Rhoi gwybod inni am drosedd

Mewn argyfwng, os yw bywyd rhywun mewn perygl neu os oes rhywun yn troseddu, deialwch 999 bob tro.

Cofiwch beidio â defnyddio’r rhif hwn dim ond mewn argyfwng gwirioneddol.

Darganfod mwy am bryd i ddefnyddio’r llinell frys, a phryd i beidio â‘i defnyddio (gwefan allanol).

Am achosion nad ydynt yn rai brys deialwch: 101 neu 0300 330 0101.

Cyn galw’r rhif hwn gofynnwch a yw’n fater i’r heddlu mewn gwirionedd neu a oes asiantaeth arall a fyddai efallai’n fwy addas i’ch helpu.

Gadael inni wybod am drosedd yn ddienw

Os hoffech adael inni wybod am drosedd heb roi eich enw, yna gallwch gysylltu â Crimestoppers yn gwbl ddienw drwy ffonio 0800 555 111 neu thrwy gwblhau eu ffurflen arlein.

Crimestoppers: Rhoi gwybodaeth yn ddienw (gwefan allanol).

Rhoi gwybod am drosedd casineb

Trosedd a gyflawnwyd oherwydd pwy ydych chi, neu oherwydd bod rhywun yn tybio ei fod yn gywbod pwy ydych ch,i yw trosedd casineb. Os ydy rhywun yn eich targedu oherwydd eich oed, anabledd, rhywioldeb, crefydd, ethnigrwydd, rhywedd, neu'ch ffordd o fyw (e.e. Goth), dyna yw trosedd casineb. Gall hyn gynnyws:

  • cam-drin geiriol
  • graffiti sarhaus
  • ymddygiad bythygiol
  • difrod i eiddo
  • ymosodiad
  • bwlio seiber
  • negeseuon testun, e-byst neu alwadau ffôn ymosodol
  • dwyn arian oddi wrthych

Gallwch chi roi gwybod am drosedd casineb, a chael cymorth, ar wefan Victim Suport (gwefan allanol).