Adfywio'r Rhyl: Prosiect Isadeiledd Gwyrdd

Y Rhyl Gwyrdd

Ynglŷn â Gwyrddio'r Rhyl

Mae'r prosiect Isadeiledd Gwyrdd a ariannwyd drwy gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (gwefan allanol) wedi canolbwyntio ar ddatblygu a gwella mannau Gwyrdd yn ac o amgylch Canol Tref y Rhyl, er mwyn creu cynefinoedd newydd, a darparu ‘coridorau gwyrdd’ i gysylltu canol y dref â mannau cyfoethog o ran bioamrywiaeth megis Pwll Brickfields, Ffos y Rhyl a Glan Morfa.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys coed, cloddiau ac ymylon blodau gwyllt ar Gaeau Chwarae Ffordd Las, dolydd blodau gwyllt a chynlluniau plannu gwell i gymryd lle'r gwair artiffisial ym maes parcio West Kinmel Street, mwy o goed a phlannu gwell ym maes parcio Crescent Road, agor i fyny ac ychwanegiad o goed a phlannu ym maes parcio Crescent Road, agor i fyny a phlannu yn rhan flaen yr hen ardal Gemau Aml-ddefnydd ar Crescent Road, ychwanegu coed i wella'r ardal Tyfu Bwyd Cymunedol yn y lleoliad hwn, wal werdd i'r adeilad ar gornel Ffordd Wellington ac Elwy Street, ac ardal wedi'i phlannu ar waelod y goeden London Plane tu allan i'r orsaf heddlu.

Ewch yn syth i:

Caeau Chwarae Ffordd Las

Mae'r gwaith a drefnwyd ar gyfer Meysydd Chwarae Ffordd Las wedi'i gwblhau heblaw am ailgyflenwi rhai o'r planhigion cloddiau yr hydref hwn. Mae'r gwaith yn cynnwys plannu gwrych rhywogaeth gynhenid ar berimedr Meysydd Chwarae Ffordd Las wrth ymyl Ffordd Las a Marsh Road, a chynnwys grwpiau o goed gyda dôl blodau gwyllt ar y gwaelod.

Cynllun Trefniadau Cyffredinol

Caeau Chwarae Ffordd Las: Cynllun Trefniadau Cyffredinol

Roedd y ffensys ger y ffordd wedi eu cadw, a bydd ffens ar ochr fewnol y man a blannwyd yn diogelu'r coed a'r blodau.

Mae'r lluniau yn dangos cloddio un o'r pyllau coed, gyda graean ar y gwaelod ar gyfer draenio, yna haen o bridd, cyn plannu'r goeden. Mae'r goeden wedi'i chysylltu i'r tri pholyn i gynnig sefydlogrwydd ac mae'r bibell a ddangosir yn galluogi'r dyfrio cychwynnol angenrheidiol i gyrraedd y gwreiddiau, sy'n helpu i sefydlu’r coed.

Y Rhyl Gwyrdd: Pyllau coed Y Rhyl Gwyrdd: Pyllau coed Y Rhyl Gwyrdd: Pyllau coed

Mae'r lluniau isod yn dangos paratoi'r ddaear ar gyfer plannu, yr ardal sydd wedi'i ffensio gyda'r gwrych wedi'i osod ac ardal gyda'r coed a'r pridd arbenigol a chymysgedd o hadau dôl blodau gwyllt.

Y Rhyl Gwyrdd: Paratoi tir Y Rhyl Gwyrdd: Paratoi tir Y Rhyl Gwyrdd: Paratoi tir

Hen lecyn gemau amlddefnydd Crescent Road

Roedd yna ardal rhandir yng nghefn y safle yn barod, ond roedd y prosiect yn gyfle i drawsnewid hwn i ofod gwyrdd gweithredol a deniadol y gall pawb gael mynediad yno.

Mae'r lluniau yn dangos rhywfaint o'r gwaith paratoi ar gyfer y tyllau coed a phlanhigion ar gyfer y ffrynt, y daliwr planhigion a ychwanegwyd yn yr ardal flaen a golygfa o Gordon Avenue.

Y Rhyl Gwyrdd: Ffordd Cilgant Y Rhyl Gwyrdd: Ffordd Cilgant Y Rhyl Gwyrdd: Ffordd Cilgant

Bydd mawn dôl blodau gwyllt yn cael ei ychwanegu i waelod y coed yr hydref hwn.

Roedd dau ddaliwr planhigion wedi eu gosod yn ardal y rhandir gyda rhai coed ffrwythau.

Gwyrddni'r Rhyl

Mae staff Cefn Gwlad Sir Ddinbych a phartneriaid wedi bod yn cynnal sesiynau wythnosol ar y safle i wella gwaith cymunedol, rhoi sylw i'r coed a'r blodau gwyllt newydd a blannwyd a chefnogi preswylwyr lleol a grwpiau cymunedol yn eu tymor tyfu cyntaf.

Maes Parcio Gorllewin Stryd Cinmel

Mae'r cynllun wedi canolbwyntio ar wella plannu a seilwaith o amgylch y coed sydd eisoes wedi eu sefydlu ar y safle. Mae'r gwaith yn cynnwys dalwyr planhigion newydd a newid y dywarchen artiffisial gyda thywarchen dôl blodau gwyllt.

Mae'r gwaith wedi dechrau ac mae rhai o'r dalwyr planhigion nawr wedi eu gosod, fel y dangosir isod. Yn yr hydref wrth i'r tywydd oer, mwy llaith gyrraedd, bydd tywarchen dôl blodau gwyllt yn lle'r dywarchen artiffisial a'r daliwr planhigion a gwaith arall wedi'i gwblhau. Mae'r lluniau isod yn rhoi syniad o’r cynnydd a wnaed hyd yma.

Green Rhyl: West Kinmel Street Car Park

Maes Parcio Crescent Road

Mae'r cynllun hwn wedi galluogi cyflwyno coed i'r ardal a blanwyd eisoes, ac ailwampio'r planhigion sydd yna'n barod ar gyfer gwella peillio a dringwyr i ddarparu diddordeb fertigol a meddalu llwybr y ffens. Mae ardal oedd wedi ei gorchuddio’n flaenorol mewn rhisgl wedi’i blannu gyda thywarchen dôl blodau gwyllt, sydd yn cynnwys bylbiau wedi eu plannu.

Bydd yna fwy o waith i wella'r ardal dôl blodau gwyllt yr hydref hwn, a'r flwyddyn nesaf gyda'r tyfiant newydd, dylid cael gwledd o flodau gwyllt ar y safle.

Gwyrdd Y Rhyl: Maes parcio Heol Cilgant

Coeden London Plane y tu allan i'r Orsaf Heddlu

Mae'r rhan fwyaf o'r cynlluniau wedi canolbwyntio ar gynyddu'r nifer o goed/gorchudd canopi o fewn canol y dref a chyflwyno gwelliannau i blanhigion i wella cynefinoedd a pheillio, ond roedd y cynllun hwn yn ymwneud â chadwraeth coeden London Plane bresennol. Roedd y gwreiddiau coed yn agos at yr wyneb ac yn gwthio i fyny'r pafin oedd yn broblem i'r goeden a'r troedffordd.

Codwyd y pafin o amgylch y goeden yn ofalus i osgoi difrod i wreiddiau'r goeden, ac roedd ymyl cwrb newydd wedi'i osod i’r prif safle a rhywfaint o swbstrad i orchuddio gwreiddiau'r goeden. Bydd y gwelliannau a wnaed yn galluogi dal dŵr fydd yn helpu'r goeden a rhywfaint o laswellt ar waelod y goeden wedi cwblhau'r cynllun hwn.

Mae'r lluniau isod yn dangos y lleoliad cyn ac ar ôl y gwaith.

Prosiect Isadeiledd Gwyrdd: Coeden London Plane y tu allan i'r Orsaf Heddlu

Mae'r Gwasanaethau Cefn Gwlad wedi bod yn dyfrio a chynnal a chadw'r cynlluniau er mwyn iddynt sefydlu, ac maent yn awyddus i hybu a chefnogi cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghanol y Dref, os byddwch chi neu rywun rydych yn ei adnabod â diddordeb mewn bod yn Wirfoddolwr Cefn Gwlad neu Gefnogwr Cymunedol yna gallwch anfon e-bost: amy.trower@sirddinbych.gov.uk neu gwnewch gysylltiad drwy Facebook (gwefan allanol), neu Twitter (gwefan allanol).