Fframwaith Gwrthweithio Osgoi Ardrethi Busnes
O’r 1 Ebrill 2026, bydd rheoliadau newydd yn rhoi grym cryfach i awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r rhai sy’n osgoi ardrethi busnes. Y nod yw atal trefniadau artiffisial a ddyluniwyd i leihau neu osgoi talu ardrethi busnes, a sicrhau bod yr holl dalwyr trethi’n cyfrannu’n deg.
Mae’r fframwaith yn nodi’r mathau o drefniadau y gellir eu herio a’r camau gweithredu y gall cynghorau eu cymryd lle nodir bod rhai’n osgoi talu.
Beth mae’r fframwaith yn ei gynnwys
Mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi’n canolbwyntio ar drefniadau artiffisial, anfasnachol, neu sydd wedi’u dylunio i leihau atebolrwydd. Gall awdurdodau lleol weithredu pan fo unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
Meddiannaeth ffug neu anfasnachol
Gallai trefniant gael ei ystyried fel un artiffisial os:
- Na thelir unrhyw fath o rent, neu fod y taliad rhent yn is na gwerth y farchnad
- Mae’r taliad rhent yn cael ei osod yn erbyn taliadau neu fudd-daliadau eraill
- Nid oes gan y meddiannydd unrhyw allu gwirioneddol i ddefnyddio’r eiddo
- Mae’r feddiannaeth yn bodoli er mwyn lleihau atebolrwydd ar gyfer ardrethi’n unig.
Pan nad yw’r feddiannaeth yn un gwirioneddol, gall y cyngor drin y perchennog fel y trethdalwr priodol.
Yn ôl i Beth mae’r fframwaith yn ei gynnwys
Defnyddio cwmnïau sydd wedi’u dirwyn i ben
Mae’r fframwaith yn targedu trefniadau lle bo:
- Cwmni’n cael ei greu i fod yn drethdalwr yn unig
- Mae’r cwmni’n cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol wedi hynny
- Mae’r patrwm yn cael ei ailadrodd i osgoi atebolrwydd parhaus
Os oes gan y perchennog neu’r partïon perthnasol hanes o ymddygiad o’r fath, gall y cyngor ddiystyru'r trefniant hwn.
Yn ôl i Beth mae’r fframwaith yn ei gynnwys
Ymddygiad amheus neu nad yw’n dryloyw
Mae dangosyddion osgoi talu’n cynnwys:
- Gwrthod darparu manylion y trethdalwr gwirioneddol
- Defnyddio unigolion heb gysylltiad â’r busnes
- Defnyddio unigolion gyda hanes o fethdaliad, gwaharddiad neu fasnachu twyllodrus
- Ymdrechion i guddio pwy sy’n gyfrifol am yr eiddo
Pan nad oes tryloywder, gall y cyngor ymchwilio ac ail-bennu atebolrwydd.
Yn ôl i Beth mae’r fframwaith yn ei gynnwys
Meddiannaeth leiaf posibl neu artiffisial
Mae rhai trefniadau’n dibynnu ar weithgarwch hynod gyfyngedig i hawlio meddiannaeth, megis:
- Gosod dyfeisiau bach (e.e. Cysylltiad diwifr neu ddargludydd Bluetooth) mewn eiddo
- Meddiannaeth sy’n bodoli i gefnogi model gostyngiad ardrethi’n unig
Gellir trin y trefniadau hyn fel osgoi talu pan nad yw’r feddiannaeth yn un gwirioneddol.
Yn ôl i Beth mae’r fframwaith yn ei gynnwys
Nodi trefniadau osgoi artiffisial
Gall awdurdodau lleol archwilio achosion lle byddant yn credu bod trefniant osgoi ardrethi busnes wedi’i ddefnyddio. Gellir casglu tystiolaeth gan ffynonellau cyhoeddus neu drwy bwerau statudol y Cyngor.
Ffynonellau Tystiolaeth
Gall y Cynghorau ddefnyddio gwybodaeth o:
- Tŷ’r Cwmnïau.
- Cofrestrau’r Gwasanaeth Ansolfedd
- Cofrestrau’r Comisiwn Elusennau
- Cofnodion Llys
Defnyddio pwerau’r cyngor
Lle bo’r angen, gall gynghorau geisio gwybodaeth neu archwilio eiddo. Gall hyn gynnwys:
- cytundebau prydles
- arolygon eiddo
- cytundebau gyda darparwyr gwasanaethau lliniaru ardrethi trydydd parti
Penderfynu a yw trefniant yn un artiffisial
Mae trefniadau diffiniedig yn cael eu trin fel rhai artiffisial yn ddiofyn, ond gall cynghorau benderfynu fel arall ar ôl ystyried:
- A oes busnes gwirioneddol yn gweithredu
- Faint o’r eiddo sy’n cael ei ddefnyddio
- Ers pryd y mae wedi’i feddiannu
- A yw’r eiddo’n addas ar gyfer gweithgarwch y busnes
Gellir ystyried gwybodaeth leol hefyd.
Pan fydd trefniant yn cael ei nodi fel dull osgoi, bydd yn cael ei drin o dan y fframwaith gwrthweithio osgoi.
Apelio atebolrwydd
Mae’n rhaid i awdurdodau lleol wrthdroi unrhyw fuddion a gaed o drefniant osgoi artiffisial. Mae hyn fel arfer yn golygu adennill yr ardrethi busnes a fyddai’n daladwy o 1 Ebrill 2026 (neu o ddechrau’r trefniant, os yw’n ddiweddarach).
Pan fydd y trefniant yn cael ei ddiystyru, mae’r unigolyn a fyddai fel arfer yn gyfrifol am dalu’r ardrethi busnes, y meddiannydd, neu berchennog yr eiddo os yw’n wag, yn cael eu cyfrif fel y rhai sy’n gyfrifol am y swm cywir.
Rhybudd Atebolrwydd
Bydd yr awdurdod lleol yn cyflwyno rhybudd atebolrwydd i’r unigolyn yr ystyrir fel yr un sy’n atebol. Bydd y rhybudd hwn yn cynnwys:
- Y rheswm dros y penderfyniad
- Gwybodaeth am sut i ofyn am adolygiad
- Gwybodaeth am hawliau i apelio
Gwneud cais i adolygu’r rhybudd atebolrwydd
Gall unigolyn ofyn am adolygiad o fewn 30 diwrnod o dderbyn y rhybudd atebolrwydd.
Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ymateb o fewn 30 diwrnod o dderbyn y cais am adolygiad, gan gadarnhau, addasu neu dynnu’r rhybudd yn ôl.
Apelio’n erbyn y rhybudd atebolrwydd
Os yw’r rhybudd yn cael ei gadarnhau ar ôl adolygiad:
- gellir gwneud apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru o fewn 30 diwrnod.
- mae’n rhaid i’r apêl gynnwys copi o’r rhybudd a’r rhesymau dros ei wrthod.
- gellir gwneud apêl arall i’r Tribiwnlys Uwch o fewn 28 diwrnod o benderfyniad Tribiwnlys Prisio Cymru.
Casglu a gorfodi
Ar ôl adolygu a bod y cyfnodau apelio wedi dod i ben, bydd yr awdurdod lleol yn cyflwyno hysbysiad hawlio ar gyfer pob blwyddyn ariannol yr effeithiwyd arni.
Mae unigolyn sy’n cael eu trin fel unigolyn atebol yn destun y broses gasglu a gorfodi ardrethi busnes safonol, gan gynnwys unrhyw gosbau ychwanegol am beidio â thalu.
Cosbau
Gellir cyflwyno cosb o £500 gan yr awdurdod lleol am beidio â chydymffurfio â’r ddyletswydd. Mae’r taliad yn ddyledus o fewn 21 diwrnod, ac os nad yw’n cael ei dalu bydd yn cael ei adennill fel dyled sifil ar ôl i unrhyw apêl ddod i ben.
Gallai darparu gwybodaeth ffug yn fwriadol neu’n fyrbwyll arwain at ddirwy droseddol ar wahân o hyd at £1,000.
Adolygu cosbau
Gall unigolyn ofyn am adolygu’r gosb o fewn 30 diwrnod o’r hysbysiad. Mae’n rhaid i awdurdod ymateb o fewn 30 diwrnod i gadarnhau, gostwng, neu ganslo’r gosb; os nad ydynt, ystyrir bod y gosb wedi’i chadarnhau. Os yw’r swm yn cael ei ostwng neu ei ganslo, mae’n rhaid cyflwyno hysbysiad diwygiedig ac mae’n rhaid ad-dalu unrhyw ordaliad o fewn 21 diwrnod.
Apelio yn erbyn cosb
Os yw cosb yn cael ei chadarnhau neu ei gostwng ar ôl adolygiad, gall yr unigolyn gyflwyno apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru o fewn 30 diwrnod, gan nodi’r rhesymau.
Gellir gwneud apêl arall i’r Tribiwnlys Uwch o fewn 28 diwrnod o benderfyniad Tribiwnlys Prisio Cymru.