Marchnad y Frenhines, y Rhyl - Datganiadau o Ddiddordeb 

Rydym ni'n chwilio am unigolyn i reoli Marchnad y Frenhines – marchnad newydd sbon danlli yn y Rhyl, Sir Ddinbych.

Bydd Marchnad y Frenhines yn neuadd farchnad gymysg a fydd yn cynnwys casgliad o lefydd bwyta artisan, gofodau manwerthu a gofod digwyddiadau.

Os hoffech chi redeg a rheoli Marchnad y Frenhines neu os oes gennych chi ddiddordeb masnachu ar y safle, cysylltwch â ni yn defnyddio’r ffurflen isod.

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Eich manylion
  • Cyfeiriad gohebu

    Nodwch god post Sir Ddinbych yna cliciwch y botwm ‘Canfod cyfeiriad’.

    Neu, teipiwch eich cyfeiriad isod.