Caethwasiaeth fodern

Caethwasiaeth fodern yw camfanteisio ar bobl yn anghyfreithlon er budd personol neu fasnachol. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o gam-drin a chamfanteisio gan gynnwys camfanteisio rhywiol, caethwasanaeth domestig, llafur gorfodol, camfanteisio troseddol a chynaeafu organau.

Gall pobl o unrhyw oed, rhywedd, cenedligrwydd ac ethnigrwydd ddioddef caethwasiaeth fodern. Maen nhw’n cael eu twyllo neu eu bygwth i weithio ac yn teimlo ei bod yn amhosibl gadael neu ddweud ynglŷn â’r drosedd oherwydd ofn neu fygythiadau. Efallai na fyddan nhw’n adnabod eu hunain fel dioddefwyr.

Mathau o gaethwasiaeth

Mae mathau o gaethwasiaeth fodern yn cynnwys:

  • Masnachu pobl - caiff oedolion a phlant eu masnachu fel y gellir eu hecsbloetio gan eraill er budd masnachol
  • Llafur gorfodol - gorfodir dioddefwyr i weithio’n groes i’w hewyllys, gan yn aml weithio oriau hir iawn am ddim neu fawr ddim tâl ac mewn amodau trychinebus gan ddioddef bygythiadau geiriol neu gorfforol o drais iddynt hwy neu eu teuluoedd. Gall ddigwydd mewn nifer o sectorau’r economi.
  • Camfanteisio rhywiol – rhoddir pwysau ar ddioddefwyr i gyflawni gweithredoedd rhyw heb gydsyniad neu mewn modd camdriniol, megis puteindra, gweithio fel cydymaith neu bornograffi. Mae merched a phlant yn cyfrif am y mwyafrif o’r dioddefwyr, ond gall hefyd effeithio ar ddynion.
  • Camfanteisio troseddol - caiff dioddefwyr, a fydd yn aml yn cael eu rheoli a’u cam-drin, eu gorfodi i gyflawni troseddau megis tyfu canabis neu bigo pocedi yn groes i’w hewyllys. Efallai y bydd y sawl sy’n camfanteisio arnynt hefyd yn cymryd eu budd-daliadau.
  • Cynaeafu organau – tynnu organau mewnol rhywun yn anghyfreithlon, y gellir wedyn eu gwerthu.

Arwyddion i chwilio amdanynt

Gallai caethwasiaeth fodern fod yn digwydd yn eich cymuned chi, felly mae'n bwysig eich bod yn adnabod yr arwyddion a allai ddangos bod rhywun yn dioddef o'r drosedd hon.

Nid yw’r arwyddion bob amser yn amlwg ond mae rhai y gallech o bosibl sylwi arnynt: 

  • a yw unigolyn yn edrych yn flêr, fel pe baent â diffyg maeth neu wedi eu hanafu?
  • a yw unigolyn yn ymddwyn yn orbryderus, yn ofnus neu’n methu â gwneud cyswllt llygaid?
  • a yw unigolyn yn gwneud oriau hir, yn gwisgo dillad anaddas neu â’r offer anghywir ar gyfer y gwaith?
  • a yw cartref yr unigolyn yn orlawn, diffyg gwaith cynnal a chadw neu a yw’r llenni bob amser ar gau?
  • a yw unigolyn yn ymddwyn fel petaent yn cael eu cyfarwyddo gan rywun arall, yn cael eu casglu/gollwng ar yr un pryd ac yn yr un man bob dydd neu nid oes ganddynt fynediad at arian neu ddull adnabod?

Sut i ddweud ynglŷn â chaethwasiaeth fodern

Dylai achosion dan amheuaeth o gaethwasiaeth Fodern gael eu hadrodd fel a ganlyn:

  • Mewn argyfwng: ffoniwch 999
  • Os nad yw’n argyfwng: ffoniwch 101
  • Os hoffech chi aros yn ddienw, ffoniwch CrimeStoppers: 0800 555 111

Cael cymorth i ddioddefwr

Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn ddioddefwr posib o gaethwasiaeth fodern, gallwch gysylltu â’r sefydliadau canlynol i gael cymorth a chyngor: