Casgliadau gwastraff gardd (19 Rhagfyr i 11 Ionawr)
Nid oes modd bellach cofrestru i dderbyn gwasanaeth gwastraff gardd ar gyfer cyfnod 2025 / 2026
Nid ydym ni’n derbyn tanysgrifiadau gwastraff gardd newydd ar gyfer y cyfnod presennol (1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026).
Fe fydd y casgliadau’n parhau fel arfer ar gyfer aelwydydd sydd eisoes â thanysgrifiad.
Bydd tanysgrifiadau ar gyfer y cyfnod nesaf (1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027) yn ailagor ar 12 Ionawr 2026. Gwiriwch y dudalen hon bryd hynny i gofrestru.
Am ffi flynyddol, gallwn ddod i gasglu eich gwastraff gardd, gan gynnwys y canlynol:
- toriadau gwair
- thociadau gardd
- canghennau a brigau
- dail
- rhisgl
- blodau
- rhisgl pren a siafins
- planhigion
Ni fyddwn yn gwagio bagiau gwastraff gwyrdd neu finiau gwyrdd sy’n cynnwys; pridd, cerrig, compost, gwastraff cartref cyffredinol, cynnyrch bwyd neu unrhyw wair / naddion pren, pren neu bapur wedi’u halogi gan anifeiliaid.
Cwsmeriaid sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau ar gyfer ailgylchu a gwastraff
Yn anffodus, nid yw’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar gael i gwsmeriaid sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau, ar gyfer casglu eu hailgylchu a’u gwastraff. Os ydych chi ar y gwasanaeth bagiau, peidiwch â cheisio cofrestru ar gyfer y casgliadau gwastraff gardd. Byddwn yn adolygu hyn ac yn rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw newidiadau.
Os ydych chi’n symud tŷ i gyfeiriad arall yn Sir Ddinbych sydd yn derbyn gwasanaeth Trolibocs, gallwch ddweud wrthym os hoffech chi drosglwyddo eich gwasanaeth gwastraff gardd i’r eiddo newydd. Ni roddir ad-daliadau os byddwch chi’n canslo eich tanysgrifiad yn fuan..
Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid
Mae yna ffioedd ar gyfer cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd os ydynt wedi cael eu colli, eu dwyn neu eu difrodi.
Fel arfer, darperir cynwysyddion gwastraff gardd newydd am ddim, er rydym yn cadw’r hawl i godi tâl mewn rhai amgylchiadau. Pan fydd yna ffioedd i’w talu, mae’r prisiau i’w gweld isod.
Ffioedd am gynwysyddion gwastraff gardd
| Cynhwysydd | Ffi |
| Biniau gwyrdd ar olwynion (pob maint) newydd neu yn lle’r rhai presennol |
£25 |
| Tair sach |
£15 |
| Sach yn lle’r un bresennol |
£5 yr un |