Arolwg Busnes

Mae’n Arolwg Busnes yn ein cynorthwyo i ddeall y problemau mae busnesau yn Sir Ddinbych yn eu hwynebu a dod o hyd i ffyrdd y gallwn ni helpu.

Arolwg Busnes 2021

Cynhaliwyd Arolwg Busnes 2021 ar-lein a thros y ffôn rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021. Cafwyd 421 o ymatebion, sef dros 10% o’r busnesau sydd wedi’u cofrestru yn Sir Ddinbych.

Dyma grynodeb o’r canfyddiadau.

Canol Trefi

Roedd 90.5% o’r busnesau sydd wedi’u lleoli o fewn canol tref yn Sir Ddinbych yn fodlon ar y canol tref hwnnw fel lle i fasnachu.

Cysylltedd Digidol

Roedd 98% o’r ymatebwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer eu busnes. Y sianeli mwyaf poblogaidd i hyrwyddo eu busnes ar-lein oedd Facebook a Google Listings a’u gwefannau eu hunain.

Gofynnwyd i’r busnesau a oes ganddynt signal ffôn symudol digonol, ac roedd 88.6% yn fodlon ar y signal.

Gofynnwyd hefyd pa ddulliau maent yn eu defnyddio i hyrwyddo eu busnes. Darparwyd yr ymateb canlynol:

  • Ar lafar: 95%
  • Facebook: 88%
  • Hysbysebu ar Google 77%
  • Gwefan eu hunain: 70%

Effaith Covid-19 ar fusnesau

Gofynnwyd i’r busnesau sut cawsant eu heffeithio’n ariannol yn ystod pandemig Covid-19:

  • Dywedodd dros eu hanner bod sefyllfa ariannol eu busnes wedi aros yr un fath
  • Dywedodd 39.7% bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu cyllid
  • Dywedodd 5.2% bod pethau wedi bod yn dda iddynt yn ystod y pandemig

I’r rheiny a ddywedodd fod y pandemig wedi cael effaith negyddol, y prif broblemau oedd:

  • Gorfod cau eu busnes yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ystod y cyfnodau clo
  • Llai o fasnach, archebion ac ati
  • Llif arian is

Ffyrlo / Cynllun Cadw Swyddi

Gofynnwyd i’r busnesau a oeddynt wedi defnyddio’r cynllun ffyrlo / cadw swyddi:

  • Dywedodd 290 o fusnesau nad oeddynt wedi defnyddio'r cynllun
  • Dywedodd 131 o fusnesau eu bod wedi defnyddio’r cynllun

Dileu swyddi

Gofynnwyd i’r busnesau a fu’n rhaid iddynt ddiswyddo gweithwyr.

  • Dywedodd 388 o fusnesau na fu’n rhaid iddynt ddiswyddo unrhyw weithiwr
  • Dywedodd 33 o fusnesau y bu’n rhaid iddynt ddiswyddo gweithwyr

Brexit

Pan ofynnwyd iddynt a oedd Brexit wedi effeithio ar eu busnes dywedodd dau draean nad oedd Brexit wedi cael unrhyw effaith (279) a dywedodd 142 ei fod wedi cael effaith.

I’r rheiny a oedd wedi’u heffeithio gan Brexit, gofynnwyd iddynt fanylu ar hynny. O’r 142 busnes a affeithiwyd arnynt, dywedodd 123 (86.6%) mai’r effaith fwyaf oedd oedi yn y gadwyn gyflenwi neu oedi yn y gallu i ddanfon nwyddau i gwsmeriaid dramor.

Heriau i fusnesau

Roedd dau draean o’r busnesau yn bwriadu lleihau costau sefydlog yn ystod y flwyddyn nesaf. Dywedodd bron i chwarter o’r busnesau eu bod yn chwilio am gwsmeriaid newydd neu’n edrych i mewn i fuddsoddi mewn cyfarpar newydd yn ystod yr un cyfnod.

Cymorth i fusnesau

Y ffynhonnell fwyaf cyffredin o gymorth i fusnesau yn ystod y pandemig oedd:

  • CThEM 57.5%
  • Llywodraeth y DU 54.8%
  • Llywodraeth Cymru 53.4%

Banc Datblygu Cymru a dderbyniodd y ganran isaf o ymatebion (2.7%).

Gwarchod y Cyhoedd

Gofynnwyd i’r busnesau a oeddynt wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

  • Dywedodd 387 o fusnesau (91.9%) nad oeddynt wedi bod mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwn
  • Dywedodd 34 o fusnesau (8.1%) eu bod wedi cysylltu â’r gwasanaeth hwn

Pan ofynnwyd iddynt a oedd y gwasanaeth wedi bod o ddefnydd iddynt, dywedodd 30 bod y gwasanaeth wedi bod yn fuddiol.

Newid Hinsawdd

Gofynnwyd i fusnesau nodi unrhyw newid maent wedi’i wneud i helpu i leihau newid hinsawdd a/neu i baratoi ar gyfer ei effaith. Roedd yr ymateb yn cynnwys:

  • Ailgylchu mwy
  • Adolygu llwybrau teithio
  • Darparu hyfforddiant i staff ar ailgylchu
  • Annog gweithwyr i rannu ceir a beicio i’r gwaith
  • Derbyn statws ‘dim plastig’
  • Lleihau wythnos waith staff i 4 diwrnod
  • Dewis cynnyrch ecogyfeillgar pan fo’n bosibl
  • Defnyddio llai o drydan wrth olchi
  • Rhoi dulliau newydd ar waith i ddefnyddio meddalwedd digidol
  • Defnyddio mwy o ddeunyddiau ecogyfeillgar
  • Newid dulliau cludo os yw’r isadeiledd ar gyfer trydan ar gael yn rhwydd
  • Gosod system wresogi biomas