Cronfa Adfywio Lleol: Newyddlen Rhaglen Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych - Tachwedd 2025

Rhifyn 2

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Ers ein newyddlen gyntaf, mae Llywodraeth y DU wedi ailenwi’r rhaglen gyllido hon. Erbyn hyn, ei enw fydd y Gronfa Adfywio Leol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych. Mae’r arian a sicrhawyd wedi’i ddyrannu ar gyfer y 7 prosiect llwyddiannus hyn yn unig ac nid oes modd eu trosglwyddo i brosiectau neu wasanaethau eraill. Isod, gwelwch y newyddion diweddaraf ar ein saith prosiect cyffrous.

Promenâd Canolog a Pharth Cyhoeddus Canol Tref y Rhyl

Unwaith bydd y prosiectau hyn wedi cael eu cyflawni, bydd canol y dref a’r promenâd canolog yn teimlo’n fwy cysylltiedig, gyda golwg newydd, ffres.

Mae dyluniadau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddent yn cael eu rhannu mewn digwyddiad ymgysylltiad cyhoeddus ar 9 Rhagfyr, a gynhelir yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl o 1pm i 7pm. Galwch heibio ar unrhyw adeg i gwrdd â’r tîm prosiect. Bydd hwn yn gyfle i weld y dyluniadau dechreuol, a rhannu eich barn a gofyn unrhyw gwestiynau.

Parc Poced Parth y Rhyl

Parc Poced Parth y Rhyl

Parc Poced Parth y Rhyl

Yn dilyn dymchwel adeiladu nad oedd yn strwythurol ddiogel ar ochr ddeheuol Stryd Fawr y Rhyl, mae cyllid wedi cael ei sicrhau i ddatblygu gydag adfywio’r safle. Bydd gweddill yr adeilad yn cael ei ddymchwel, a bydd yr ardal yn cael ei thrawsnewid i ofod bach gwyrdd, bywiog o’r enw ‘parc poced’. Wedi’i gynllunio i greu mynediad mwy deniadol a chroesawgar i ganol y dref, bydd y parc yn ofod dymunol i bobl fwynhau a bydd yn gwella’r parth cyhoeddus.

Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno, gan gynnwys newidiadau dylunio yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni. Gallwch weld y cais yma neu ar Borth Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych gan nodi cyfeirnod y cais 45/2025/0441/CA.

Gallwch hefyd gwrdd â’r tîm prosiect yn y digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus ar 9 Rhagfyr yng Nghlwb Ieuenctid y Rhyl (1pm - 7pm).

Parth Cyhoeddus, Marchnad y Frenhines

Bwriad y prosiect parth cyhoeddus hwn yw cefnogi cynaliadwyedd swyddogaethau Marchnad y Frenhines newydd, gan ddarparu gofod allanol mwy deniadol a hygyrch.

Cyn i Farchnad y Frenhines agor fis Gorffennaf 25, gosodwyd decin newydd, seddi tu allan, hwyliau cysgodi a gasebo wedi’u hariannu gan y Gronfa Adfywio Leol. Derbyniodd y cyrchfan ddiddordeb mawr, a defnyddiwyd y cyfleusterau awyr agored yn helaeth dros fisoedd y gaeaf.

Parth Cyhoeddus Marchnad y Frenhines

Marchnad y Frenhines, Y Rhyl: Decin newydd a seddi tu allan.

Dechreuodd gwaith ar Barc y Plant ar ddiwedd Awst, gydag agoriad swyddogol y parc ar 6 Hydref. Mae'r ardal chwarae gynhwysol yn cynnwys mwy nag 20 o nodweddion chwarae, ac mae lle i dros 40 o ddefnyddwyr ar unrhyw adeg benodol. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer plant 0-10+ oed, ac mae'r ardal chwarae yn cynnwys byrddau chwarae rhyngweithiol, synhwyraidd a chyffyrddol. O ystyried ei lleoliad, mae gan yr ardal chwarae themâu bwyd a diod, ac mae thema ‘caffi’ a ‘hufen iâ’ wedi’u hymgorffori yn rhai o’r offer chwarae.

Marchnad y Frenhines: Ardal Chwarae

Marchnad y Frenhines: Ardal Chwarae

Gallwch ddod o hyd i fwy am Farchnad y Frenhines gan gynnwys Beth Sydd ‘Mlaen gan ddefnyddio’r ddolen hon (gwefan allanol).

Stryd Fawr Prestatyn

Nod y prosiect hwn yw gwella golwg a theimlad Stryd Fawr Prestatyn a gwella mynediad i’r stryd fawr o’r parc manwerthu, rheilffordd a gorsafoedd bysiau. Dros yr haf, cyflawnodd y tîm prosiect arolygon i siapio’r dyluniadau dechreuol, gan ganolbwyntio ar ardaloedd allweddol. Sylwch nad yw’r gwelliannau ac ardaloedd arfaethedig a amlinellir yn y dyluniadau hyn yn rhai terfynol ac yn parhau i fod yn destun newidiadau.

Stryd Fawr Prestatyn: Gwelliannau Arfaethedig
ArdalGwelliannau Arfaethedig
O’r orsaf fysiau i’r Stryd Fawr
  • Arwyddion clir newydd
  • Planhigion ychwanegol
  • Murlun gan artist lleol
  • Polion baner ar gyfer arddangosfeydd lliwgar
  • Palmant wedi’i uwchraddio ar gyfer gwell hygyrchedd a mynediad i bobl anabl
Yr ali sy’n cysylltu Parc Prestatyn â’r Stryd Fawr
  • Gwell goleuadau
  • Gwaith celf llachar
  • Baneri a bynting tymhorol
  • Palmant wedi’i uwchraddio er mwyn gwell hygyrchedd
  • Coed i gael eu goleuo wrth y fynedfa i’r ali
Mynedfa o Barc Prestatyn i’r Stryd Fawr
  • Plannu coed
  • Bwa addurniadol yn cynnwys logo Clawdd Offa
  • Arwyddion a Chyfeirbyst
  • Goleuadau i oleuo’r gwaith celf
Mynediad Llwybr Troed o Barc Prestatyn i’r Stryd Fawr
  • Goleuadau i wella diogelwch
  • Cerfluniau a chelf wal lliwgar
  • Baneri a bynting
  • Palmant wedi’i uwchraddio er mwyn gwell hygyrchedd
Ardal Eglwys Crist
  • Lledu’r palmant ar gyfer meinciau a phlanhigion
  • Cerflun a gwaith celf lleol
  • Arwyddion dehongli
  • Gwell goleuadau
  • Palmant wedi’i uwchraddio a mannau croesi ychwanegol
Pen Deheuol y Stryd Fawr
  • Planhigion newydd a seddi cysgodol
  • Ardaloedd teras bwytai wedi’i ehangu
  • Polion baner ar gyfer arddangosfeydd lliwgar
  • Mwy o groesfannau ar gyfer hygyrchedd a defnydd cerddwyr

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y cynllun gwella’r Stryd Fawr o 15 Medi i 31 Hydref, gyda’r dyluniadau ar gael ar-lein ac yn Llyfrgell Prestatyn.

Fe wnaethom hefyd gynnal digwyddiad gwybodaeth i’r cyhoedd yn Sinema Scala ar 18 Medi, lle cafodd y mynychwyr weld dyluniadau cysyniadol ac ymgysylltu mewn trafodaethau gwerthfawr gyda’r tîm prosiect a’r peirianwyr.

Digwyddiad Scala Prestatyn

Digwyddiad Scala Prestatyn.

Cyflwynwyd 85 o ymatebion i’r ymgynghoriad, a bydd y tîm prosiect yn adolygu’r adborth ac yn rhannu diweddariad ar ddechrau 2026.

Parc Natur Morfa Prestatyn

Wedi’i leoli yng nghanol Prestatyn mae yna Fan Gwyrdd Agored oddeutu 60 erw o faint sydd yn cynnwys Coetir a Gwlypdir Cymunedol. Nod y prosiect hwn yw creu rhwydwaith o lwybrau hygyrch i gerddwyr a beicwyr ac i alluogi preswylwyr ac ymwelwyr i werthfawrogi’r adnodd naturiol rhagorol hwn.

Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd pedwar taith gerdded ym Mharc Natur Morfa gan gasglu adborth gwerthfawr gan y gymuned. Hefyd fe ymunodd y tîm prosiect yn y Digwyddiad Gwybodaeth Prestatyn yn Sinema Scala, lle cafodd ymwelwyr archwilio’r dyluniadau cysyniadol ar gyfer llwybrau a byrddau cerdded newydd. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys pedair pont a dau blatfform gwylio, gyda meinciau pren a’r llwybr cyfan yn hygyrch i bawb.

Ar ôl cwblhau’r dyluniad cysyniadol, mae’r tîm prosiect bellach yn symud i’r cam peirianneg manwl, a fydd yn siapio’r agwedd dechnegol. Yn y misoedd nesaf, bydd y tîm yn gwneud cais am Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion amgylcheddol. Ar yr un pryd, byddent yn dechrau paratoi'r holl ddogfennau cais cynllunio, gyda’r nod o’u cyflwyno yng Ngwanwyn 2026.

Diolch i chi am eich diddordeb parhaus yn y Gronfa Adfywio Leol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych. Edrychwn ymlaen at rannu mwy o ddiweddariadau wrth i’r prosiectau hyn ddatblygu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu, mae croeso i chi gysylltu â ni ar corporateprogrammeoffice@denbighshire.gov.uk.