I lenwi’r ffurflen hon, bydd angen i chi ddarparu:
- Eich cyfeiriad presennol a newydd
- Enwau a dyddiadau geni pawb yn eich aelwyd
- Enw a chyfeiriad y landlord a/neu y cwmni symud
Llythyr tenantiaeth a dyfynbrisiau symud
Byddwch yn cael y dewis i uwchlwytho dogfen neu ddelwedd o’r llythyr tenantiaeth gan eich landlord newydd a/neu ddyfynbris gan y cwmni symud. Mae hyn yn ein helpu i wneud penderfyniad ar eich cais.
Manylion Banc
Bydd yn ddefnyddiol os gallwch ddarparu manylion banc eich landlord newydd neu’r cwmni symud. Nid oes rhaid i chi ddarparu’r rhain ond gallai gymryd mwy o amser i wneud Taliad Dewisol Tai heb y manylion hyn.