Rhoi gwybod am fater iechyd a diogelwch yn y gweithle

Os ydych chi’n pryderu am fater iechyd a diogelwch mewn gweithle, yn dibynnu ar fath y gweithle, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Pryd i gysylltu â ni

Fe allwch chi gysylltu â ni am y mathau canlynol o safleoedd:: 

  • swyddfeydd (ac eithrio swyddfeydd y llywodraeth)
  • siopau
  • gwestai
  • tai bwyta
  • safleoedd hamdden
  • ysgolion meithrin a grwpiau chwarae
  • tafarndai a chlybiau
  • amgueddfeydd (eiddo preifat)
  • mannau addoli
  • llety gwarchod a chartrefi gofal 

Pa bryd i gysylltu â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch yn y gweithleoedd isod: 

  • ffatrïoedd
  • ffermydd
  • safleoedd adeiladu
  • sefydliadau niwclear
  • cloddfeydd
  • ysgolion a cholegau
  • ffeiriau
  • systemau nwy, trydan a dŵr
  • ysbytai a chartrefi nyrsio
  • safleoedd llywodraeth ganolog a llywodraeth leol
  • sefydliadau alltraeth

Fe allwch chi gyflwyno cwyn i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar-lein (gwefan allanol).