Rhoi gwybod am gasgliad bin a fethwyd
Casgliadau ailgylchu a gwastraff
Mae ein criwiau gwastraff yn parhau gyda chasgliadau wedi eu cynllunio. Os fethwyd eich casgliad, dylech ei roi allan y diwrnod canlynol. Os na allwn ei gasglu, dylech roi’r cynwysyddion allan ar y dyddiad byddech yn derbyn eich casgliad arferol nesaf.
Fe ddylech osod eich biniau allan ar y palmant erbyn 7.00am.
Os na fyddwch chi'n gosod eich cynwysyddion allan yn barod i’w casglu cyn 7:00am neu yn rhoi eich cynwysyddion allan ar y diwrnod anghywir, bydd angen i chi naill ai:
Yn yr achos hynny, os ydych chi’n credu bod ein criw wedi methu eich bin ar ddamwain, gallwch roi gwybod am gasgliad sydd wedi cael ei fethu ar-lein.
Rydym yn diweddaru ein ffurflenni ar-lein
Pan fyddwch yn rhoi gwybod ar-lein nad yw eich biniau wedi eu gwagio:
- Os ydych am roi gwybod i ni am gasgliad Trolibocs a fethwyd dylech ddewis unrhyw un o'r blychau a chaiff y cynhwysydd cyfan ei gasglu.
- os nad yw eich cynwysyddion wedi’u rhestru, rhowch wybod i ni yn yr adran 'Rhagor o fanylion' ar y ffurflen.
Diolch am eich amynedd.
Rhoi gwybod am gasgliad bin a fethwyd
Peidiwch â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 3pm. Mae hyn er mwyn rhoi digon o amser i’r criwiau gwblhau eich ardal.