Cyngor budd dal tai i landlordiaid

Mae swm y budd-dal tai a delir yn dibynnu ar amgylchiadau person yn ogystal â swm y rhent, felly ni all landlordiaid ymgeisio ar ran tenant. 

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac ni ellir talu Budd-dal Tai os yw’r hawliwr yn derbyn Credyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sy’n cael ei dalu i bobl sengl fyddai wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Fel arfer, un taliad misol fydd Credyd Cynhwysol sy'n cael ei dalu mewn ôl-daliadau yn uniongyrchol i gyfrif yr hawliwr. Bydd taliadau yn cynnwys yr holl gostau tai cymwys, lle bo’n briodol - sy'n golygu y bydd hawlwyr yn gyfrifol am dalu eu rhent eu hunain. 

Fel Landlord Preifat gallwch baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol dry:

  • Ddod yn gyfarwydd â’r newidiadau
  • Ystyried sut y byddech angen addasu eich polisïau o bosibl
  • Cysylltu â’ch tenantiaid yn fuan, i sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau a’r gefnogaeth sydd ar gael

Gallwch gael gwybodaeth a chyngor lleol yn www.gov.uk (gwefan allanol) neu gysylltu â'ch Canolfan Waith leol

Gwybodaeth y gallwn ei rhoi

Os byddwch yn cysylltu â ni mae’r wybodaeth y gallem ei rhoi i chi’n gyfyngedig gan fod gwybodaeth hawlwyr yn gyfrinachol. Fodd bynnag, gallwn roi gwybodaeth arbennig mewn rhai achosion pan ystyrir bod y landlordiaid yn ‘bobl sy’n cael eu heffeithio’. Gallai hyn fod:

  • Pan fyddwn ni’n adennill gordaliad gennych chi. Gallwn roi gwybod y swm i chi, y cyfnod a’r rheswm am adennill y gordaliad. 
  • Rydyn ni’n talu Budd-dal Tai’n uniongyrchol i chi. Gallwn roi gwybod y swm, y gyfradd budd-dal wythnosol ac am ba gyfnod y mae’r sieciau a anfonir yn uniongyrchol atoch chi, a’r dyddiad y bydd y taliadau uniongyrchol yn stopio. 
  • Mae taliadau uniongyrchol i Landlord wedi eu gwrthod. Gallwn esbonio pam.

Cydsyniad tenant

Gallwn drafod hawliad os bydd y tenant yn rhoi caniatâd i ni drwy arwyddo ffurflen gydsyniad tenant. Pan na fydd hawliwr wedi gofyn am i fudd-dal gael ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord, ni allwn roi unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r hawliad o gwbl. 

Gallwn roi gwybodaeth i landlordiaid hefyd os bydd tenant wedi arwyddo llythyr yn cadarnhau y gall eu landlord weithredu ar eu rhan. Nid yw llythyr cyffredinol ar ddechrau’r hawliad yn ddigon i ganiatáu rhyddhau data personol ar bob achlysur diweddarach a gallwn gadarnhau bwriadau’r hawliwr pryd bynnag y teimlwn fod hynny’n addas. 

Gwybodaeth arall

Fe allem ddarparu landlordiaid â gwybodaeth arall os bydd anghenion yr hawliwr yn gwneud hynny’n addas neu os bydd yn helpu gweinyddiad budd-daliadau e.e. pan fyddwn yn disgwyl am fwy o wybodaeth gan y tenant.