Apelio penderfyniad budd-dal

Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich cais am fudd-dal, yna gallwch ofyn iddo gael ei ailystyried neu apelio yn erbyn y penderfyniad.

Sut i apelio

Mae angen i chi sicrhau eich bod yn apelio i'r lle iawn.

Penderfyniadau budd-daliadau’r wladwriaeth

Gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol os nad ydych yn hapus â phenderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar fudd-daliadau'r wladwriaeth megis Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth (ESA) a Chredyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy, gan gynnwys sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal DWP ar wefan Cyngor ar Bopeth (gwefan allanol).

Penderfyniadau budd-dâl tai

Os ydych chi'n anghytuno â'n penderfyniad ynghylch eich hawl i fudd-dal tai, bydd angen i chi ysgrifennu atom a darparu manylion ynghylch pam rydych chi'n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir a gofyn am newid y penderfyniad. Rhaid i chi ddweud wrthym pam rydych chi'n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir, nid yw'n ddigon dweud nad ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad.

Gallwch anfon apêl budd-daliadau tai trwy

Rhaid i ni dderbyn eich cais i newid y penderfyniad cyn pen mis o'r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad atoch, neu, os gwnaethoch ofyn am esboniad o'r penderfyniad, cyn pen mis ar ôl anfon yr esboniad atoch.

Os ydym yn teimlo bod ein penderfyniad yn gywir ac na ddylid ei newid, anfonir eich apêl at Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (HMCTS) i drefnu tribiwnlys. 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am apeliadau budd-daliadau tai ar wefan Cyngor ar Bopeth (gwefan allanol).

Penderfyniadau Gostyngiadau Treth y Cyngor

Os ydych chi'n anghytuno â'n penderfyniad ynghylch eich hawl i ostyngiad treth y cyngor, bydd angen i chi ysgrifennu atom a darparu manylion ynghylch pam rydych chi'n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir a gofyn am newid y penderfyniad. Rhaid i chi ddweud wrthym pam rydych chi'n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir, nid yw'n ddigon dweud nad ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad.

Gallwch anfon apêl am ostyngiad treth y cyngor trwy

Rhaid i ni dderbyn eich cais i newid y penderfyniad cyn pen mis o'r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad atoch, neu, os gwnaethoch ofyn am esboniad o'r penderfyniad, cyn pen mis ar ôl anfon yr esboniad atoch.

Os nad ydych yn fodlon gyda’n ymateb, gallwch apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru (VTW).  Ymwelwch â gwefan VTW (gwefan allanol).

Gallwch gael mwy o wybodaeth am apeliadau gostyngiad treth y cyngor ar wefan Cyngor ar Bopeth (gwefan allanol).

Pan y gwnewch apêl i ni

Bydd yr adran fudd-daliadau yn ysgrifennu i roi gwybod ichi eu bod wedi derbyn eich apêl. Os nad ydych wedi clywed unrhyw beth ar ôl 14 diwrnod, yna dylech gysylltu â'r adran i weld a ydynt wedi'i dderbyn.

Pan fydd yr adran yn edrych ar eich apêl, byddant yn adolygu eu penderfyniad ac os byddant yn penderfynu eich bod yn iawn, yna byddant yn ysgrifennu atoch i gadarnhau hyn. Os bydd y penderfyniad yn cael ei newid ond nad ydych yn cytuno â'r canlyniad, yna bydd yn rhaid i chi apelio yn erbyn y penderfyniad newydd.

Beth alla i ei wneud os byddaf yn colli fy apêl?

Efallai y gallwch apelio os bu camgymeriad cyfreithiol ond nid dim ond oherwydd eich bod yn anhapus â'r penderfyniad. Os yw'ch amgylchiadau wedi newid, yna efallai y gallwch wneud cais newydd neu hawlio budd-dal gwahanol yn ei le.