Beth ddylwn i ei wneud â blancedi?

Symbol ailgylchu tecstilau

Gall hen flancedi a dillad gwely gael eu hailgylchu yn y banc tecstilau yn ein Parciau Ailgylchu a Gwastraff.

Mae rhai siopau elusen a llochesi i bobl ddigartref yn derbyn blancedi a dillad gwely glân mae posib’ eu hailddefnyddio.

Fel arall, mae rhai elusennau anifeiliaid anwes neu lochesi anifeiliaid yn croesawu blancedi fel rhoddion, ond ffoniwch gyntaf i wirio.

Menter gymdeithasol 'Co-Options'

Mae'r fenter gymdeithasol Co-Options (gwefan allanol) yn elusen sy'n seiliedig yn Sir Ddinbych, maent yn casglu tecstilau, esgidiau ac eitemau plant y gellir eu hailwerthu ar ymyl palmant bob pythefnos. Maent yn gwerthu eitemau y gellir eu hailddefnyddio drwy eu siop elusen leol yn y Rhyl, “Kit out the Kids and Family" (gwefan allanol) er mwyn codi arian hanfodol i helpu i ddarparu gwaith yn y gymuned a darparu swyddi i oedolion diamddiffyn. Caiff eitemau sydd wedi gwisgo gormod i gael eu hailwerthu eu paratoi ar gyfer y marchnadoedd ailgylchu.

Er mwyn darganfod os yw’r gwasanaeth hwn yn gweithredu yn eich ardal chi, neu os hoffech chi wybod ble mae eich man casglu agosaf, cysylltwch â Co-Options ar 01745 332300 neu ymwelwch â'u gwefan (gwefan allanol).