Parhad busnes

Parhad busnes ydi paratoi eich busnes ar gyfer argyfwng fel y gall barhau i weithredu ac adfer os byddai yna argyfwng. 

Pa argyfyngau allai fy musnes eu hwynebu?

Mae yna nifer o drychinebau a allai effeithio ar y ffordd y bydd eich busnes yn rhedeg. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Prinder tanwydd
  • Tân
  • Stormydd a llifogydd
  • Bygythiad bom/Terfysgaeth
  • Lladrad
  • Methiant cyfrifiadurol
  • Halogiad cynnyrch
  • Methiant pŵer
  • Cyhoeddusrwydd niweidiol
  • Colli safle neu staff
  • Lobïo gan garfan bwyso
  • Methiant technegol neu amgylcheddol 

Cynllun Parhad Busnes (CPB)

Rydym yn cymeradwyo eich bod yn creu cynllun parhad busnes i baratoi ar gyfer argyfwng. Rydyn ni wedi cynhyrchu dogfen rheoli parhad busnes ac adferiad ar ôl trychineb i’ch helpu i greu cynllun. Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu taflen gyngorsy’n cynnwys canllaw 5 cam gan y Sefydliad Parhad Busnes. 

Canllaw cynllunio parhad busnes

Rheoli parhad busnes a dogfen adfer ar ôl trychineb