Adfywio'r Rhyl: Stryd Edward Henry

Stryd Edward Henry

Roedd y cynlluniau ar gyfer Stryd Edward Henry yn cynnwys adeiladu tai modern i deuluoedd, yn lle’r fflatiau gwag nad oedd yn briodol ar gyfer bywyd modern ac nad oedd yn bodloni anghenion y boblogaeth leol na’r ardal sydd yn llawn llety â fflatiau tebyg.

Mae’r cynllun yma wedi’i leoli yng nghanol y Rhyl ac mae’n bodloni anghenion teuluoedd yn yr ardal leol. Mae’r math o dai sy’n cael eu cynnig yn ymateb i ofynion teuluoedd sy’n chwilio am gartrefi o ansawdd da, yn enwedig y rhai sydd eisiau aros yn yr ardal, neu symud i’r ardal.

Stryd Edward Henry

Y nod oedd creu cynllun tai modern llawn cyfarpar sydd yn sensitif i’r cyd-destun lleol, cymeriad ac ardal gadwraeth, tra’n bodloni amrywiaeth o anghenion gwahanol o ran tai. Mae’r cartrefi newydd yn ymateb i raddfa ac ymddangosiad Fictoraidd, ac maent yn ddeniadol ac yn effeithlon o ran ynni, ac yn hawdd i’w gweithredu ac yn gyfleus.

Mae cael gwared ar stoc dai is safonol ac adeiladu eiddo sydd yn bensaernïol sylweddol mewn modd sensitif yn Stryd Edward Henry wedi gwella safon gorllewin y Rhyl, yn darparu gosodiad mewnol ac allanol gwell, ac o bosibl yn cyflwyno gerddi, cyfleusterau parcio a storio gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo.

Stryd Edward Henry

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Thai ClwydAlyn (gwefan allanol) sydd wedi bod yn arwain y prosiect.