Cadw anifeiliaid 

Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan

Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan (Llywodraeth Cymru)

Cyfrifoldeb y perchnogion yw sicrhau fod anghenion lles anifail yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn cynnwys:

  • Amgylchedd addas
  • Diet addas
  • Y gallu i arddangos eu patrymau ymddygiad arferol
  • Eeu cartrefu gydag anifeiliaid eraill neu ar wahân (os yn briodol)
  • Eu gwarchod rhag poen, dioddefaint, anaf ac afiechyd

Gall unrhyw berson sy’n greulon i anifail, neu sydd methu â chyflawni eu hanghenion lles gael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid, eu dirwyo o hyd at £20,000 ac/neu eu carcharu.

Rhoi gwybod i rywun am greulondeb tuag at anifeiliaid

Ceffylau

Mae'r Cyngor Lles Ceffylau Cenedlaethol (CLlCC) yn gweithio i warchod ceffylau, merlod, asynnod a mulod. Dylech gysylltu â CLlCC os credwch fod ceffyl neu ferlyn mewn trafferth neu angen help (gwefan allanol).

Da byw 

Gallwch gysylltu â ni i’n hysbysu am greulondeb i dda byw.

Cysylltu â ni: Lles ac iechyd anifeiliaid

Anifeiliaid eraill

Gallwch roi gwybod am unrhyw anifail arall sy’n cael ei gam-drin, ei esgeuluso, wedi anafu neu mewn trafferth, drwy ffonio 0300 1234 999 neu ar-lein drwy gofrestru ar wefan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA).

Cofrestru a rhoi gwybod i'r RSPCA am fater (gwefan allanol)

Da byw a dofednod

Hyd yn oed os nad ydych yn cadw da byw er dibenion masnachol, mae’n rhaid ichi gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.

Dylai eiddo sy’n cadw dros 50 aderyn gofrestru hefyd, er y gall eiddo eraill sy’n cadw dofednod gofrestru'n wirfoddol.

Cyngor

Rydym wedi creu'r pamffledi canlynol ar gyfer perchnogion anifeiliaid:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag arbenigwyr lles anifeiliaid i greu Codau Ymarfer sy'n rhoi cyngor ar sut i gyflawni anghenion eich anifail.

Lles anifeiliaid (Llywodraeth Cymru) (gwefan allanol).

Dogfennau cysylltiedig