Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 

Gwybodaeth ddiweddaraf

Derbyniodd Cyngor Sir Ddinbych 110 o geisiadau gan brosiectau cymunedol, busnes a menter dros y sir, yn ceisio am swm oedd bron i bedair gwaith yn fwy na’r hyn sydd wedi’i ddyrannu i Sir Ddinbych gan yr UKSPF.

Yn anffodus, golyga hyn na ellir cefnogi’r mwyafrif o brosiectau, a fydd yn newyddion siomedig i nifer o’r ymgeiswyr. Fodd bynnag, bydd cefnogaeth ar gael gan y Cyngor i helpu ymgeiswyr aflwyddiannus i archwilio ffynonellau ariannu eraill ar gyfer eu prosiectau lle bo’n bosibl.

Ar 25 Ebrill 2023, cafodd 29 o brosiectau eu rhoi ar y rhestr fer gan Gabinet Cyngor Sir Ddinbych. Mae’r prosiectau sydd wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych sydd wedi pasio cam 1 o’r broses gwerthuso wedi’u gwahodd i symud ymlaen i gyflwyno cais cam 2. Ni all prosiectau aml awdurdod lleol sydd ar y rhestr fer symud ymlaen i gam 2 nes gwneir penderfyniad ar draws yr holl awdurdodau lleol priodol dros Ogledd Cymru.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU bod cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi’i gymeradwyo. Edrychwn ymlaen at agor y broses ymgeisio unwaith y byddwn wedi derbyn hysbysiad ffurfiol o’r penderfyniad ynglŷn â chyllid a chytundeb grant.  

Daeth yr alwad gyntaf am brosiectau UKSPF yng ngogledd Cymru ar gau ddydd Gwener 24 Chwefror 2023.

Cafodd y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ar 1 Awst, ers hynny mae chwech awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i wneud paratoadau ar gyfer rheoli’r gronfa (gan gynnwys recriwtio timau i reoli’r gronfa, dylunio’r ffurflenni cais a’r broses ymgeisio) gan dybio y byddai’r Cynllun yn cael ei dderbyn. Fodd bynnag, dylid nodi bod manylion sut fydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei darparu yn parhau’n ansicr. O ganlyniad, bydd Cyngor Sir Ddinbych - yn unol â’i awdurdodau lleol ar draws Gogledd Cymru - ond yn gallu datblygu ceisiadau unwaith y derbyniwyd ac ystyriwyd y manylion gofynnol.  

Bydd y wybodaeth ganlynol o ddiddordeb i ymgeiswyr posibl (ac mae’n gyson ar draws Gogledd Cymru):

  • Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor gwneud penderfyniadau lleol
  • Mae Gogledd Cymru yn ceisio cael proses 2 gam fel y gall ymgeiswyr gael ymdeimlad buan o pa un a yw eu cynnig yn debyg o gael ei gefnogi
  • Byddwn yn cyhoeddi dogfen fyr yn crynhoi’r broses a blaenoriaethau ardaloedd lleol a rhanbarthol ar gyfer buddsoddiad
  • Bydd yn cynnwys hyblygrwydd i hwyluso prosiectau sy’n ystyried darparu mewn un Awdurdod Lleol (ALl), pob ALl yng Ngogledd Cymru neu gyfuniad o ALlau
  • Bydd y dull diofyn ar gyfer darparu drwy grantiau cystadleuol, ond gallwn ystyried comisiynu / caffael os na fydd yna ddiddordeb o fewn Buddsoddiad Blaenoriaeth (hefyd yn cynnal y potensial ar gyfer darpariaeth uniongyrchol yn 2022 / 2023 oherwydd pwysau amser)
  • Rydym yn rhagweld y bydd ceisiadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol yn fwy mewn graddfa (e.e. gyda gwerth dros £250k).  Mae pob ardal leol yn ystyried sefydlu cronfeydd cyfryngol i gefnogi prosiectau llai gan gymunedau a busnesau
  • Byddwn angen ymrwymo arian yn fuan yn y rhaglen (o fewn y chwe mis cyntaf) gan fod amser cyflawni yn fyr (erbyn Mawrth 2025)
  • Cyngor presennol i ymgeiswyr posibl yn syml yw peidio aros i’r systemau a’r strwythurau fod ar waith.   Gellir gwneud gwaith nawr, gan nad oes unrhyw beth i atal dechrau ymgysylltu â phartneriaid / rhanddeiliaid am weithgareddau posibl i sicrhau eu bod wedi datblygu’n dda gyda chefnogaeth eang pan ddaw’r amser
  • Anogir holl ymgeiswyr posibl i adolygu’r Ymyriadau mae Sir Ddinbych wedi eu blaenoriaethu (oherwydd aliniad gydag amcanion strategol lleol), ynghyd â’u Hallbwn a Deilliannau cysylltiol, a lefel arian refeniw a chyfalaf sydd ar gael bob blwyddyn.   Mae’r Ymyriadau hyn wedi dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, ac mae Sir Ddinbych wedi eu clystyru yn thematig:
Ffyniannus: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth

Ffyniannus: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 Blwyddyn  Cyfalaf  Refeniw
 Blwyddyn 2  £206,400  £48,000
 Blwyddyn 3  £528,000  £768,000

Ymyriadau

  • W1: Cyllid ar gyfer gwelliannau i ganol trefi a strydoedd mawr, gan gynnwys hygyrchedd gwell ar gyfer pobl anabl, yn cynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
  • W4: Cymorth estynedig ar gyfer sefydliadau diwylliannol, hanesyddol a threftadaeth presennol sy’n rhan o’r cynnig diwylliannol a threftadaeth lleol, gan gynnwys gwelliannau i fynediad i safleoedd i atal effeithiau ynysu, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl.
  • W8: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach a phrofiadau trwy gydol y flwyddyn sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol, a’i harchwilio.
  • W14: Cyllid i gefnogi astudiaethau dichonoldeb perthnasol.
  • W16: Buddsoddi mewn marchnadoedd agored a gwelliannau i seilwaith y sector manwerthu a gwasanaethau yng nghanol trefi, gyda chymorth cofleidiol ar gyfer busnesau bach.
  • W17: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr, fel ei gilydd), fel atyniadau lleol, llwybrau a chynhyrchion twristiaeth yn fwy cyffredinol.

Allbynnau

Allbynnau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 Allbynnau Targed (gwerth rhifiadol)
Maint y tir cyhoeddus a grëwyd neu a wellwyd (m2) (W1)  2,120
Nifer yr asedau Twristiaeth, Diwylliant neu Dreftadaeth a grëwyd neu a wellwyd (gwerth rhifiadol) (W4)  10
Nifer y digwyddiadau/rhaglenni cyfranogol (W4)  12
Nifer y bobl a gyrhaeddwyd (W8)  50,000
Nifer yr astudiaethau dichonoldeb a ddatblygwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W14)  12
Nifer o farchnadoedd lleol yn cael eu creu neu eu cefnogi (W16)  1
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth ariannol ar wahân i grantiau (W16)  5
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W17)  200
Nifer y digwyddiadau neu weithgareddau lleol a gefnogwyd (W17)  100

Canlyniadau

Canlyniadau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 Canlyniadau Targed (gwerth rhifiadol)
Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr (W1, W8, W16) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr (W1, W8) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell hygyrchedd canfyddedig/profiadol (W1) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell canfyddiadau o gyfleusterau/mwynderau (W1) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Nifer y prosiectau sy’n deillio o astudiaethau dichonoldeb wedi’u hariannu (W14) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Swyddi a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W16 )  15
Nifer y mentrau newydd a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W16)  10
Ffyniannus: Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir

Ffyniannus: Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir

Mae cynnig i gyflawni cynllun grant o dan y thema o gefnogi prosiectau llai gan gymunedau a busnesau (o dan £250,000) yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ganol fis Chwefror. Yn ddibynnol ar gymeradwyaeth bydd manylion pellach ar sut i wneud cais am y cyllid hwn yn cael ei rannu yn fuan wedi hynny.

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 Blwyddyn  Cyfalaf  Refeniw
 Blwyddyn 2  £48,000  £628,984
 Blwyddyn 3  £480,000  £816,000

Ymyriadau

  • W23: Cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol, a chefnogi busnesau ym mhob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, yn cynnwys trwy rwydweithiau lleol.
  • W24: Cyllid ar gyfer hybiau hyfforddi newydd, a gwelliannau i rai presennol, cynigion cymorth busnes, ‘unedau hybu’ ac ‘unedau sbarduno’ ar gyfer menter leol (yn cynnwys menter gymdeithasol) sy’n gallu cynorthwyo entrepreneuriaid a busnesau newydd trwy gamau cynnar datblygu a thwf trwy gynnig cyfuniad o wasanaethau, yn cynnwys rheoli cyfrifon, cyngor, adnoddau, hyfforddiant, hyfforddi, mentoriaeth a mynediad i leoedd gwaith.
  • W26: Cymorth ar gyfer tyfu’r economi gymdeithasol leol, yn cynnwys busnesau cymunedol, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.
  • W30: Mesurau cymorth busnes i ysgogi twf mewn cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd â chyfraddau diweithdra uwch.

Allbynnau

Allbynnau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 Allbynnau Targed (gwerth rhifiadol)
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth ariannol ar wahân i grantiau (W23, W24)  175
Nifer y mentrau sy’n cael grantiau (W23, W29, W30)  150
Nifer yr entrepreneuriaid posibl a gafodd gymorth i fod yn barod am fenter (W23, W24)  100
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W26)  100

Canlyniadau

Canlyniadau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 Canlyniadau Targed (gwerth rhifiadol)
Swyddi a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W23, W30)  50
Swyddi a ddiogelwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W23)  25
Nifer y mentrau newydd a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W23)  25
Nifer y mentrau sy’n mabwysiadu cynnyrch neu wasanaethau newydd neu well (W23)  10
Nifer y mentrau sy’n mabwysiadu technoleg neu brosesau newydd i’r cwmni (W23)  15
Iachach, Hapusach, Gofalgar: Meithrin Gallu Cymunedol

Iachach, Hapusach, Gofalgar: Meithrin Gallu Cymunedol

Mae cynnig i gyflawni cynllun grant o dan y thema o gefnogi prosiectau llai gan gymunedau a busnesau (o dan £250,000) yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ganol fis Chwefror. Yn ddibynnol ar gymeradwyaeth bydd manylion pellach ar sut i wneud cais am y cyllid hwn yn cael ei rannu yn fuan wedi hynny.

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Meithrin Gallu Cymunedol
 Blwyddyn  Cyfalaf  Refeniw
 Blwyddyn 2  £259,200  £48,000
 Blwyddyn 3  £432,000  £1,079,524

Ymyriadau

  • W9: Cyllid ar gyfer gwirfoddoli sy’n creu effaith a/neu brosiectau gweithredu cymdeithasol i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol a dynol mewn lleoedd lleol.
  • W11: Buddsoddi mewn meithrin gallu a chymorth seilwaith ar gyfer cymdeithas sifil leol a grwpiau cymunedol.
  • W12: Buddsoddiad mewn cynlluniau ymgysylltu cymunedol i gefnogi ymglymiad cymunedol wrth wneud penderfyniadau mewn adfywio lleol

Allbynnau

Allbynnau: Meithrin Gallu Cymunedol
 Allbynnau Targed (gwerth rhifiadol)
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn cymorth anariannol (W9, W11, W12)  316
Nifer y digwyddiadau neu weithgareddau lleol a gefnogwyd (W9, W12)  838
Nifer y cyfleoedd gwirfoddoli a gefnogir (W9, W12)  690
Nifer y prosiectau a gwblhawyd yn llwyddiannus (W9)  75
Nifer yr amwynderau/cyfleusterau a grëwyd neu a gafodd eu gwella (W11 )  10
Nifer y bobl sy'n mynychu sesiynau hyfforddi  125
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn cymorth ariannol heblaw grantiau (W12)  30
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn grantiau (W12)  57
Nifer y bobl a gyrhaeddwyd  600

Canlyniadau

Canlyniadau: Meithrin Gallu Cymunedol
 Canlyniadau Targed (gwerth rhifiadol)
Gwell niferoedd ymgysylltu (W9, W11, W12) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Nifer y cyfleoedd gwirfoddoli a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W9) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Nifer y cyfleusterau cymunedol newydd neu well o ganlyniad i gefnogaeth (W11)  35
Diwylliant a'r Iaith Gymraeg: Diwylliant, Chwaraeon a Chreadigrwydd

Diwylliant a'r Iaith Gymraeg: Diwylliant, Chwaraeon a Chreadigrwydd

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Diwylliant, Chwaraeon a Chreadigrwydd
 Blwyddyn  Cyfalaf  Refeniw
 Blwyddyn 2  £91,200  £24,000
 Blwyddyn 3  £288,000  £576,000

Ymyriadau

  • W6: Cefnogaeth ar gyfer celfyddydau lleol, gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth a chreadigol.
  • W10: Cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon lleol, twrnameintiau, timau a chynghreiriau; i ddod â phobl at ei gilydd.

Allbynnau

Allbynnau: Diwylliant, Chwaraeon a Chreadigrwydd
 Allbynnau Targed (gwerth rhifiadol)
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn cymorth ariannol heblaw grantiau (W6)  6
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn grantiau (W6)  10
Nifer y sefydliadau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W6)  6
Nifer y digwyddiadau neu weithgareddau lleol a gefnogwyd (W6)  80
Nifer y cyfleoedd gwirfoddoli a gefnogir  65
Nifer yr amwynderau/cyfleusterau a grëwyd neu a gafodd eu gwella (W10)  1

Canlyniadau

Canlyniadau: Diwylliant, Chwaraeon a Chreadigrwydd
 Canlyniadau Targed (gwerth rhifiadol)
Swyddi a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W6)  51
Swyddi a ddiogelwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W6)  20
Cynnydd mewn defnyddwyr (W6) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd mewn ymwelwyr (W6) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell canfyddiad o gyfleusterau / amwynderau (W6) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell niferoedd ymgysylltu (W6) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Nifer y rhaglenni celfyddydau, diwylliannol, treftadaeth a chreadigol a arweinir gan y gymuned o ganlyniad i gefnogaeth (W6)  1,605
Gwell canfyddiad o ddigwyddiadau (W6) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn niferoedd defnyddwyr cyfleusterau / amwynderau (W10) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell Cysylltiedig: Cynhwysiant Digidol

Gwell Cysylltiedig: Cynhwysiant Digidol

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Cynhwysiant Digidol
 Blwyddyn  Cyfalaf  Refeniw
 Blwyddyn 2  £0  £230,400
 Blwyddyn 3  £0  £280,320

Ymyriadau

  • W37: Ymyriadau i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol, gyda ffocws ar sgiliau digidol hanfodol, cyfathrebu manteision mynd (yn ddiogel) ar-lein, a chymorth yn y gymuned i roi’r hyder a’r ymddiriedaeth i ddefnyddwyr aros ar-lein.
  • W42: Cyllid i gefnogi sgiliau digidol lleol.

Allbynnau

Allbynnau: Cynhwysiant Digidol
 Allbynnau Targed (gwerth rhifiadol)
Nifer y bobl a gafodd gefnogaeth i gael mynediad at gyrsiau sgiliau sylfaenol (W37)  60
Nifer y bobl a gefnogir i ymgysylltu â sgiliau bywyd (W37, W42)  790
Nifer y bobl a gefnogir i ennill cymhwyster (W37, W42)  240

Canlyniadau

Canlyniadau: Cynhwysiant Digidol
 Canlyniadau Targed (gwerth rhifiadol)
Pobl sydd wedi cael cymhwyster neu gwblhau cwrs ar ôl cael cefnogaeth (W37, W42)  270
Pobl sy’n ymgysylltu â chefnogaeth sgiliau bywyd yn dilyn ymyraethau (W42)  550
Tecach, Diogel a Mwy Cyfartal: Diogelwch Cymunedol

Tecach, Diogel a Mwy Cyfartal: Diogelwch Cymunedol

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Diogelwch Cymunedol
 Blwyddyn  Cyfalaf  Refeniw
 Blwyddyn 2  £0  £0
 Blwyddyn 3  £1,632,000  £384,000

Ymyriadau

W5: Dylunio a rheoli'r amgylchedd adeiledig a thirluniol i 'ddylunio i atal trosedd'.

Allbynnau

Allbynnau: Diogelwch Cymunedol
 Allbynnau Targed (gwerth rhifiadol)
Maint y tir cyhoeddus a grëwyd neu a wellwyd (m2) (W5)  8,200
Nifer y gwelliannau cymdogaeth a gyflawnwyd (W5)  158

Canlyniadau

Canlyniadau: Diogelwch Cymunedol
 Canlyniadau Targed (gwerth rhifiadol)
Cynnydd mewn defnyddwyr(W5) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn y defnydd o lwybrau beicio neu lwybrau troed (W5) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell canfyddiad o ddiogelwch (W5) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Troseddau cymdogaeth (W5) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwyrddach: Seilwaith Cymunedol

Gwyrddach: Seilwaith Cymunedol

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Seilwaith Cymunedol
 Blwyddyn  Cyfalaf  Refeniw
 Blwyddyn 2  £216,000  £480,000
 Blwyddyn 3  £1,656,000  £1,200,000

Ymyriadau

  • W2: Cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith cymunedau a chymdogaethau newydd, neu welliannau i rai sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys y rheiny sy’n cynyddu gwydnwch cymunedau i beryglon naturiol, fel llifogydd, a buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff a berchnogir yn lleol i wella’r pontio i fywyd sy’n isel o ran carbon. Gallai hyn gwmpasu gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
  • W3: Creu a gwella mannau gwyrdd, gerddi cymunedol, cyrsiau dŵr ac argloddiau lleol, ynghyd ag ymgorffori nodweddion naturiol a gwelliannau i fioamrywiaeth mewn mannau cyhoeddus ehangach.
  • W13: Mesurau cymunedol i leihau costau byw, gan gynnwys drwy fesurau i wella effeithlonrwydd ynni, a brwydro yn erbyn tlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
  • W15: Buddsoddiad a chefnogaeth ar gyfer seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol.
  • W29: Cefnogi datgarboneiddio a gwella’r amgylchedd naturiol wrth dyfu’r economi leol. Mabwysiadu dull systemau cyfan o fuddsoddi mewn seilwaith i gyflawni datgarboneiddio effeithiol ar draws ynni, adeiladau a thrafnidiaeth a thu hwnt, yn unol â’n targed hinsawdd sy’n rhwymo’n gyfreithiol. Cynyddu cryfderau lleol presennol neu ddatblygol mewn technolegau, nwyddau a gwasanaethau carbon isel i fanteisio ar y cyfle byd-eang cynyddol.

Allbynnau

Allbynnau: Seilwaith Cymunedol
 Allbynnau Targed (gwerth rhifiadol)
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn cymorth ariannol heblaw grantiau (W2)  4
Maint y tir cyhoeddus a grëwyd neu a wellwyd (m2) (W3)  21,000
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth ariannol ar wahân i grantiau (W3)  10
Nifer y gwelliannau a wnaed i’r gymdogaeth (W3, W15)  120
Faint o fannau gwyrdd neu las a grëwyd o wella (m2) (W3)  900
Cyfanswm hyd llwybrau beicio neu lwybrau troed newydd neu well (km) (W3)  260
Nifer y coed a blannwyd (W3)  500
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W15, W29)  316
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W29) 50
Nifer y mentrau sy’n cael grantiau (W29)  25
Nifer yr isadeileddau ynni carbon isel neu garbon sero a gwblhawyd (m2) (W29)  25
Nifer y cynlluniau datgarboneiddio a ddatblygwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W29)  50

Canlyniadau

Canlyniadau: Seilwaith Cymunedol
 Canlyniadau Targed (gwerth rhifiadol)
Swyddi a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W2)  2
Swyddi a ddiogelwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W2)  2
Amcangyfrif o ostyngiadau cyfwerth o Garbon deuocsid o ganlyniad i gefnogaeth (W2, W29) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwella canfyddiad o gyfleusterau / amwynderau (W2, W3) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn niferoedd defnyddwyr cyfleusterau / amwynderau (W2, W3) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell canfyddiad o gyfleusterau / prosiect isadeiledd (W2) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn y defnydd o lwybrau beicio (W13) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau

Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Pobl a Sgiliau
 Blwyddyn  Cyfalaf  Refeniw
 Blwyddyn 2  £0  £2,664,000
 Blwyddyn 3  £0  £2,833,920

Ymyriadau

  • W34: Cymorth cyflogaeth i bobl economaidd anweithgar: Cymorth un-i-un dwys a chofleidiol er mwyn symud pobl yn agosach at ddarpariaeth brif ffrwd ac at gael gafael ar gyflogaeth a'i chadw, gan gynnwys cymorth cofleidiol i bobl sy'n ymgymryd â phrentisiaethau, wedi'i ategu gan gymorth sgiliau bywyd a sgiliau sylfaenol ychwanegol a/neu arbenigol (digidol, Saesneg, mathemateg* ac ESOL) lle y ceir bylchau yn y ddarpariaeth leol. Gall y ddarpariaeth hon gynnwys prosiectau sy'n hyrwyddo pwysigrwydd gwaith er mwyn helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol a meithrin cadernid ariannol a llesiant yn y dyfodol. Mae'r carfanau disgwyliedig yn cynnwys pobl ag anghenion cymhleth lluosog (pobl ddigartref, pobl sy'n gadael gofal, cyndroseddwyr, pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau a dioddefwyr trais domestig), pobl ag anabledd a chyflwr iechyd, pobl dros 50 oed, menywod, pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a phobl o leiafrif ethnig, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r bobl hynny yn unig.
    *drwy'r rhaglen Lluosi
  • W35: Mae'r cyrsiau'n cynnwys darpariaeth sgiliau sylfaenol (digidol, Saesneg, mathemateg (drwy raglen Lluosi) ac ESOL), a sgiliau bywyd a sgiliau gyrfa** ar gyfer pobl nad ydynt yn economaidd anweithgar ac na allant gael mynediad at hyfforddiant arall na'r cymorth cofleidiol a nodir uchod. Fe'u hategir gan gymorth ariannol sy'n galluogi dysgwyr i gofrestru ar gyrsiau a chwblhau cymwysterau. Y tu hwnt i hynny, bydd yr ymyriad hwn hefyd yn cyfrannu at ddatblygu cydlyniant cymunedol a hwyluso gwell balchder dinesig cyffredin, gan arwain at well integreiddio i'r rheini sy'n cael cymorth ESOL.
    **lle nad ydynt yn cael eu cynnig drwy ddarpariaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Lywodraeth Cymru.
  • W36: Gweithgareddau megis gweithgareddau cyfoethogi a gwirfoddoli i wella cyfleoedd a hyrwyddo llesiant.
  • W38: Cymorth wedi'i deilwra i helpu pobl mewn cyflogaeth nad ydynt yn cael eu cefnogi gan ddarpariaeth brif ffrwd i fynd i'r afael â rhwystrau i addysg a chyrsiau hyfforddiant. Mae hyn yn cynnwys helpu grwpiau sy'n debygol o adael y farchnad lafur yn gynnar i aros ynddi.
  • W39: Cymorth ar gyfer ardaloedd lleol i gyllido anghenion sgiliau lleol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a chyrsiau technegol a galwedigaethol hyd at lefel 2 a hyfforddiant ar gyfer trwyddedau galwedigaethol sy'n berthnasol i anghenion ardal leol a chymwysterau gwerth uchel lle mae angen capasiti sgiliau ychwanegol na ellir ei ddarparu drwy gyllid prif ffrwd.
  • W43: Cyllid i gefnogi trefniadau ymgysylltu ac i ddatblygu sgiliau meddalach pobl ifanc, gan ystyried gwaith Gyrfa Cymru/Cymru'n Gweithio.

Allbynnau

Allbynnau: Pobl a Sgiliau
 Allbynnau Targed (gwerth rhifiadol)
Nifer y bobl economaidd anweithgar sy'n ymgysylltu â gwasanaethau cymorth gweithwyr allweddol (W34)  575
Nifer y bobl economaidd anweithgar a gefnogir i ymgysylltu â’r system fudd-daliadau (W34)  100
Nifer y bobl sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol sy'n cyrchu cymorth (W34)  600
Nifer y bobl a gafodd gefnogaeth i gael mynediad at gyrsiau sgiliau sylfaenol (W34, W43)  1,130
Nifer y bobl sy'n cyrchu cymorth iechyd meddwl a chorfforol sy'n arwain at gyflogaeth (W34)  260
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i chwilio am waith (W34)  400
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i gael gwaith (W34)  295
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i gynnal cyflogaeth (W34)  100
Nifer yr ymgysylltiadau effeithiol rhwng gweithwyr allweddol a gwasanaethau ychwanegol (W34)  315
Nifer y bobl a gefnogir i ennill cymhwyster (W34, W35, W38, W39, W43)  970
Nifer y bobl a gefnogir i ymgysylltu â sgiliau bywyd (W35, W43)  1,890
Nifer y bobl a gafodd gefnogaeth i gofrestru ar gwrs trwy ddarparu cymorth ariannol (W35)  275
Nifer y bobl a gefnogir i gymryd rhan mewn addysg (W36)  890
Nifer y cyfleoedd gwirfoddoli a gefnogwyd (W36)  240
Nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni profiad gwaith (gwerth rhifiadol)(W36)  345
Nifer y bobl sy'n ailhyfforddi (W36)  80
Nifer y bobl mewn cyflogaeth sy'n ymgysylltu â'r system sgiliau (W38)  80
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i ennill trwydded alwedigaethol (W38, W39)  130

Canlyniadau

Canlyniadau: Pobl a Sgiliau
 Canlyniadau Targed (gwerth rhifiadol)
Nifer yr unigolion economaidd anweithgar sy’n ymgysylltu â’r system fudd-daliadau ar ôl cael cefnogaeth (W34)  75
Nifer y cyfranogwyr gweithredol neu barhaus mewn grwpiau cymunedol o ganlyniad i gefnogaeth (W34)  490
Nifer y bobl sy'n adrodd am fwy o gyflogadwyedd trwy ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a ariennir gan UKSPF (W34)  475
Nifer y bobl â sgiliau sylfaenol ar ôl cael cefnogaeth (W34)  140
Nifer y bobl mewn cyflogaeth â chymorth (W34)  20
Nifer y bobl sy'n parhau i ymgysylltu â chymorth gweithwyr allweddol a gwasanaethau ychwanegol (W34)  320
Nifer y bobl sy'n chwilio am swydd yn dilyn cymorth (gwerth rhifiadol)(W34)  360
Nifer y bobl mewn cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, yn dilyn cymorth (W34, W35, W36)  450
Nifer y bobl sy'n cynnal cyflogaeth am 6 mis (W34)  90
Nifer y bobl mewn addysg/hyfforddiant ar ôl cael cefnogaeth (W35, W36, W39)  930
Nifer y bobl sy’n profi llai o rwystrau strwythurol i gyflogaeth ac i ddarpariaeth sgiliau (W35, W36)  1,230
Nifer y bobl sy’n gyfarwydd â disgwyliadau cyflogwyr, gan gynnwys safonau ymddygiad yn y gweithle (W36)  595
Nifer y bobl sy'n ennill cymwysterau, trwyddedau a sgiliau (W38)  60
Nifer yr unigolion economaidd weithgar sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant sgiliau prif ffrwd (W39)  100
Cynnydd yn nifer y bobl yn ennill cymwysterau, trwyddedau a sgiliau (W43) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn cymorth sgiliau bywyd yn dilyn ymyriadau (W43) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd

Diweddariadau

Diweddariad mis Hydref 2022

Diweddariad mis Hydref 2022

Yn dilyn cyflwyno Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ym mis Awst 2022, mae Sir Ddinbych, ynghyd â phum awdurdod lleol arall y gogledd, yn aros am adborth gan Lywodraeth y DU. Rydym ni’n gweithio gyda’n cydweithwyr ar draws y rhanbarth i ddatblygu’r broses ymgeisio ac yn gobeithio dechrau gwahodd ceisiadau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Yn y cyfamser, anfonwch e-bost at sharedprosperityfund@denbighshire.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Diweddariad Awst 2022

Diweddariad Awst 2022

Diolch yn fawr i'r holl bartneriaid a gyfrannodd i ddatblygu elfen Sir Ddinbych yn y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer Y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Bu i Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru weithio gyda'i gilydd mewn camau i greu cynllun rhanbarthol i'w gyflwyno ar 1 Awst. Roedd hyn ar lefel uchel iawn ac wedi'i lunio i ddatgloi’r dyraniadau i bob Awdurdod Lleol. Mae Cyngor Gwynedd yn arwain ar Gynllun Gogledd Cymru ar ran y chwe awdurdod.

Ni wnaeth prif ffocws y Cynllun Buddsoddiad Rhanbarthol yn bellach na dewis "ymyriadau". Roedd yr ymyriadau yn lledaenu dros 3 biler (Pobl a Sgiliau, Cefnogi Busnes Lleol, a Chymunedau a Lle) yn disgrifio’n effeithiol cwmpas y gweithgaredd cymwys.

Drwy ymgysylltiad â rhanddeiliaid, roeddem yn gallu penderfynu bod digon o angen/ diddordeb yn Sir Ddinbych i gynnwys 29 ymyriad yn ein hystyriaeth, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu wrth ddrafftio Cynllun Rhanbarthol.

Nid yw Sir Ddinbych, fel yr Awdurdodau Lleol yn y rhanbarth wedi gofyn am geisiadau am gyllid ffurfiol na datganiadau o ddiddordeb ar hyn o bryd (fel y maent wedi mewn rhannau eraill o Gymru), ond wedi croesawu adborth ar y mathau o weithgaredd lleol sydd yn alinio gydag Ymyriadau Llywodraeth y DU.

Byddai rhaid i'r syniadau ddangos yn y pen draw sut y gallent ddarparu'r cynnyrch a deilliannau sy'n ofynnol yn Sir Ddinbych (a dangos aliniad strategol gyda dogfennau megis Cynllun Corfforaethol y Cyngor). Byddant yn cael eu rhannu gyda Bwrdd Partneriaeth Ymgynghorol, aelodaeth sy’n cael ei benderfynu gan Lywodraeth y DU, a fydd yn gwneud argymhellion i'r Cyngor ar gyfer buddsoddiad. Mae proses llywodraethu hwn yn cael ei ddatblygu, a byddwn yn diweddaru’r dudalen hon a rhannu rhagor o wybodaeth ar ôl ei ddatblygu.

Yn y cyfamser, anfonwch e-bost at sharedprosperityfund@denbighshire.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.


Cefndir

Ar 13 Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU fwy o fanylion am y Gronfa Ffyniant Gyffredin (gwefan allanol). Mae'r gronfa hon yn disodli cyllid yr oedd y Cyngor yn arfer ei dderbyn gan Ewrop.

Mae £25.6 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych dros y tair blynedd nesaf i’w fuddsoddi. Mae £21.2 miliwn o'r cyllid hwn yn gyllid craidd a £4.4 miliwn ohono ar gyfer rhaglen 'luosi' genedlaethol.

Rydym ni rŵan wedi cael cyfle i gyflymu ein cynlluniau ar gyfer y gronfa, ac adeiladu ar themâu ein Cynllun Corfforaethol. Byddwn yn datblygu cynllun buddsoddi i ddarparu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb, a chreu a datblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy y gallwn ymfalchïo ynddyn nhw.

Mae’n rhaid i ni gyflwyno’r cynllun buddsoddi i'r llywodraeth erbyn 1 Awst 2022.

Bydd y cynllun yn ystyried tair thema’r gronfa fel y’u nodir gan y llywodraeth.

  • Cymunedau a lleoedd
  • Busnesau lleol
  • Pobl a sgiliau

Wrth ddatblygu'r cynllun byddwn hefyd yn ystyried amcanion y gronfa.

  • Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflogau, swyddi a safonau byw
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus
  • Adfer synnwyr o gymuned, balchder lleol a pherthyn
  • Grymuso arweinwyr lleol a chymunedau

I ddatblygu ein cynllun buddsoddi lleol byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorwyr, Aelodau Seneddol a budd-ddeiliaid lleol, yn cynnwys busnesau a thrigolion.

Y rhanbarth ehangach

Bydd y cynllun buddsoddi, er y bydd wedi’i lunio ar lefel ddarparu sirol, yn cyd-fynd â chynllun buddsoddi rhanbarthol ac yn nodi sut y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir y Fflint a Wrecsam) i rannu dysgu ac arferion gorau ac i nodi meysydd ar gyfer cydweithio - lle gellir rhoi mwy o fudd i drigolion ar draws ardal ehangach.

Logo Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU