Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cynllun buddsoddi rhanbarthol

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cafodd y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ar 1 Awst, ers hynny mae chwech awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i wneud paratoadau ar gyfer rheoli’r gronfa (gan gynnwys recriwtio timau i reoli’r gronfa, dylunio’r ffurflenni cais a’r broses ymgeisio) gan dybio y byddai’r Cynllun yn cael ei dderbyn. Fodd bynnag, dylid nodi bod manylion sut fydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei darparu yn parhau’n ansicr. O ganlyniad, bydd Cyngor Sir Ddinbych - yn unol â’i awdurdodau lleol ar draws Gogledd Cymru - ond yn gallu datblygu ceisiadau unwaith y derbyniwyd ac ystyriwyd y manylion gofynnol.  

Bydd y wybodaeth ganlynol o ddiddordeb i ymgeiswyr posibl (ac mae’n gyson ar draws Gogledd Cymru):

  • Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor gwneud penderfyniadau lleol
  • Mae Gogledd Cymru yn ceisio cael proses 2 gam fel y gall ymgeiswyr gael ymdeimlad buan o pa un a yw eu cynnig yn debyg o gael ei gefnogi
  • Byddwn yn cyhoeddi dogfen fyr yn crynhoi’r broses a blaenoriaethau ardaloedd lleol a rhanbarthol ar gyfer buddsoddiad
  • Bydd yn cynnwys hyblygrwydd i hwyluso prosiectau sy’n ystyried darparu mewn un Awdurdod Lleol (ALl), pob ALl yng Ngogledd Cymru neu gyfuniad o ALlau
  • Bydd y dull diofyn ar gyfer darparu drwy grantiau cystadleuol, ond gallwn ystyried comisiynu / caffael os na fydd yna ddiddordeb o fewn Buddsoddiad Blaenoriaeth (hefyd yn cynnal y potensial ar gyfer darpariaeth uniongyrchol yn 2022 / 2023 oherwydd pwysau amser)
  • Rydym yn rhagweld y bydd ceisiadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol yn fwy mewn graddfa (e.e. gyda gwerth dros £250k).  Mae pob ardal leol yn ystyried sefydlu cronfeydd cyfryngol i gefnogi prosiectau llai gan gymunedau a busnesau
  • Byddwn angen ymrwymo arian yn fuan yn y rhaglen (o fewn y chwe mis cyntaf) gan fod amser cyflawni yn fyr (erbyn Mawrth 2025)
  • Cyngor presennol i ymgeiswyr posibl yn syml yw peidio aros i’r systemau a’r strwythurau fod ar waith.   Gellir gwneud gwaith nawr, gan nad oes unrhyw beth i atal dechrau ymgysylltu â phartneriaid / rhanddeiliaid am weithgareddau posibl i sicrhau eu bod wedi datblygu’n dda gyda chefnogaeth eang pan ddaw’r amser
  • Anogir holl ymgeiswyr posibl i adolygu’r Ymyriadau mae Sir Ddinbych wedi eu blaenoriaethu (oherwydd aliniad gydag amcanion strategol lleol), ynghyd â’u Hallbwn a Deilliannau cysylltiol, a lefel arian refeniw a chyfalaf sydd ar gael bob blwyddyn.   Mae’r Ymyriadau hyn wedi dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, ac mae Sir Ddinbych wedi eu clystyru yn thematig.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro