Benthyciad Gwella Cartrefi

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig benthyciadau tymor byr i ganolig, di-log i helpu perchnogion cymwys i wella cyflwr eu heiddo preswyl.

Mae ond yn bosibl ymgeisio am y benthyciadau hyn trwy'r cyngor lleol.

Pwy all wneud cais?

Gallech fod yn gymwys am fenthyciad gwella'r cartref os ydych yn berchen ar eiddo sydd mewn cyflwr gwael, a'ch bod yn bwriadu gwneud gwaith i'w wneud yn gynnes, ynddiogel ac/neu yn sicr.

Mae benthyciadau ar gael i:

  • perchen-feddiannwyr
  • landlordiaid (unigolion yn unig)

Mae’n rhaid eich bod yn bwriadu meddiannu’r eiddo, neu ei rentu ac mae’n rhaid i’r eiddo fod wedi’i gofrestru ar Gofrestr Tir Ei Fawrhydi pan fyddwch chi’n gwneud cais.

Faint fydd y benthyciad?

Gallech chi gael benthyciad o rwng £1,000 a £35,000 fesul eiddo neu uned llety.

Mae’n rhaid i berchnogion feddianwyr ad-dalu’r benthyciad cyn pen saith mlynedd. Mae’n rhaid i landlordiaid ad-dalu’r benthyciad cyn pen pum mlynedd. 

Bydd pob cais yn destun:

  • ffi weinyddiol o £500, i dalu ein costau wrth weinyddu'r benthyciad
  • asesiad fforddiadwyedd, i wneud yn siŵr y gallwch fforddio ad-dalu'r benthyciad

Nodwch fod y benthyciadau hyn yn ddewisol. Allwn ni ddim gwarantu y bydd benthyciad yn cael ei gynnig i chi hyd nes y byddwch yn derbyn hysbysiad ffurfiol bod eich cais wedi ei gymeradwyo.

Sut ydw i'n gwneud cais?

Os oes gennych chi ddiddordeb ymgeisio am fenthyciad gwella cartrefi, gallwch ofyn am ffurflen gais gan y Tîm Addasiadau a  Gwelliannau Tai drwy: