Diweddarwyd y protocol hwn ddiwethaf: Hydref 2026
Cynnwys:
Mae addysg yn y cartref yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfa lle mae rhieni a gofalwyr yn addysgu eu plant yn y cartref yn lle eu hanfon i'r ysgol. Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae addysg yn orfodol, ond nid yw'n orfodol anfon plant i'r ysgol. Nid oes angen i chi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol i addysgu yn y cartref (oni bai bod eich plentyn wedi’i gofrestru mewn ysgol arbennig). Nid oes rhaid i chi gadw at gwricwlwm, er y gall fod yn adnodd hwylus i gyfeirio ato.
Chi fydd yn penderfynu pa gyfleoedd dysgu y byddwch yn eu darparu a’r ffordd y bydd eich plant yn dysgu, ar yr amod bod yr addysg rydych yn ei darparu yn addysg ‘amser llawn’, ‘addas’, ac ‘effeithlon’.
Yn ôl i'r cynnwys
Nid ar chwarae bach y dylid gwneud y penderfyniad i addysgu eich plentyn yn y cartref. Dylai'r penderfyniad hwn fod yn ddewis cadarnhaol, nid yn ddewis olaf. Bydd yn rhaid i chi wneud ymrwymiad mawr, a hynny o ran amser, egni ac arian. Os ydych yn dewis addysgu eich plant yn y cartref rhaid ichi fod yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol llawn, gan gynnwys costau unrhyw arholiadau cyhoeddus. Mae'n arbennig o bwysig eich bod yn ystyried natur yr addysg rydych yn bwriadu ei darparu ar gyfer eich plentyn cyn i chi ddechrau ei addysgu yn y cartref.
Er enghraifft, dylech ystyried y meysydd dysgu a phrofiad y byddwch yn eu darparu, ac a fyddant yn galluogi eich plentyn i gyflawni ei botensial nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys a yw eich plentyn am sefyll arholiadau cyhoeddus fel TGAU. Mae'n bwysig ystyried cwestiynau fel y canlynol:
- a yw eich plentyn yn teimlo’n gadarnhaol ynghylch yr awgrym i’w addysgu yn y cartref?
- a ydych yn sicr mai hwn yw'r dewis gorau i'ch plentyn?
- a oes gennych yr amser i'w roi i addysg eich plentyn ar sail amser llawn?
- a oes gennych y gallu i helpu eich plentyn i ddysgu’n effeithiol?
- a fydd modd i chi addysgu eich plentyn i'r lefel ofynnol os bydd eisiau sefyll arholiadau?
- a ydych yn gallu darparu'r adnoddau angenrheidiol?
- a oes cymorth arall ar gael i chi?
- a oes cyfleoedd ar gyfer ymarfer corff?
- a fydd profiadau cymdeithasol gyda phlant eraill ar gael?
- a ydych yn siŵr eich bod yn dewis addysg yn y cartref o'ch gwirfodd?
Yn ôl i'r cynnwys
Os yw eich plentyn yn yr ysgol, dylech ysgrifennu at y pennaeth yn rhoi gwybod iddynt am eich bwriad i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros addysg eich plentyn ac er mwyn tynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr. Yna, bydd y pennaeth yn tynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr ac yn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol. Nid yw rhoi gwybod i’r ysgol ar lafar yn ddigon, gallech gael eich erlyn am ddiffyg presenoldeb.
Os nad yw eich plentyn wedi mynd i ysgol erioed, nid oes angen rhoi gwybod. Fodd bynnag, argymhellwn yn gryf eich bod yn cysylltu â'ch awdurdod lleol i roi gwybod iddo eich bod yn addysgu eich plentyn yn y cartref er mwyn iddo allu cysylltu â chi a chynnig cymorth.
Yn ôl i'r cynnwys
Bydd yr un weithdrefn yn berthnasol os oes gan eich plentyn CDU ac yn mynychu ysgol prif ffrwd. Fodd bynnag, os yw eich plentyn yn cael Cynllun Datblygu Unigol (CDU), mae'n arfer da adolygu'r CDU cyn tynnu'r dysgwr oddi ar y gofrestr fel bod y canlyniadau newydd yn adlewyrchu Addysg Ddewisol yn y Cartref.
Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol arbennig, bydd angen i chi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol cyn y gallwch ei dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol a gofyn i’r awdurdod lleol adolygu CDU.
Yn ôl i'r cynnwys
Mae gennych hawl i addysgu eich plant o'ch safbwynt athronyddol, ysbrydol neu grefyddol eich hunan. Fodd bynnag, ni cheir hawl absoliwt i addysgu yn y cartref. Caniateir addysgu yn y cartref ar yr amod eich bod yn darparu addysg amser llawn, 'effeithlon' ac 'addas' i'ch plentyn.
Yn ôl i'r cynnwys
Os na fydd yr awdurdod lleol yn hyderus eich bod yn darparu addysg addas oherwydd, er enghraifft, nad ydych wedi darparu gwybodaeth ddigonol neu nad yw’r wybodaeth yr ydych wedi’i darparu yn ei gwneud yn glir bod yr addysg yn addas ac yn effeithlon, bydd yr awdurdod lleol yn parhau i ymgysylltu â chi i ddarparu’r wybodaeth honno.
Os bydd yr awdurdod lleol yn parhau i fod heb ei fodloni bod yr addysg yr ydych yn ei darparu yn addas ac yn effeithlon, bydd yn dilyn y prosesau ffurfiol a amlinellir mewn deddfwriaeth.
Mae hyn yn golygu, os yw pryderon yr awdurdod lleol yn parhau, a'i fod felly o'r farn bod yn rhaid i'r plentyn fynychu'r ysgol, rhaid iddo gyflwyno gorchymyn mynychu'r ysgol i'r rhiant neu’r gofalwr. Mae gorchymyn mynychu'r ysgol yn orchymyn a ddyroddir ar ran yr awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i'r plentyn gael ei gofrestru fel disgybl amser llawn yn yr ysgol a enwir yn y gorchymyn.
Os ydych yn dymuno, cewch ddewis ysgol wahanol i'r un a enwir yn llythyr y gorchymyn mynychu'r ysgol. Fodd bynnag, rhaid i'r ysgol fod yn addas i ddiwallu anghenion y plentyn a rhaid iddi fod wedi cytuno i gynnig lle i'ch plentyn.
Yn ôl i'r cynnwys
Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau i alluogi iddynt nodi plant yn yr ardal sydd o fewn oedran addysg orfodol ond:
- nid ydynt yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol, ac
- nid ydynt yn derbyn addysg addas heblaw am mewn ysgol
Mae canllawiau statudol wedi’u datblygu er mwyn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd i sicrhau bod plant yn cael addysg addas.
Yn ôl i'r cynnwys
Wrth gynnig tystiolaeth o addasrwydd darpariaeth addysg eich plentyn, gallech, er enghraifft, ddarparu'r wybodaeth hon fel a ganlyn:
- Cyfarfod gyda’r Athro / Athrawes Ymgynghorol
- Anfon gwybodaeth drwy e-bost fel atodiad
- Bod eich plentyn yn dangos rhywfaint o’i waith neu’n sôn am yr hyn mae’n ei ddysgu
- Llungopïau o waith ysgrifenedig
- Ffotograffau
- Gwaith celf
- Llyfrau lloffion
- Cyflawniadau cerddorol ac ym maes chwaraeon (tystysgrifau)
- Dyddiadur digwyddiadau
- Defnyddio’r cyfryngau digidol
- Gwefannau a grëwyd gan eich teulu neu wefannau mae eich teulu yn cyfrannu atynt
- Adroddiad ysgrifenedig
Yn ôl i'r cynnwys
Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ddilyn cwricwlwm na'r un dulliau â'r ysgol, ond mae'n bosibl y byddai hyn yn ddefnyddiol i chi fel fframwaith er mwyn penderfynu pa feysydd dysgu a phrofiad i’w cynnwys a sut i asesu cyflawniad eich plentyn.
Dylai’r addysg a ddarperir gennych:
- alluogi eich plentyn i gaffael gwybodaeth newydd a gwneud cynnydd yn unol â'i allu er mwyn cynyddu ei ddealltwriaeth a datblygu ei sgiliau yn y meysydd dysgu a phrofiad sy’n cael eu cyflwyno
- meithrin sgiliau deallusol, corfforol a chreadigol eich plentyn a'i allu i feddwl a dysgu drosei hun
- dangos gwybodaeth a dealltwriaeth briodol o'r meysydddysgu a phrofiad sy’n cael eu cyflwyno
- rhoi fframwaith ar waith i fesur cynnydd eich plentyn yn rheolaidd acyn drylwyr er mwyn gallu cynllunio eich darpariaeth addysg mewn ffordd addas
Yn ôl i'r cynnwys
Rhaid i rieni a gofalwyr sy’n dewis addysgu eu plant yn y cartref fod yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol llawn ar gyfer addysg eu plentyn, gan gynnwys llyfrau a phob adnodd arall, ynghyd â thalu costau unrhyw arholiadau cyhoeddus a ffioedd cyrsiau.
Yn ôl i'r cynnwys
Gall eich plentyn ddychwelyd i’r ysgol ar unrhyw adeg drwy gwblhau ffurflen trosglwyddo ysgol yn yr adran Derbyniadau ar wefan CSDd.
Fodd bynnag, does dim sicrwydd y bydd lle yng nghyn ysgol eich plentyn.
Yn ôl i'r cynnwys
Os byddwch yn dewis gadael Sir Ddinbych i symud i sir arall, rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol am hyn. Byddan nhw wedyn yn hysbysu’r awdurdod newydd. Gall methiant i wneud hynny arwain at feddwl bod eich plentyn yn Colli Addysg.
Yn ôl i'r cynnwys
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, anfonwch e-bost atom ni.
Yn ôl i'r cynnwys