Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Nod y prosiect newydd hwn yw darparu gwelliannau i Faes Parcio Lôn Las ac annog ymwelwyr i’w ddefnyddio. Bwriad y prosiect yw gwella amser a gwariant ymwelwyr a hefyd darparu cyfleusterau gwell i breswylwyr a busnesau lleol.
I gyflawni hyn, bydd y prosiect yn ceisio darparu:
Cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth cyhoeddus yn 2023 i rannu’r cynigion.
Bydd y gwaith adeiladu yn digwydd mewn dau gam, bydd Cam 1 yn dechrau ym mis Mehefin / Gorffennaf a Cham 2 ym mis Hydref. Er y bydd y gwaith yn tarfu rhywfaint ar y briffordd a mynediad i’r palmant mewn rhai mannau, ni fydd hyn yn para’n hir ac ni fydd yn digwydd yn ystod gwyliau ysgol.
Mae'r prosiect hwn wedi darparu’r isod:
Y Toiledau Cyhoeddus Dynion/Merched wedi eu hadnewyddu ym Maes Parcio Lôn Las, Corwen.
Y Toiled Hygyrch sy’n Deall Dementia ar ochr y Toiledau Cyhoeddus, gyda mynedfa ar wahân.
Maes Parcio Lôn Las: Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.
Browser does not support script.